Laura Anne Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Gweinidog, rydych chi yma heddiw yn cyflwyno'r syniad o ardoll ymwelwyr, a elwir hefyd yn dreth dwristiaeth, i bobl a busnesau Cymru ar ffurf ymgynghoriad, er ei fod yn gwbl syfrdanol ei fod wedi mynd mor bell â hyn. Bydd yn cosbi'r sector twristiaeth, ac fel Llyr, cyfaddefodd arweinydd eich plaid eich hun, Adam Price, nad oes bwriad i'r arian a godir gan...
Laura Anne Jones: Diolch yn fawr. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg—wrth iddo droi o gwmpas. Yn ystod yr yr haf, rydw i, fel nifer o Aelodau eraill y Senedd, wedi gweld llwyth o e-byst gan rieni pryderus yn ofni bwriad Llywodraeth Cymru pan ddaw hi at newidiadau posibl mewn addysgu gartref. Mae pryderon gwirioneddol bod cynigion sydd wedi'u gosod gan y Llywodraeth hon yn mynd yn rhy bell, ac...
Laura Anne Jones: Mae'n anrhydedd gallu sefyll yma a siarad ar ran pobl fy rhanbarth. Mae ein meddyliau a'n gweddïau yn fawr iawn gyda'i Fawrhydi y Brenin a'r teulu brenhinol wrth i ni alaru huno'r frenhines orau a hiraf ei gwasanaeth a welodd y byd, y Frenhines Elizabeth II. I'r rhan fwyaf ohonom, y Frenhines Elizabeth II yw'r unig frenhines y mae unrhyw un ohonom wedi ei hadnabod. Mae hi wedi bod yno...
Laura Anne Jones: Nid wyf yn rhannu. [Chwerthin.]
Laura Anne Jones: Rhaid imi gytuno â phopeth a ddywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, yn gynharach, ac rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at fynd i Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf. Ac mae'r holl sôn am sioeau yn gwneud i mi ddyheu am y rhôl borc, crofen a saws afal rwy'n ei chael bob blwyddyn, yn ddi-ffael, ym mhob sioe rwy'n ei mynychu. A boed yn arddangos neu'n cynnig y cynnyrch lleol rhagorol sydd...
Laura Anne Jones: Weinidog, nid oes gennyf ddiddordeb mewn beio heddiw. Yr hyn yr hoffwn ei glywed heddiw a'r hyn y mae fy etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd am ei glywed heddiw yw beth y mae'r Llywodraeth Lafur hon yn mynd i'w wneud am y ffaith bod 36.3 y cant o blant yn ninas Casnewydd yn fy rhanbarth yn byw mewn tlodi, yn ôl y data diweddar sydd newydd ei ryddhau gan yr elusen tlodi plant, Dileu Tlodi...
Laura Anne Jones: Pa astudiaethau a gwerthusiadau sydd wedi'u cynnal o ran effeithiau treth dwristiaeth ar fusnesau Cymru?
Laura Anne Jones: Yr wythnos diwethaf, cawsom wybod am farwolaeth drist yr ymgyrchydd ysbrydoledig ac anhygoel, y Fonesig Deborah James, Bowelbabe. Cafodd y Fonesig Deborah ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 4 yn 2016, a hithau ond yn 35 oed. Hyd yn oed gyda diagnosis angheuol, ni roddodd y gorau i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. Aeth y diweddar newyddiadurwr, cyn-bennaeth ysgol a cholofnydd papur...
Laura Anne Jones: Rwy'n ceisio cwtogi ar fy araith yma. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr a'r cyfle i siarad am iechyd menywod. Ers gormod o amser yn ein cymdeithas, rydym wedi gweld iechyd, diogelwch a llesiant menywod yn cael eu hesgeuluso a'u hanwybyddu. Rwy'n croesawu'n fawr y bydd cynllun iechyd menywod 10 mlynedd yn yr hydref, ac rwy'n croesawu llawer o rannau o'r datganiad hwn yn fawr iawn. Bydd yn...
Laura Anne Jones: Gweinidog, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Rydym ni i gyd eisiau i'r cwricwlwm newydd, wrth gwrs, weithio. Rwyf i hefyd eisiau nodi ar y cofnod, os caf fi, Dirprwy Lywydd, ein diolch i staff ysgolion am eu gwydnwch a'u gwaith caled ym mhopeth maen nhw’n ei wneud, ond yn enwedig yn eu hymdrechion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Gweinidog, dim ond bron i...
Laura Anne Jones: Diolch. Mae pryderon dilys y mae angen gwrando arnyn nhw i ddod o hyd i atebion i bawb. Prif Weinidog, â pha grwpiau menywod y gwnaethoch chi a'ch Gweinidogion wir siarad â nhw, a sut yn union y mae'r cynllun hwn yn sicrhau bod hawliau menywod a hawliau a diogelwch merched yn cael eu diogelu?
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, rhoddodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ eich Llywodraeth. Nawr, mae hwn yn amlwg yn bwnc sensitif, ac rwy'n credu ein bod i gyd eisiau gweld hawliau i bobl draws yn cael eu hymestyn, ond, yn y bôn, nid ar draul hawliau menywod a merched, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn....
Laura Anne Jones: 9. Gyda phwy yr ymgynghorodd Llywodraeth Cymru wrth wneud asesiadau diogelu o ran menywod yn y broses o ddrafftio'r cynllun gweithredu LHDTC+ arfaethedig? OQ58312
Laura Anne Jones: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch ar goedd hefyd i'r clercod a'r staff cyfreithiol drwy gydol hynt y Bil hwn, ac estynnaf y diolch hwnnw i Gadeirydd y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Jayne Bryant, y pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, a phawb y bu ganddyn nhw ran yn y gwaith o gael y Bil hwn i Gyfnod 4 heddiw. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ddiolch i'r Gweinidog am wrando ar ein pryderon yn bennaf, gan gydnabod...
Laura Anne Jones: Rwyf hefyd eisiau cofnodi ein diolch i holl staff yr ysgol am eu cadernid parhaus a'u gwaith caled, a dysgwyr hefyd. Gweinidog, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad heddiw, ac rydym yn croesawu rhannau ohono. Mae hwn wedi bod ac yn gyfnod anodd iawn i ddysgwyr. Mae'r ffordd yr ydym ni'n gwerthuso'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan ein hysgolion o'r pwys mwyaf fel y gallwn ni i gyd...
Laura Anne Jones: Pa asesiadau diogelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o ran diogelwch menywod wrth ddrafftio'r cynllun gweithredu LHDTC+ arfaethedig?
Laura Anne Jones: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae hyn yn dilyn ymlaen o gwestiwn a gawsoch gan Rhun yn gynharach am baratoadau ar gyfer yr arholiadau yr haf hwn, o ystyried bod nifer o adroddiadau pryderus iawn fod testunau gosod wedi bod ar goll mewn llenyddiaeth Saesneg safon uwch, fel yr amlinellwyd gennych eisoes, a bod y cynnwys yn annisgwyl i ddisgyblion—hynny mewn mathemateg, gyda'r anhawster, fel y...
Laura Anne Jones: Diolch. Lywydd, hoffwn ddatgan buddiant ar y mater hwn. Fy nghwestiwn i chi, Weinidog, yw bod gennyf etholwyr mewn adeiladau sy’n aros i’w heiddo gael ei wneud yn ddiogel, fel rydych newydd ei amlinellu. Ar hyn o bryd, maent yn aros am y broses honno, ac yn y cyfamser, nid ydynt yn gallu gwerthu eu heiddo, symud i eiddo mwy o faint—mae hyn yn cael effaith ar lu o faterion, yn amlwg, ac...
Laura Anne Jones: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl y mae materion cladin wedi effeithio arnynt? OQ58217
Laura Anne Jones: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoi ar gyfer arholiadau TGAU yr haf? OQ58218