Andrew RT Davies: Diolch Llywydd. Dros y penwythnos, Prif Weinidog, cafwyd cyfres o achosion pan nad oedd ambiwlansys yn gallu cyrraedd digwyddiadau critigol. Roedd Ben Symons, sy'n 22 oed, yn gorwedd ar gae pêl-droed yng Nghefn Cribwr ag anaf difrifol i'w gefn. Dywedodd ei fam ar y pryd fod yr arhosiad yn warthus, pum awr, a bod y system wedi torri. Ydych chi'n cytuno â'i fam?
Andrew RT Davies: Y pwynt a godais gyda Mike Hedges oedd y gallu i adeiladu mwy o dai. Nid ydym ond yn adeiladu tua 6,000 y flwyddyn a ninnau'n gwybod bod angen 12,000. Ni soniais am ymyrraeth y wladwriaeth o gwbl.
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: Rydych chi'n siarad am gyflenwad a galw. Gwyddom fod angen tua 12,000 o dai wedi eu cwblhau bob blwyddyn ym marchnad eiddo Cymru. Ar hyn o bryd, ar y gorau, mae'r Llywodraeth yn cwblhau tua 6,000, efallai mor isel â 5,000 mewn blwyddyn wael. Nid ydym yn cyrraedd yn agos at y galw. Rhaid eich bod yn cydnabod bod honno'n broblem, a bod galw am ganiatadau rheoli cynllunio ystyrlon yn rhywbeth...
Andrew RT Davies: Un o'r enghreifftiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwnnw, Prif Weinidog, oedd plant yn cyrraedd â llosgiadau difrifol ac, oherwydd nad oedd offer ar gael, roedd staff yn gorfod rhoi plant mewn sinciau i oeri eu llosgiadau neu ddefnyddio'r cawodydd yn ystafelloedd newid staff. Dyna lefel yr her yn yr adran damweiniau ac achosion brys honno, ac yn wir adrannau damweiniau ac achosion brys ar...
Andrew RT Davies: Rwy'n derbyn y pwynt yr ydych chi wedi'i wneud, Prif Weinidog, ond yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi geisio gwneud y pwynt eu bod wedi 'symud ymlaen', pan fo eich sylwadau agoriadol mewn gwirionedd yn ein cyfeirio at eu datganiad i'r wasg yr wythnos diwethaf yn dangos yn glir eu bod eisiau cael ymchwiliad Cymru gyfan, annibynnol. Ond fe fydd y cofnod yn siarad a bydd pobl yn barnu yn unol...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf fe wnes i eich herio ar eich anallu i gyflwyno ymchwiliad COVID, ac mae gwahaniaeth rhwng fy marn i a'ch barn chithau, ac rwy'n derbyn hynny, ac mae hynny'n wahaniaeth gwleidyddol. Fodd bynnag, mae Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru eisiau'r ymchwiliad annibynnol hwnnw. Yn ystod eich atebion i mi, fe wnaethoch chi nodi eu bod nhw...
Andrew RT Davies: Byddwn i'n troedio'n ofalus wrth ddweud ei bod hi wedi ymddiswyddo gan geisio defnyddio hynny mewn fforwm gwleidyddol. Rwy'n deall ei bod hi wedi ymddiswyddo am resymau personol, sy'n digwydd, Prif Weinidog, a dydw i ddim yn ceisio dweud unrhyw beth i'r gwrthwyneb am onestrwydd unrhyw ymchwiliad. Rwy'n digwydd credu y byddai ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru, ond ar lefel y DU hefyd, yn...
Andrew RT Davies: Peidiwch â chamfynegi eu barn, Prif Weinidog. Dim ond heddiw maen nhw wedi ailadrodd y cais am ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru, ac oherwydd i chi beidio â chaniatáu i ymchwiliad o'r fath ddigwydd, maen nhw wedi gorfod derbyn mai llwybr y DU yw'r llwybr gorau iddyn nhw ar gyfer archwilio'r rhain. Ond rwy'n gofyn i chi eto, Prif Weinidog, oherwydd ni wnaethoch chi ymdrin â'r cwestiwn...
Andrew RT Davies: Diolch Llywydd. Mae'n braf gweld y Dirprwy Weinidog yn gweiddi o'i sedd. Rwy'n gobeithio ei fod yn siarad mor uchel ar ran ei gleifion sy'n sownd ar restrau aros hanesyddol yn ei etholaeth, oherwydd dydw i byth yn ei glywed yn dweud dim am hynny, dydw i ddim. Ond unrhyw bryd yr ydych chi eisiau dadl arno, Dirprwy Weinidog, fe gaf i'r ddadl honno gyda chi. Prif Weinidog, fe deithioch chi i'r...
Andrew RT Davies: Weinidog cyllid, fe wnaethoch chi anghofio crybwyll y ffaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ddydd Mercher y bydd awdurdodau lleol yn gallu elwa o gymorth gwerth £50 biliwn o'r cap ar brisiau ynni. Pa ymdrechion a wnewch dros awdurdodau lleol fel y gallant fanteisio ar yr arian hwn? Ac a fyddech yn cytuno gyda mi mai'r ffordd orau y gall Llywodraeth y DU dalu'r arian hwn i awdurdodau lleol...
Andrew RT Davies: Gweinidog, ar ddau achlysur cynigiais i'r cyfle i chi ymddiheuro i ddinasyddion y gogledd, y mae gennych chi gyfrifoldeb gweinidogol uniongyrchol amdano, ac, yn wir, rydych chi'n Aelod etholaeth dros dref Wrecsam. Mae'n ffaith bod rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, nid Lloegr yn unig ond yr Alban, fwy neu lai wedi dileu'r arosiadau dwy flynedd. Maen nhw fwy neu lai wedi dileu'r arosiadau dwy...
Andrew RT Davies: Wel, Gweinidog, mae'n ymddangos mai 'sori' yw'r gair anoddaf pan ddaw i siarad â'r 15,000 o bobl sy'n aros dwy flynedd neu fwy yn y GIG yn y gogledd. Gadewch i ni gynnig ail gyfle i chi ddweud sori: mae 25 y cant o'r boblogaeth yn y gogledd ar restr aros y GIG—25 y cant. A wnewch chi ddweud 'sori' wrth y 25 y cant hwnnw?
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Gweinidog, yr wythnos ddiwethaf cawsom ni'r amseroedd aros wedi'u cyhoeddi ar gyfer y GIG yng Nghymru. Yn y gogledd, a chi yw'r Gweinidog sy'n uniongyrchol gyfrifol amdano, mae 15,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth. A wnewch chi ymddiheuro i'r 15,000 o bobl hynny sy'n aros am amseroedd mor hir ar GIG Cymru?
Andrew RT Davies: Fy mhwynt olaf felly, os caf i. A dim ond heddiw, rydym ni wedi gweld cyhoeddi ffigurau ynglŷn â chyflogaeth menywod yn y gweithle sydd, unwaith eto, yn nodi bod y niferoedd yn codi yng ngweddill y DU, a mwy o fenywod yn cael eu cyflogi yn y gweithle, ond, yn anffodus, yng Nghymru rydym ni wedi gweld niferoedd yn gostwng yn y gweithle—gostyngiad o 3.5 y cant. Beth mae Llywodraeth Cymru yn...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Yn ddiamau, hwn yw'r argyfwng mwyaf yr ydym ni'n ei wynebu yn yr hinsawdd sydd ohoni—yr argyfwng costau byw y mae pob aelwyd a phob busnes yn ei wynebu, boed hynny yma yng Nghymru, boed hynny ar draws gweddill y Deyrnas Unedig, neu'n fyd-eang yn wir, mewn gwirionedd. Nid oes unrhyw wlad yn ddiogel rhag y pwysau sy'n dod oherwydd yr...
Andrew RT Davies: Rwy'n cymryd o'ch ateb, Prif Weinidog, nad oes gennym ni hybiau llawfeddygol penodedig yma yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli eich bod chi wedi nodi tri, rwy'n credu, o ysbytai yn y fan yna sydd ag adrannau wedi'u nodi ar gyfer llawdriniaethau arbenigol, ond ni fydden nhw'n cael eu cwmpasu o dan feini prawf hybiau llawfeddygol. A yw'n uchelgais i'ch Llywodraeth, os bydd pobl yn cael eu hunain ar...
Andrew RT Davies: Rwy'n gwerthfawrogi bod y cyd-destun yn ddarlun heriol, a dweud y lleiaf, Prif Weinidog. Mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi llwyddo i leihau'r rhestrau aros helaeth yr oedd ganddyn nhw yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd ac, mewn gwirionedd, mewn rhai achosion, wedi dileu'r rhestrau aros hynny. Yng Nghymru, rydym ni'n gweld dros 60,000 o unigolion ar y rhestrau aros hynny. Roeddwn i wedi...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Os caf i, gyda'ch caniatâd, gofnodi fy niolch diffuant a diolch fy ngrŵp i staff y Comisiwn dros ddigwyddiadau'r cyfnod o alaru, ac yn arbennig y paratoadau helaeth a wnaed ar gyfer derbyniad y Brenin yma ddydd Gwener diwethaf? A gaf i hefyd ddiolch i'r Prif Weinidog am y gweision sifil a wnaeth lawer iawn o waith ar fyr rybudd ar y trefniadau o ran eglwys gadeiriol...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd, ac mae grŵp fy mhlaid a minnau'n cefnogi'r cynnig gerbron y Senedd y prynhawn yma. Wrth glywed y newyddion ddydd Iau, ar ôl gweld lluniau o'r Frenhines yn amlwg yn derbyn y Prif Weinidog newydd a'i rhoi hi yn ei swydd, daeth newyddion nad oedd yr un ohonom yn credu y byddai'n digwydd o fewn 48 awr i'r lluniau hynny gael eu cyhoeddi. Yn wir, safodd oes o wasanaeth o'n...