Canlyniadau 101–120 o 2000 ar gyfer speaker:Janet Finch-Saunders

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy (24 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Cynlluniau datblygu, ac, yn wir, ein cynllun datblygu cenedlaethol, yw'r asgwrn cefn pan fyddwn ni'n edrych ar gynllunio yn y dyfodol ar dir. Rydym ni wedi gofyn, am sawl rheswm, pam nad oes yr un dull manwl allan ar y môr. Mae hwn yn bwynt rydym ni wedi siarad amdano ers sawl blwyddyn. Roeddwn i'n falch o weld mwyafrif yn y Senedd Cymru hon yn cefnogi ein cynnig deddfwriaethol i greu...

9. Dadl Fer: Datblygu sector ynni hydrogen yng Nghymru (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch, Lywydd. Y ddadl heno yw 'Datblygu'r sector ynni hydrogen yng Nghymru', ac rwyf wedi cytuno i roi munud yr un i Samuel Kurtz AS, James Evans AS, Huw Irranca-Davies AS, Rhun ap Iorwerth AS a Sam Rowlands AS. Felly, dadl boblogaidd. 

9. Dadl Fer: Datblygu sector ynni hydrogen yng Nghymru (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Mae cyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050 yn her sylweddol iawn. Mae angen gweithredu ar frys ar draws yr economi. Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol wedi dweud bod angen 'ymgyrch ddigynsail i sicrhau technoleg lân rhwng nawr a 2030' Rydym i gyd yn gwybod bod gan hydrogen rôl allweddol iawn i'w chwarae. Fel y nododd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ'r Cyffredin, 'mae...

7. Dadl Plaid Cymru: Rheoli'r pwysau ar y GIG (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

7. Dadl Plaid Cymru: Rheoli'r pwysau ar y GIG (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Rwy'n dweud hyn yn gwbl onest a diffuant, onid ydych chi'n meddwl, ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru yn rheoli'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, ac ar adegau wedi ei chynnal gan Blaid Cymru—rydych chi wedi bod yn y Llywodraeth eich hun yma—onid ydych chi'n credu mai dyma'r amser i gael Llywodraeth Geidwadol i Gymru ym Mae Caerdydd?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Rwy'n hynod falch fod hawliau wedi'u rhoi i brosiect Erebus, a allai greu prosiectau dilynol o tua 300 MW yn y môr Celtaidd. I ddechrau, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar brosiect arddangos 100 MW, y rhagwelir y bydd yn pweru dros 93,000 o gartrefi'r flwyddyn, a byddai hyn yn arbed 151,000 tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn. Wrth gwrs, rwyf hefyd yn falch bod y morlyn llanw...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch iawn fel Ceidwadwr Cymreig i fod yn agor y ddadl hon ar ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae disgwyl i'r defnydd o drydan yng Nghymru gynyddu hyd at 300 y cant erbyn 2050, oherwydd cynnydd yn y galw yn y sectorau trafnidiaeth a gwres. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti i ateb y galw hwn. Mae'n...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru' (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: —os ydym am ddychwelyd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn unol ag argymhelliad 7. Diolch.

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru' (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, yn ogystal â’r holl banelwyr a staff a’n cefnogodd yn ein gwaith ar yr adroddiad hwn. Nawr, rhwng y pandemig, y streic a’r argyfwng costau byw, mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU yn wynebu amrywiaeth eang o heriau. Golyga hyn ei bod yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd (18 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Gan fod y boblogaeth dros 65 oed yn debygol o gynyddu'n sylweddol dros y pum mlynedd nesaf, mae'n hanfodol fod ein hawdurdodau lleol yn cael cyllid digonol i gefnogi ein poblogaeth hŷn, ac rydym yn gwybod bod ein gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn llanast. Clywsom y pryderon am y cyllid neulltiedig a'r ffordd y mae arian yn cael ei roi i awdurdodau lleol. Clywsom ein cyd-Aelod, Llyr...

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod (17 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: A gaf i ddim ond dweud ein bod ni yn wir yn gytûn yn hyn o beth, Gweinidog? Hoffwn ddweud o'r cychwyn cyntaf bod gan y Bil Esgyll Siarcod gefnogaeth lawn ein grŵp. Tynnu esgyll siarcod yw un o'r bygythiadau mwyaf i gadwraeth siarcod. Amcangyfrifir y lladdir tua 97 miliwn o siarcod bob blwyddyn yn fyd-eang gan yr arfer yma. A gyda syndod, hyd yn oed i mi, y dysgais am faint o esgyll siarcod...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda. Nid yw Cymru, wrth gwrs, ar ei phen ei hun yn cael ei tharo yn galed iawn wrth i newid hinsawdd barhau i waethygu, ac mae hynny, i bob pwrpas, yn achosi llawer o'r problemau y gwnaethoch chi eu crybwyll o ran llifogydd. Dim ond wythnos diwethaf, ar un noson yn unig, fe gyhoeddwyd cyfanswm o 27 o rybuddion llifogydd a 43 o rybuddion llifogydd wrth i...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru (11 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Hoffwn gofnodi fy niolch hefyd, ar ran etholwyr Aberconwy—ein diolch a'n gwerthfawrogiad o gyfraniad hanfodol ein gwasanaeth ambiwlans awyr. Nawr, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru, a phob aelod o'r tîm, yn darparu gwasanaeth meddygol brys hanfodol sy'n achub bywydau pobl ddifrifol wael neu sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol ledled Cymru. Yn y 12 mis diwethaf yn unig, cafwyd...

7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth (10 Ion 2023)

Janet Finch-Saunders: Diolch, Llywydd, ac rwy'n dymuno blwyddyn newydd dda i chi a'r Gweinidog. Felly, diolch, Gweinidog. Mae'n swnio fel petaech chi wedi cael amser gwych a gwerth chweil ym Montreal, ac rwy'n siŵr, fel Aelodau eraill y Senedd, y byddwn i’n falch o glywed mwy am fethodoleg Parks Canada maes o law. Nawr, fel y gwyddoch chi, gwelodd COP15 fabwysiadu'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ar ddiwrnod...

4. Datganiadau 90 Eiliad (14 Rha 2022)

Janet Finch-Saunders: Cafodd bron i 50,000 o droseddau lle defnyddiwyd cyllell eu cofnodi yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022. Yn anffodus, un o'r dioddefwyr hynny oedd fy etholwr Jake Pickstock, a gafodd ei adael, ar 21 Awst 2021, heb unrhyw fai arno ef ei hun, gyda'i ben a'i wddf wedi'u torri ar agor ac yntau'n ymladd am ei fywyd mewn clwb nos yn Llandudno. Roedd angen 62 o bwythau arno a bu bron...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros Ambiwlansys (14 Rha 2022)

Janet Finch-Saunders: Diolch. Ddydd Sadwrn, cafodd dros 2,000 o alwadau brys 999 eu gwneud, sy'n gynnydd o 17 y cant ers yr wythnos diwethaf. Ymatebodd yr ymddiriedolaeth i dros 200 o alwadau coch lle mae bywyd yn y fantol, a hefyd gwnaed dros 10,000 o alwadau 111—y diwrnod prysuraf erioed i'r gwasanaeth. Yn wyneb y tswnami o alwadau, ddydd Sul, fe wnaeth yr ymddiriedolaeth ddatgan digwyddiad parhad busnes....

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Horizon Ewrop (14 Rha 2022)

Janet Finch-Saunders: Mae Luke Fletcher yn llygad ei le pan ddywed fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi, os na all gysylltu â Horizon, y bydd yn parhau i gefnogi’r sector ymchwil ac arloesi drwy drefniadau pontio. Mae hyn yn cynnwys cynllun gwarant y DU, sydd wedyn yn darparu cyllid i ymchwilwyr ac arloeswyr nad ydynt yn gallu cael gafael ar eu cyllid Horizon Ewrop tra bo'r DU yn y broses o gysylltu â’r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros Ambiwlansys (14 Rha 2022)

Janet Finch-Saunders: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros? OQ58866

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi (14 Rha 2022)

Janet Finch-Saunders: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith streiciau ar economi Cymru?

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24 (13 Rha 2022)

Janet Finch-Saunders: Diolch, Llywydd. Rwy'n gwybod ei bod hi'n Nadolig bron, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n dymor pantomeim, ond mae'r gyllideb hon mewn gwirionedd yn fater difrifol iawn. Nawr, os oes arnom ni eisiau annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, dylem fod yn grymuso busnesau lleol i gyflawni hynny. Gallai Llywodraeth Cymru wneud hyn trwy ailgyflwyno'r rhyddhad ardrethi busnes y gwnaethoch chi ei...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.