Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym wedi clywed rhesymau clir a ffeithiol y prynhawn yma, gan Cefin Campbell, gan Luke Fletcher, gan Jane Dodds, pam y dylem ymuno â'r farchnad sengl. Yn wir, credaf inni glywed rhesymau clir a ffeithiol gan Vaughan Gething, y Gweinidog, ynglŷn â pham y dylem ymuno. Nawr, gwyddom fod Boris Johnson wedi diystyru effaith Brexit ar yr economi mewn iaith anseneddol...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn dod yn fwyfwy gelyniaethus tuag at y proffesiwn cyfreithiol, yn enwedig y rheini sy'n eu dwyn i gyfrif drwy atal symud pobl yn anghyfreithlon o'r Deyrnas Unedig a'u dwyn i gyfrif am dramgwyddo hawliau dynol; hyn i gyd, hefyd, tra bo bargyfreithwyr troseddol ar streic. Yr incwm blynyddol canolrifol presennol i fargyfreithiwr...
Rhys ab Owen: Cytunaf â chi, Gwnsler Cyffredinol: mae'r ateb yma yng Nghymru. Ac roeddwn braidd yn bryderus pan oedd y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, fel pe bai'n awgrymu mai Llywodraeth Lafur yn San Steffan oedd yr ateb. Nawr, mae Brexit yn gwbl anghydnaws â chytundeb Dydd Gwener y Groglith ac mae'n arwain tuag at ailuno Iwerddon. Ni fydd arweinydd y Blaid Lafur yn cyfaddef bod Brexit yn drychineb....
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mewn erthygl ddiweddar ar gyfer papur newydd The National, dywedodd un o academyddion blaenllaw Cymru, Richard Wyn Jones, nad oedd y ddadl am ddyfodol cyfansoddiad Cymru yn ddigon realistig. Er bod consensws cryf yng Nghymru am ragor o bwerau, meddai, mae'n amlwg nad oes awydd amdano yn Llywodraeth San Steffan a dywedodd nad oes tystiolaeth fod...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod yn pryderu am y diffyg pwerau gorfodi y tu ôl i'r nodau llesiant. Beth fyddai canlyniadau peidio â chyflawni'r cerrig milltir cenedlaethol?
Rhys ab Owen: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gerrig milltir cenedlaethol ar gyfer cyflawni nodau llesiant Llywodraeth Cymru? OQ58297
Rhys ab Owen: 9. Pa gymorth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i sector cyfreithiol Cymru yn dilyn newidiadau arfaethedig i arferion gwaith gan Lywodraeth y DU? OQ58299
Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder ynghylch parhau â'r cynllun Support Through Court yng Nghanolfan Cyfiawnder Caerdydd?
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cwnsler Cyffredinol, gaf i ddechrau trwy eilio sylwadau'r Arglwydd Ustus Green, cadeirydd Comisiwn y Gyfraith, a llongyfarch Llywodraeth Cymru ar y cam pwysig yma i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch? Nawr, efallai bod hwn ddim o ddiddordeb i bawb, ond dwi'n excited iawn am y cam pwysig yma. Mae hwn yn gam sy'n mynd i weddnewid y gyfraith yng Nghymru. I...
Rhys ab Owen: Rwy'n bryderus iawn, Prif Weinidog, ein bod ni'n cerdded yn ein cwsg i mewn i Senedd wahanol iawn—Senedd Cymru yn ôl ei henw ond gyda phwerau llawer gwannach. Eich ateb yr wythnos diwethaf i Adam Price, os gwnawn ni ethol Llywodraeth Lafur, dyna'r ffordd i ddiogelu datganoli yn San Steffan—beth sy'n digwydd os nad oes gennym ni Lywodraeth Lafur? Ni all yr ateb fod yn San Steffan, rhaid...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Adam Price yn gywir. O fewn y pum mlynedd diwethaf, roedd 44 o Filiau'r Deyrnas Unedig o fewn y setliad datganoledig, o'i gymharu â 21 o Filiau Cymreig. Ac mae nifer o'r Biliau yna, Biliau'r Deyrnas Unedig, wedi eu pasio heb gydsyniad y Senedd yma, a nifer ohonyn nhw hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Prydeinig newid y setliad datganoledig. Felly, sut y...
Rhys ab Owen: Mae hynny'n gwbl gywir, onid yw, Drefnydd? Oherwydd, ers dechrau datganoli democrataidd, drwy etholiad neu refferenda, mae pobl Cymru wedi pleidleisio dro ar ôl tro i gynyddu pwerau deddfu’r Senedd. Mae’r union egwyddor a sefydlwyd drwy ddulliau democrataidd yn cael ei thanseilio gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan. Mae’r Siambr hon yn cael ei thanseilio. Mae dirmyg Prif Weinidog y DU...
Rhys ab Owen: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu setliad datganoli Cymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddileu Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017? TQ645
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf. Ac rwy'n siŵr bod unrhyw gefnogaeth i lesddeiliaid yn cael ei groesawu'n fawr. Rwyf i hefyd yn gwerthfawrogi'r angen i wneud hyn yn gywir. Roedd yn torri corneli, trachwant â chamarfer a arweiniodd at y sefyllfa drasig hon yn y lle cyntaf, a Llywodraethau olynol yn San Steffan o bob lliw...
Rhys ab Owen: Prif Weinidog, rwyf i hefyd yn cymeradwyo gwaith Joyce Watson—y gwaith diflino y mae wedi'i wneud yn y maes hwn ers ei hethol yn 2007. Ac rwy'n siŵr y bydd hi'n falch fy mod i hefyd wedi darllen yr adroddiad, felly dyna ddau ohonom, Prif Weinidog, sydd wedi ei ddarllen, ac rwy'n siŵr bod llawer o rai eraill wedi gwneud hynny hefyd. Rydym wedi cymryd rhai camau pwysig iawn o ran gofal...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roeddwn i'n falch iawn i ddarllen yr adroddiad ynglŷn â chreu metro rhwng Llantrisant a Chaerdydd, a dwi'n cytuno yn llwyr â chi, ac â'r Cwnsler Cyffredinol, am bwysigrwydd hynny. Y drafferth yw, wrth gwrs, ei bod hi'n mynd i gymryd 10 mlynedd i'w adeiladu, ac, fel y gwyddoch chi, mae miloedd o bobl wedi symud i dai newydd yng ngogledd y ddinas,...
Rhys ab Owen: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol mewn lle i ddiwallu anghenion datblygu tai yng Nghaerdydd? OQ58213
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog, a dwi'n falch iawn o glywed bod y gwaith yn dechrau mor fuan. A allech chi gadarnhau i fi, plîs, Weinidog, y bydd digon o gapasiti o fewn y bwrdd i sicrhau bod y cynllun gweithredu yn digwydd yn gyflym?
Rhys ab Owen: 8. Pryd y bydd bwrdd y rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn dechrau gweithio ar gynllun gweithredu? OQ58171
Rhys ab Owen: Dau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd. Fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid ein hatgoffa ni'n gynharach, mae ein meddyliau'n troi tuag at Dŵr Grenfell heddiw, bum mlynedd neu hanner degawd ar ôl y digwyddiad trasig hwnnw. Clywais i resymu'r Prif Weinidog ynghylch pam y cafodd y datganiad ei dynnu yn ôl, ond roedd y trigolion yr wyf i wedi siarad â nhw wedi eu tramgwyddo gan y ffaith...