Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n wir bod yr adroddiadau am y rhyfela yn Wcráin a'r dwysáu sydd o ran tactegau ac agwedd cwbl annynol Rwsia yn peri gofid ofnadwy i'r bobl sydd wedi cael lloches yng Nghymru, ac yn debyg, wrth gwrs, o gael effaith ar y niferoedd o ffoaduriaid. Mae'r newidiadau rŷch chi wedi sôn amdanyn nhw o ran y gefnogaeth fydd ar gael i bobl dan nawdd Llywodraeth...
Sioned Williams: Diolch, Prif Weinidog. Datgelodd y gwaith ymchwil diweddaraf gan Sefydliad Bevan bod nifer y bobl ar aelwydydd ag un neu ddau o blant sy'n gorfod lleihau faint o fwyd maen nhw'n eu bwyta bron wedi dyblu ers yr adeg yma y llynedd, gydag un o bob 10 teulu ag un plentyn, ac un o bob pum teulu â dau blentyn yn lleihau'r bwyd y maen nhw'n ei roi i'w plant. Felly, mae'r nifer syfrdanol yna o 6,300...
Sioned Williams: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru? OQ58632
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mae prifysgolion Cymru, wrth gwrs, yn hanfodol i'r economi, gan gynhyrchu dros £5 biliwn a bron i 50,000 o swyddi. Hoffwn dynnu sylw at rai pryderon a godwyd ynglŷn â'r strategaeth ddrafft. Yn y cyfarfod grŵp trawsbleidiol STEM fis diwethaf, awgrymwyd nad yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu clustnodi unrhyw arian newydd ar gyfer y strategaeth, gydag argymhellion adolygiad...
Sioned Williams: 4. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch y strategaeth arloesi i Gymru? OQ58571
Sioned Williams: Diolch am y datganiad, Weinidog. Un o nodau Taith, fel y sonioch chi, yw gwella mynediad i'r cyfleon rhyngwladol a'r symudedd y mae'n eu cynnig i bob dysgwr a myfyriwr, gan gynnwys pobl ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, grwpiau sydd wedi eu tan-gynrychioli ac o gefndiroedd o amddifadedd ac o dan anfantais. Felly, hoffwn wybod sut mae hyn yn cael ei fesur cyn belled. A yw'r niferoedd...
Sioned Williams: Iawn. Nid oes gan Lywodraeth Cymru rym i atal biliau rhag codi i'r entrychion. Ni all sicrhau bod Llywodraeth Dorïaidd San Steffan yn cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant. Ond fe all weithredu i roi sicrwydd i bobl y gallant aros yn eu cartrefi, nad yw cyllidebau sydd eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf yn chwalu oherwydd codiadau rhent, tra bod gwyntoedd oer y storm economaidd ofnadwy...
Sioned Williams: Yn hollol, ac mae'r elfen iechyd yn hyn wedi'i nodi heddiw gan Goleg Brenhinol y Meddygon, sydd wedi dweud, wrth gwrs, fod tlodi'n achosi salwch ac iechyd gwael. Mae'r argyfwng costau byw yn debygol o gael effaith sylweddol ar y GIG, yn union fel y gwnaeth argyfwng COVID. Mae cymdeithasau tenantiaid fel ACORN, Living Rent, a Generation Rent yn cytuno bod y mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth...
Sioned Williams: Na, rwy'n meddwl eich bod chi wedi siarad digon, Janet. Mae'r rhai yn y sector rhentu preifat yn wynebu chwyddo rhenti cynyddol. Ar ben hyn, cofiwch fod 45 y cant o aelwydydd Cymru bellach yn byw mewn tlodi tanwydd, ac mae 98 y cant o aelwydydd sydd ar incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd, gan orfod gwario mwy nag 20 y cant o'u hincwm ar ynni. Ac fe gyhoeddwyd y ffigyrau hyn cyn i chwyddiant...
Sioned Williams: Mae ein cynnig heddiw yn un sy'n ceisio sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac amddiffyniad rhag y storm economaidd waethaf ers degawdau. Mae'n ymwneud â gweithredu yn awr, gan achub pobl rhag dioddefaint ac amddifadedd yn awr. Mae'n ymwneud â mynnu mai diogelu'r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas ddylai fod yn ffocws i Lywodraeth gyfiawn, nid gwarchod asedau ac incwm y rhai na fydd yn gorfod...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mae rhent myfyrwyr yn benodol, wrth gwrs, wedi codi 29 y cant yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf, ac, erbyn hyn, yn llyncu bron i 60 y cant o'r pecyn cyllid myfyrwyr ar gyfartaledd. Fel plaid, rŷn ni wedi bod yn galw am weithredu mesurau costau byw brys a radical, fel rhewi rhent a gwahardd troi allan, gan y bydd y cynnydd mewn rhent yn drychinebus i nifer o fyfyrwyr...
Sioned Williams: Sori, iawn.
Sioned Williams: Diolch, Llywydd. Weinidog, mae effaith yr argyfwng costau byw cyn waethed, os nad yn waeth, na'r argyfwng COVID i rai myfyrwyr. Dyna oedd barn is-ganghellor Prifysgol De Cymru, Ben Calvert, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf. Rhybuddiodd ef ei fod yn poeni'n benodol am fyfyrwyr hŷn, a oedd mewn perygl o adael cyrsiau allweddol, fel graddau gofal...
Sioned Williams: Diolch. Edrychaf ymlaen at weld canlyniad y gwerthusiad hwnnw. Clywsom hefyd y Prif Weinidog, yn gwbl briodol, yn condemnio dymuniad Prif Weinidog y DU i beidio â chynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, budd-daliadau pobl nad oes ganddynt y nesaf peth i ddim i fyw arno yn barod. Maent yn wynebu gaeaf brawychus. Ac fel y gwyddoch, Weinidog, mae’r Alban yn gallu amddiffyn eu...
Sioned Williams: Diolch, Lywydd. Weinidog, ddoe, pan ofynnwyd iddo gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ynglŷn â chyflwyno mesurau fel y rheini a roddwyd ar waith yr wythnos hon gan Lywodraeth yr SNP yn yr Alban i amddiffyn eu pobl rhag digartrefedd y gaeaf hwn, megis rhewi rhenti dros dro yn y sector preifat a gwaharddiad ar droi allan, dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn credu y byddai rhoi'r mesurau...
Sioned Williams: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n iasol meddwl bod pobl Wcráin erbyn hyn wedi dioddef terfysg ac anlladrwydd rhyfel am gyfnod mor hir, a bod goblygiadau enfawr i'r rhai sydd wedi eu gorfodi i ffoi o'u gwlad wrth gwrs. Rhaid i'n meddyliau hefyd fod gyda'r rhai yn Rwsia sy'n protestio'n ddewr yn erbyn polisïau ymfyddino Putin. Mae cost ddynol y rhyfel anghyfreithlon hwn i bawb sy'n...
Sioned Williams: Mae'r mesurau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel y cyfeirir atynt yn eu gwelliannau i'w croesawu wrth gwrs. Bydd rhai, fel prydau ysgol am ddim, yn drawsnewidiol. Ond mae angen gwneud llawer mwy; crafu'r wyneb yn unig y bydd rhai o'r pethau hyn. Clywsom y Prif Weinidog ddoe yn cyhoeddi un mesur newydd yn unig, cefnogaeth i fanciau cynhesu, ac yn mynnu na ddylai ymdrechion...
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pwrpas cynnig Plaid Cymru heddiw a'n dadl gyntaf yn y tymor newydd hwn yw amlygu'r angen am weithredu pellach ar unwaith ac ar frys gan Lywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw i gefnogi pobl Cymru sy'n wynebu caledi a ddisgrifiwyd gan nifer o bobl sy'n gweithio ym maes tlodi fel 'tlodi Fictoraidd'. Mae'n argyfwng wrth gwrs, ond mae'n argyfwng a fu'n datblygu ers...
Sioned Williams: Mae'r ymchwiliad a'r adroddiad yma i'r rhaglen Cartrefi Clyd a thlodi tanwydd efallai'n un o'r pwysicaf i fi fod yn rhan ohono fel aelod o bwyllgor yn y Senedd hyd yma, achos bob gaeaf mae cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd i fforddio gwresogi eu cartrefi, gan fyw mewn amodau llaith, oer sy'n beryglus i'w hiechyd. Dyna oedd y sefyllfa gaeaf y llynedd, a'r gaeaf cyn...
Sioned Williams: 2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith yr argyfwng costau byw wrth ariannu ysgolion yng Ngorllewin De Cymru? OQ58402