David Melding: Trefn. Rydym yn awr yn ailddechrau gydag eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Lynne Neagle.
David Melding: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn y de, rydym yn debygol yn ystod y dyddiau nesaf o weld lefelau heintio o 1,000 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ac erbyn y Nadolig, gallen nhw godi hyd yn oed yn uwch a chyrraedd y lefelau uchaf erioed a welwyd yn ardal Walloon yng Ngwlad Belg ddechrau'r hydref. Dyna faint yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Ac mae siawns go iawn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, y...
David Melding: Prif Weinidog, diben cynllun grant rhwystrau Busnes Cymru yw blaenoriaethu'r rhai y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnyn nhw, fel menywod, pobl anabl, pobl o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant, ac i roi rhywfaint o gymorth ariannol i'r bobl hynny a fydd eisiau sefydlu busnes yn ystod y misoedd nesaf. Tybed pryd y bydd y...
David Melding: O ran ei effaith ar y gweinyddiaethau datganoledig, credaf ei bod yn bwysig nodi yma fod y Bil mewn perygl o’i gwneud yn llawer anoddach i arfer pwerau datganoledig, ac wrth eu harfer y mae pwerau'n arwyddocaol. Gallant fodoli'n dybiannol, ac mae llawer o bobl wedi cyfeirio at y 70 o bwerau ychwanegol yn ôl pob sôn a fydd yn dod inni wrth iddynt gael eu symud o Frwsel, ond os na ellir...
David Melding: Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a'r rheswm rwy'n siarad yw fy mod am gymeradwyo adroddiad y pwyllgor. Hoffwn bwysleisio nad wyf yn erbyn egwyddor y Bil marchnad fewnol, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod yr un ger ein bron wedi’i ruthro a heb ei gynllunio’n dda, yn nodweddiadol o ystyried ei oblygiadau cyfansoddiadol. Yn wahanol i'r...
David Melding: Ceisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau rhagorol a wnaeth Helen Mary, ond hoffwn eu hategu'n llawn. Byddwn yn dweud hyn, serch hynny, am y gwelliant yn y sylw a roddir i faterion datganoledig, fod Mark Drakeford wedi dod yn dipyn o ffigwr cwlt ledled y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn ddatganiad di-bolisi ar fy rhan i, ond mae wedi cael proffil, mae wedi cael ei broffilio hefyd ar Radio 4 gan Nick...
David Melding: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. A wnaiff hi ategu fy nghanmoliaeth i'r ymchwil a wnaed gan brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ac a gyhoeddwyd fis diwethaf yn y cyfnodolyn uchel ei barch Frontiers in Psychiatry? Mae'n astudiaeth un wlad, sy'n myfyrio ar arolwg cynharach a gynhaliwyd yn 2018-19, ac yna'n cymharu sut roedd pobl yn teimlo yn ystod y pandemig. Dangosodd gynnydd o deirgwaith...
David Melding: 5. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo gwydnwch gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ55968
David Melding: A gaf i ymddiheuro os yw unrhyw beth a grybwyllaf yn fy nghyfraniad eisoes wedi cael sylw yn y rhan o araith y Cwnsler Cyffredinol a gyflwynwyd yn Gymraeg? Nid oedd y cyfieithu yn gweithio ar fy nyfais i, mae arnaf ofn. Rwy'n credu bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn wrth ddadansoddi gweithrediad tribiwnlysoedd yng Nghymru, ac felly bydd o ddiddordeb cyffredinol i bobl, oherwydd gall yr...
David Melding: Diolch i'r Llywydd am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cymeradwyo'r arloesedd a welsom, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, drwy gydol y cyfnod datganoli yng Nghymru, ac yn sicr yn ystod y pumed Senedd hon. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, oherwydd mae pob un ohonom eisiau dinasyddiaeth weithredol, fel y clywsom mewn atebion blaenorol. Ac mae'n ymddangos i mi, yn ogystal â...
David Melding: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Tybed a ydych wedi cael cyfle i ystyried sylwadau'r Athro Sally Holland, y comisiynydd plant, i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis hwn, a ddywedodd fod y gwasanaethau a gâi eu darparu o'r ysgolion a oedd yn cynnig presenoldeb amser llawn neu allgymorth gweithredol i hybiau nad oeddent prin yn bodoli, yn amrywio'n enfawr, yn ystod y...
David Melding: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19? OQ55920
David Melding: 4. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo rhith-fynediad at drafodion y Senedd gan y cyhoedd? OQ55921
David Melding: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? A byddai ef hefyd wedi clywed y drafodaeth yn y Siambr yr wythnos diwethaf gyda'r Gweinidog tai, ac mae'r o 100 neu 101 o bobl sy'n cysgu ar strydoedd trefi a dinasoedd Cymru erbyn hyn yn peri gofid mawr. Gwn fod mwy na 3,000 neu 3,500, rwy'n credu, wedi cael cymorth yn ystod COVID i gael llety brys o ryw fath neu'i gilydd, ac mae hynny'n...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n pryderu yn arbennig am bobl ifanc yng Nghanol De Cymru, gan gynnwys Pontypridd, sy'n ymuno â'r farchnad lafur neu'n ceisio ymuno â hi yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n credu bod gennym ni brofiad gwael iawn yn y gorffennol o bobl ifanc yn ymuno â'r farchnad lafur yn ystod cyfnod o adfyd economaidd. A byddwn yn eich annog i edrych ar y pecynnau hyfforddi a hefyd y cyllid...
David Melding: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amcangyfrif o nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru? OQ55919
David Melding: Mae bob amser yn bleser ac yn rhwystredig, weithiau, cael dilyn Helen Mary, oherwydd mae hi mor ysbrydoledig ac weithiau'n bryfoclyd yn ei sylwadau, a byddwn yn dweud ei fod yn gyfuniad hyfryd i'w gael gan un o'ch gwrthwynebwyr. O ran y cynllun ffyrlo, sy'n sylweddol iawn yn fy marn i, rydym wedi galw am rywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi gwrando arno—ein llais ni, ymhlith llawer o leisiau...
David Melding: Rwy'n falch iawn ein bod wedi gweld gwelliannau mawr yn ansawdd tai cymdeithasol, ond mae rheoleiddio gwael wedi bod, o ran y rheoliadau eu hunain—y rheoliadau adeiladu—a'r broses o'u harchwilio mewn llawer o'r stoc tai preifat, yn enwedig mewn crynoadau o dai mwy dwys. Ac rwy'n meddwl tybed pa mor hyderus ydych chi na fyddwn yn gweld, yn y 2020au, pan fyddwn yn wynebu galwadau mawr i...
David Melding: Weinidog, tybed a allech ddweud wrthym sut rydych yn mynd i nodi’r eiddo hŷn sy'n rhan sylweddol o stoc dai Cymru, ac yn sicr cyn 1930 ac yn enwedig cyn y rhyfel byd cyntaf, ychydig iawn o'r eiddo hynny sydd yn nwylo landlordiaid cymdeithasol, ac eto mae'n debyg fod y crynhoad mwyaf o deuluoedd incwm isel yn byw yn y math hwnnw o dai. Maent hefyd yn anodd eu hôl-osod. Felly, mae angen...
David Melding: 8. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ers 2016 i wella ansawdd stoc tai Cymru? OQ55867