Mabon ap Gwynfor: Yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan Tai Pawb, Shelter Cymru a'r Sefydliad Tai Siartredig Cymru byddai cyflwyno'r hawl i gartref digonol yn creu arbedion sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Yn wir, nododd y dadansoddiad annibynnol fuddion i'r pwrs cyhoeddus gwerth £11.5 biliwn, o'u cymharu â chostau cyffredinol o £5 biliwn dros gyfnod o 30 mlynedd. Rhagamcanir y gallai'r manteision hynny ddechrau...
Mabon ap Gwynfor: Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad am gefnogaeth i gyn-filwyr profion bomiau atomig, os gwelwch yn dda, gan fod 2022 yn nodi'r jiwbilî plwtoniwm, 70 mlynedd ers y profion bom atomig cyntaf yn y DU. Ers hynny, mae ugeiniau o'r bobl a gymerodd ran yn y profion hynny—cyn-filwyr, gwyddonwyr, pobl frodorol a'u teuluoedd—wedi dioddef yn anfesuradwy. Nid oes yr un o'r bobl hynny wedi cael y...
Mabon ap Gwynfor: Neu, beth am eiriau Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wrth drafod eu polisi niwclear?
Mabon ap Gwynfor: 'Bydd y llywodraeth yn gweithio gyda'r sector i alluogi rhaglenni pwrpasol sy'n cefnogi'r broses o drosglwyddo rhwng sectorau, gan gynnwys y sector sifil a'r sector amddiffyn'.
Mabon ap Gwynfor: Blaenoriaeth y wladwriaeth ydy cael gweithlu dawnus yn y sector niwclear er mwyn medru cynnal a chadw'r rhaglen Dreadnought newydd ar lannau'r Clyde, ac er mwyn darparu llongau niwclear ar gyfer y cytundeb AUKUS. A pheidiwch ag anghofio bod Boris Johnson wedi codi'r cap ar y nifer o arfau niwclear yma, gan eu cynyddu o 160 i 240. Nid yw'r gyllideb filitaraidd yn ddigon i gynnal neu i...
Mabon ap Gwynfor: 'Byddai datblygu adweithydd modiwlar bach yn y DU hefyd yn helpu Rolls-Royce i gynnal galluoedd y DU ar gyfer rhaglen forwrol niwclear filwrol y wlad'.
Mabon ap Gwynfor: Neu, dyma eiriau o daflen hyrwyddo SMR Rolls-Royce:
Mabon ap Gwynfor: 'Un defnydd penodol ar gyfer y dalent a ddatblygwyd drwy raglen adweithyddion modiwlar bach y DU fyddai yn y gwaith parhaus o gynnal ataliaeth niwclear annibynnol y DU.'
Mabon ap Gwynfor: 'Roedd adweithydd niwclear yn wynebu ymdoddiad. Gorsaf bŵer Wylfa yn Ynys Môn.'
Mabon ap Gwynfor: A hynny ar ôl i ddarn o bwysau y grab ddisgyn i mewn i graidd un o'r adweithyddion, a neb yn sylwi am oriau. Mae'n rhaid inni gyfrif ein hunain yn andros o lwcus. Newid hinsawdd ydy’r ddadl arall dros gyfiawnhau niwclear. Mae newid hinsawdd yn digwydd o flaen ein llygaid, ac mae’n rhaid cymryd camau ar frys i wirdroi y niwed sydd yn digwydd. Mae gennym ni saith mlynedd yn unig er mwyn...
Mabon ap Gwynfor: Mae rhai yn sôn am ddilyn y Ffindir a chladdu’r gwastraff filltiroedd o dan y ddaear, gan ei orchuddio efo clai. Ond nid datrysiad hirdymor mo hyn. Fe drïwyd claddu tailings gweithfeydd wraniwm cwmni Eldorado yn Ontario efo math o glai 40 mlynedd yn ôl, ond methu gwnaethon nhw. Ac mae yna dros 100 megatunnell o wastraff ymbelydrol wedi ei wasgaru dros fil hectar o dir yno o hyd. Fe...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi rhoi ychydig o amser i Carolyn Thomas, Sam Rowlands a Mike Hedges i gyfrannu ar y diwedd hefyd. Rŵan, mae yna resymau lu yn cael eu cyflwyno o blaid ynni niwclear, ac ar yr wyneb maen nhw’n medru argyhoeddi, ond edrychwch ychydig yn ddyfnach ac mi welwch chi mai arwynebol iawn ydy’r dadleuon yma. Dywed rhai fod angen ynni niwclear er mwyn darparu ar...
Mabon ap Gwynfor: Amdani.
Mabon ap Gwynfor: Diolch i Janet am gymryd yr amser—nid dyna sydd lawr ar y cynnig ac nid dyna fyddwn ni'n pleidleisio arno. Diolch i Janet am hynny. Am y rheswm yna, dylen ni bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, dŷn ni wedi rhoi gwelliant i lawr a dŷn ni wedi trafod y gwelliant o'r blaen, felly wnaf i ddim mynd â'r amser i drafod y gwelliant yna ymhellach heddiw, ond gobeithio y gwnewch chi gefnogi'r...
Mabon ap Gwynfor: Na, allaf i ddim ateb y cwestiwn yna achos dwi ddim yn glir—fe wnaf i aros ichi gael cyfieithiad—allaf i ddim ateb y cwestiwn yna, mae arnaf i ofn, Janet, oherwydd doedd o ddim yn glir ar y pryd beth oedd pwrpas geiriad y cynnig. Doeddwn i ddim yn deall y cynnig, felly allaf i ddim ateb y cwestiwn. Ond, os ydw i wedi deall yr esboniad sydd wedi cael ei roi, yna mae’r cynnig fel sydd...
Mabon ap Gwynfor: Wrth gwrs, Janet.
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a dwi'n cynnig yn ffurfiol welliant 2, yn enw Siân Gwenllian. Gaf i gychwyn drwy ddiolch i Sam Rowlands am gymryd yr amser i gyflwyno'r cynnig yma, ond nid yn unig i gyflwyno'r cynnig ond hefyd am gymryd ychydig o'r amser sy'n cael ei neilltuo iddo er mwyn rhoi esboniad inni o fyrdwn y cynnig? Mae’n anffodus, wrth gwrs, fod yr ychydig amser sy'n cael ei roi i...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Cwnsler am yr ateb yna. Dwi'n cytuno efo'ch brawddeg agoriadol: dylai deddfau i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, a dylai fod yna atalnod llawn yn fanna. Dwi wedi bod yn Aelod etholedig o'r Senedd yma am flwyddyn a hanner bellach, ond yn barod—ac mae'n loes calon gen i ddweud hyn—dwi'n colli hyder yn y broses ddatganoli fel mae hi'n cael ei gweithredu yma ar hyn o bryd. Mae'n...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ateb yna. Wel, nôl ym mis Mawrth 2021, fe ddywedodd y Prif Weinidog—a dwi am ddyfynnu'r Saesneg yn fan hyn:
Mabon ap Gwynfor: 'Rhaid i ni ddangos i bobl sut y gallwn ail-lunio'r DU mewn ffordd sy'n cydnabod ei bod yn gymdeithas wirfoddol o bedair cenedl, lle rydym yn dewis cydrannu ein sofraniaeth at ddibenion cyffredin ac er budd cyffredin.'