Vaughan Gething: Fe geisiaf i.
Vaughan Gething: O ran y pwynt sylweddol cyntaf y gofynnodd amdano, fe fyddwn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf ynghylch manylion y cynllun y mae'n ei awgrymu, yn hytrach na cheisio rhoi ateb tri gair yn y Siambr heddiw. O ran yr heriau o lai o gefnogaeth ynghylch prisiau ynni, mae'n werth atgoffa pobl, pan fydd Llywodraeth y DU yn siarad am gwsmeriaid annomestig, nad ydyn nhw'n siarad am wasanaethau...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiynau. Fel gŵyr yr Aelod, rydym yn datblygu ein cynllun sgiliau sero net. Mae rhai datganiadau i'w gwneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac eraill yn ddiweddarach yn y gwanwyn, ond mae gennyf i ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ni gau'r cylch. Mewn gwirionedd, rwyf wedi cael sgyrsiau ychwanegol yn ystod yr wythnos diwethaf am ymateb amrywiaeth o randdeiliaid, darparwyr...
Vaughan Gething: Mae ein cynllun hirdymor yn parhau i fod ynghylch cyflawni dyfodol economaidd ffyniannus, gwyrdd i Gymru a buddsoddi yn sgiliau'r dyfodol. Mae ein gweledigaeth ar gyfer economi Cymru yn amlwg yn cyd-fynd ag arweinwyr meddwl annibynnol, fel y Resolution Foundation, a'u cynigion ar gyfer ailgychwyn Prydain drwy ddychwelyd at dwf cynhwysol. Ond, bu angen ar y DU gyfan i Lywodraeth y DU ddatblygu...
Vaughan Gething: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n dod i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ar ôl bod, yn gynharach heddiw, yng nghyfarfod cyntaf eleni o'r grŵp rhyngweinidogol ar gyfer busnes a diwydiant. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf o'i fath ers gwanwyn y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i drefniadau gweithio mewn partneriaeth briodol gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill, ac...
Vaughan Gething: Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. O ran eich pwynt am ddatblygiadau magnet, dyma enghraifft dda o'r hyn y gallech ei wneud, oherwydd pe bai gennych chi weithrediad cyfleuster a fyddai, mae'n debyg, yn debygol o fod â 200 o bobl neu fwy wedi'u cyflogi'n uniongyrchol yn y cyfleuster ARTHUR, byddai'n rhyfeddol peidio â bod â gweithgaredd arall o'i gwmpas. Ac mae'r cyfleuster OPAL yn...
Vaughan Gething: Un o'r heriau yw'r ffaith bod oes silff fer i'r cynnyrch hwn. Roedd yn un o'r pryderon am Brexit digytundeb. Roedd yn rhaid i mi wynebu, rwy'n credu, tri chyfnod gwahanol o gynllunio am Brexit digytundeb, ac yn ogystal â heriau i gyflenwyr fferyllol a llwyth o bethau eraill, roedd cyflenwadau radioisotopau wastad yn agos at frig y rhestr o ran beth fyddai'n digwydd. Yn wir, yn y Senedd...
Vaughan Gething: Mewn gwirionedd, roedd y seiclotron ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n darparu'r sganwyr PET yng Nghaerdydd yn un yr oedd gennym ni broblem benodol ag ef. Felly, ein her ni yw, ym mhob rhan o'r DU, dydym ni ddim yn cynhyrchu digon. Rydym ni'n mewnforio llawer o'r rheiny fel y mae ar hyn o bryd. Ac er holl botensial cyclotronau, dydyn ni ddim yn meddwl—. Y cyngor sy'n cael ei roi i mi, y sylfaen yr...
Vaughan Gething: Rwy'n credu bod y ddau gwestiwn manwl mewn gwirionedd ynghylch rhai o'r pwyntiau yr ydym ni'n ceisio mynd i'r afael â nhw yn y manylebau technegol o ran yr hyn yr hoffem ni ei wneud ar y safle, ond yna'r alwad ehangach i bobl gymryd rhan nid yn unig wrth greu cyfleuster cynhyrchu radioisotopau, sy'n debygol o fod yn y gogledd-orllewin oherwydd y safleoedd tebygol a fydd yn ymgeisio, ond beth...
Vaughan Gething: Mae yna ddau gwestiwn penodol. O ran y £18 miliwn erbyn diwedd tymor y Senedd hon, rydym ni eto i basio'r gyllideb yr ydym ni newydd ei phennu ar ffurf ddrafft, ac wrth gwrs mae'n rhaid craffu ar honno a chael pleidlais derfynol arni. Mae gennym ni gyllidebau eraill wedyn, ac wrth gwrs byddwn yn ystyried dyfodol y maes ariannu ymchwil yn y cyllidebau hynny yn y dyfodol. Mae'r cyfan yn...
Vaughan Gething: Fe rof i sylw i'r hyn a'm drysodd braidd, bron fel petai Wylfa a Thrawsfynydd ar yr un safle yn rhai o'r pwyntiau. Mae safle Traws yn ymgeisydd amlwg ar gyfer y cynnig yr ydym yn siarad amdano heddiw, ond wrth symud ymlaen â'r cynllun busnes, bydd yn safle all weithio ag unrhyw ddyfais. Mae gan Drawsfynydd drwydded niwclear i'w ddatblygu, a'r safle arall ydy Wylfa, ond bydd angen i ni edrych...
Vaughan Gething: Yn bwysig iawn, ni all cenedl fach fod ag arbenigedd ym mhob maes. Ond gallwn gyfeirio at glystyrau o dechnoleg yng Nghymru sy'n arwain eu maes. Mae clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru yn un. Gan gyfuno rhagoriaeth ddiwydiannol ac ymchwil sy'n arwain y byd, mae'r clwstwr hwn yn darparu'r cydrannau sy'n gwneud i'n byd modern weithio. Heddiw, rwy'n cadarnhau ein huchelgais clir i...
Vaughan Gething: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw yn gyson at bwysigrwydd manteisio ar wyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol. Er mwyn bodloni'r rhain a manteisio ar gyfleoedd, mae angen dull cydlynol, cydgysylltiedig a chydweithredol. Mae strategaeth arloesi newydd i Gymru yn cael ei datblygu yn unol â'n hymrwymiadau yn y cytundeb...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Rwy'n cydnabod beth oedd gan yr Aelod i'w ddweud am Jayne Bryant. Wrth gwrs, mae Nexperia yn ei hetholaeth hi, ond rwy'n cydnabod y bydd gan yr Aelod nifer o etholwyr sy'n gweithio yno hefyd. Cefais gyfle i gyfarfod â grŵp o staff o Nexperia mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan Jayne Bryant, ac rwy'n gwybod bod Aelodau eraill wedi manteisio ar y cyfle i alw heibio i wrando...
Vaughan Gething: Dylwn nodi bod yn rhaid i mi ateb yn fras iawn o ystyried bod hyn yn ymwneud â fy etholaeth. Ni allaf gael trafodaethau gweinidogol ar y pwynt penodol hwn, ond rwy'n sicr yn manteisio ar y cyfle i siarad gyda'r cyngor a phartneriaid eraill am hyn a mannau eraill o ddiddordeb yn etholaeth wych a gogoneddus De Caerdydd a Phenarth.
Vaughan Gething: Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gydweithio â Chyngor Dinas Casnewydd a phrifddinas-ranbarth Caerdydd er mwyn helpu i adeiladu economi gref yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos.
Vaughan Gething: Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gael trafodaethau gydag amrywiaeth o bartneriaid i gefnogi bywyd diwylliannol, chwaraeon a busnes y brifddinas, sydd eisoes yn cyfrannu at wneud Caerdydd yn gyrchfan fywiog a deniadol, heddiw ac yn y dyfodol.
Vaughan Gething: Wel, dylwn wneud y pwynt na fyddaf, wrth ymateb, yn gwneud unrhyw fath o arwydd am y porthladdoedd rhydd a'r ceisiadau sy'n cystadlu. Soniwyd amdano yn y cwestiwn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n hollol glir. Fodd bynnag, mae fy swyddogion yn adolygu'r ceisiadau, ynghyd â swyddogion Llywodraeth y DU, gan fod y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi gorffen. Ond rwy'n credu eich bod yn iawn i...
Vaughan Gething: Ie, rwy'n hapus i gadarnhau ynghylch rhai o'r heriau roedd angen inni fynd i'r afael â hwy. Fel rydych wedi'i weld, yn ystod y flwyddyn, mae nifer o ddigwyddiadau gwahanol wedi bod. Ein disgwyliad ni oedd y byddem yn ei gyflawni o fewn y flwyddyn ariannol hon, ond bu'n rhaid inni wedyn fynd i'r afael â'r ergydion sydd wedi ein taro ar wahanol adegau yn y flwyddyn, nid yn unig yr hydref, ond...
Vaughan Gething: Gwnaf. Rwy'n disgwyl lansio ein cynllun gweithredu sgiliau sero net yn gynnar yn 2023, a dim hwyrach na diwedd mis Chwefror 2023.