Jack Sargeant: 2. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu technoleg uwch yn y sector amddiffyn yng ngogledd Cymru? OQ58704
Jack Sargeant: 9. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i amddiffyn plant sy'n cael eu geni â phroblemau difrifol ar y galon? OQ58694
Jack Sargeant: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar am yr ymrwymiad gan y Gweinidogion yn eich Cabinet. Llywydd, rwyf i wedi datgan buddiant gyda'r cwestiwn hwn oherwydd fy ymwneud ymroddedig a pharhaus ag ymgyrch dadfuddsoddi Cymru, ond mae'r cloc yn tician, Prif Weinidog, ar yr amser sydd gennym ni i osgoi trychineb amgylcheddol difrifol a'r anhrefn, y newyn a'r gwrthdaro sy'n...
Jack Sargeant: 6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn sector cyhoeddus o danwydd ffosil? OQ58703
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr ateb hwnnw a'r holl waith y mae hi'n ei wneud fel Comisiynydd, ond ar lefel bersonol hefyd? Rwy'n gwybod eich bod chi yr un mor angerddol a minnau ynghylch ymgyrch y Rhuban Gwyn. Fy rôl i fel llysgennad yr ymgyrch yw hyrwyddo i beidio byth â defnyddio, esgusodi neu aros yn dawel ynghylch trais dynion yn erbyn menywod. Rydym wedi clywed eisoes gan Joyce...
Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Ac a gaf fi ddiolch iddo am ei waith parhaus gyda mi ar hyrwyddo'r angen am ddeddf Hillsborough? Gwnsler Cyffredinol, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog nesaf, Syr Keir Starmer, wedi defnyddio agoriad ei araith gynhadledd yn Lerpwl i ymrwymo ei Lywodraeth Lafur yn y dyfodol i weithredu deddf Hillsborough. Mae hwn nid yn unig yn gam...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Byddaf yn falch iawn o ymuno â chi yn y digwyddiad hwnnw ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru i annog swyddogion i ddod yn llysgenhadon y Rhuban Gwyn. Rwyf am ddatgan ar y pwynt hwn fy mod yn llysgennad y Rhuban Gwyn, yn union fel oedd fy nhad. Ond nid fi yw’r unig ymgyrchydd dros y Rhuban Gwyn yma yn y Senedd. Mae fy ffrind agos a’m...
Jack Sargeant: 3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog dynion a bechgyn yng Nghymru i wneud addewid y Rhuban Gwyn? OQ58661
Jack Sargeant: 4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn â sicrhau cyfiawnder i'r 97 o ddioddefwyr trychineb Hillsborough? OQ58662
Jack Sargeant: 1. Sut mae'r Comisiwn yn annog staff i wneud addewid y Rhuban Gwyn? OQ58663
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno ac arwain y ddadl hon ar ran Llywodraeth Cymru, a hefyd am ei hymrwymiad personol a'i hymrwymiad hirsefydlog i gymuned y lluoedd arfog? Nid oes mis yn mynd heibio heb inni gael ein hatgoffa o'r hyn yr ydym yn ddyledus i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sydd yn gwasanaethu yn ein lluoedd arfog ar hyn o bryd. Y gwasanaeth a roddon nhw drwy COVID, y...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu, nid yn unig at y ddadl heddiw, ond hefyd at yr adroddiad anodd ond pwysig iawn hwn, dan arweiniad medrus y Cadeirydd, Jayne Bryant? Ond nid pwyllgor Jayne yw'r unig bwyllgor sy'n mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Cyflwynwyd deiseb gan Hanna Andersen i'r Pwyllgor Deisebau rwy’n ei gadeirio ar ôl i’r adroddiad penodol hwn gael ei...
Jack Sargeant: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae'r blaid Dorïaidd eisiau i bawb ohonom esgus mai plaid Dorïaidd wahanol a chwalodd yr economi gyda rhoddion byrbwyll. [Torri ar draws.] Boed yn Geidwadwyr neu'n Dorïaid, maent i gyd o dan yr un het. Nawr, fe wnaethant chwalu'r economi gyda'u rhoddion i filiwnyddion a biliwnyddion ychydig wythnosau'n ôl yn unig. Weinidog, rydych yn iawn; mae'r difrod...
Jack Sargeant: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad cyllidol Llywodraeth y DU ar Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ58609
Jack Sargeant: Ddydd Gwener yma, byddaf yn ymweld â Grŵp DRB yn fy etholaeth fy hun, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rwy'n falch o fod wedi cwblhau fy mhrentisiaeth mewn gweithgynhyrchu uwch yn DRB, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru. Rwyf i hefyd yn hynod ddiolchgar i'r cwmni am ariannu fy ngradd rhan amser tra'r oeddwn i yno. Cyn i mi ymweld a dychwelyd i fy hen weithle, byddaf yn siarad mewn...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i James Evans am ei ymyriad? Cytunaf yn llwyr â James, a’r pwynt rwyf am geisio'i wneud yn awr yw nad pobl fel ni, James, pobl mewn siwtiau sy’n eistedd yn y Siambr hon, sy’n creu newid gwirioneddol, ond pobl fel Tassia. Roedd Tassia'n ddigon caredig, Weinidog, i roi rhai sylwadau i mi ar y llythyr y sonioch chi amdano, a anfonwyd ataf ar 14 Hydref: o ran llwybrau, mae...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am ymateb, ac wrth gwrs, i aelodau fy mhwyllgor, Rhun ap Iorwerth, ac i Buffy am ei chyfraniad a’i theyrnged i’w ffrind agos hefyd—cyfraniadau pwerus iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Busnes am gyflwyno’r ddadl frys hon a’r ffordd y’i trefnwyd. Lywydd, mae’n bwynt arferol imi geisio crynhoi sylwadau’r Aelodau, ond...
Jack Sargeant: Gwnaf, wrth gwrs.
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Jack Sargeant: Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y ddeiseb,