Siân Gwenllian: Pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith COVID-19 ar sgiliau iaith Gymraeg plant oed cynradd?
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn i'r ddau bwyllgor am eich gwaith trwyadl yn edrych ar hyn i gyd. Mae'r gwaith mae eich pwyllgor chi yn ei wneud, nid yn unig efo'r Bil yma ond efo'r holl ddeddfwriaeth sydd yn dod lawr atom ni yn sydyn iawn, yn hollbwysig. Fedrwn ni ddim gadael i'r materion yma fynd o dan y radar. Mae'n hollbwysig eu craffu nhw yn ofalus, a dwi'n gweld eich bod chi yn gwneud hynny. Mae'n...
Siân Gwenllian: Diolch am yr ateb yna. Dwi'n credu bod angen i chi ddangos cydymdeimlad efo pryderon rhieni, pobl ifanc a staff a dangos eich bod chi yn gwrando ac yn ystyried gweithredu, os bydd rhaid—hynny yw, yn fodlon tynhau'r rheolau os bydd angen. Mi fyddai egluro'r rhesymeg o ran pwy ddylai ynysu a phwy ddylai fynd i'r ysgol yn helpu, ac mae etholwyr yn dweud wrthyf i fod y cyngor maen nhw'n ei...
Siân Gwenllian: 1. Pa gamau pellach y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd mewn ymateb i darfu difrifol ar addysg yn gynnar yn y tymor ysgol newydd yn sgil cynnydd yn yr achosion o COVID-19? TQ567
Siân Gwenllian: Pan fyddwn ni'n ceisio cadw cleientiaid positif allan o'r ysbyty ac amddiffyn eraill yn y gymuned, gwrthodir darn hanfodol o gyfarpar diogelu personol i ni.
Siân Gwenllian: Fedrwch chi gadarnhau beth yn union ydy'r sefyllfa pam fod gweithwyr yn cael eu trin yn wahanol, ac a fyddwch chi'n ailystyried? Yng ngeiriau fy etholwr i eto, dyma ddywedodd hi wrthyf i:
Siân Gwenllian: Mae gofal cymdeithasol eisoes mewn argyfwng. Mae recriwtio a chadw staff gofal ar ei lefel isaf erioed, a bydd hyn ond yn gwaethygu'r sefyllfa ymhellach gan y bydd staff yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu diogelu, ac yn chwilio am waith arall.
Siân Gwenllian: Dydy hi dal ddim yn glir beth ydy'r sefyllfa o ran gweithwyr gofal yn y gymuned a'r defnydd o un rhan o offer PPE, sef y gynnau neu gowns. Mae yna nifer wedi cysylltu efo fi yn sgil pryderon eu bod nhw'n cael eu trin yn eilradd i'w cydweithwyr mewn settings clinigol am nad ydyn nhw'n gorfod gwisgo gynnau/gowns. Dyma un neges ges i:
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y defnydd o gyfarpar diogelu personol mewn cartrefi gofal yn Arfon? OQ56933
Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y gwaith o gefnogi menywod sy’n ffoaduriaid o Afghanistan yng Nghymru?
Siân Gwenllian: Dydyn ni ym Mhlaid Cymru ddim yn gwrthwynebu'r rheoliadau yma chwaith. Maen nhw wedi symud Cymru tuag at lefel rybudd 0, gan ddod â mwy o normalrwydd i fywydau pobl ar draws y wlad, sydd i'w groesawu, wrth gwrs. Ond, fel rydyn ni'n gwybod, dydyn ni ddim yn gallu cymryd dim byd yn ganiataol wrth i achosion gynyddu unwaith eto, ac mae yna gwestiynau sydd angen eu hateb gan y Llywodraeth...
Siân Gwenllian: Wel, diolch yn fawr iawn am hynny, achos yn y wasg mi wnes i hefyd ddarllen bod yna fwriad gan y Llywodraeth i werthu'r parc, neu rannau o'r parc. Mae'n dda cael eich cadarnhad chi heddiw mae sôn am ddau blot ydym ni, ac nid y cyfan o'r parc, felly. Ond, mae hi'n sgandal, onid ydy, nad oes yna'r un swydd wedi cael ei chreu yn y parc yma ar ôl bron 20 mlynedd o dan reolaeth Llywodraeth...
Siân Gwenllian: Mae'r argyfwng tai, gan gynnwys yr argyfwng ail gartrefi, yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau ledled Cymru. Dwi'n croesawu'r ymgynghoriad yma wrth gwrs, ond rhan yn unig o'r ateb fyddai mynd i'r afael â'r materion sydd yn yr ymgynghoriad yma. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. Ond o ran yr ymgynghoriad ei hun, pryd yn union fydd yr argymhellion a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad...
Siân Gwenllian: 8. A wnaiff y Gweinidog egluro pwrpas yr ymgynghoriad cyfredol ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar? OQ56822
Siân Gwenllian: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gyfrifoldeb cyfredol Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu parc busnes Bryn Cegin, Bangor? OQ56823
Siân Gwenllian: Ddydd Llun gŵyl y banc, fe gyhoeddodd y Gweinidog addysg gyllideb o dros £3 miliwn ar gyfer darparu 1,800 o beiriannau diheintio osôn yn ein hysgolion, colegau a phrifysgolion. Ddeuddydd yn ddiweddarach, yn dilyn galwadau am sicrwydd ynghylch diogelwch gan Blaid Cymru ac eraill, fe ddaeth hi i'r amlwg bod Gweinidogion wedi gwneud tro pedol ar y penderfyniad. Fedrwch chi egluro'r broses a...
Siân Gwenllian: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau diogelwch COVID-19 mewn ysgolion? OQ56807
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Mae siaradwyr Plaid Cymru wedi gosod y ddadl yn rymus iawn, yn gosod y cyd-destun ac yn amlinellu'r galwadau sydd yn cael mwy a mwy o gefnogaeth wrth inni drafod y mater yma a dwi ddim yn ymddiheuro am ddod â'r mater yn ôl yn fuan yn y Senedd yma. Mi wnaethom ni drafod hwn yn y Senedd ddiwethaf hefyd ac mae o angen bod ar yr...
Siân Gwenllian: Diolch am gael cyd-gyflwyno'r cynnig yma y prynhawn yma. Ers dros flwyddyn bellach, mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn galw am ymchwiliad cyhoeddus sydd yn benodol i Gymru. Mi fyddai hynny yn rhoi cyfle unigryw i asesu a dysgu gwersi o'r ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â'r pandemig, ond, yn hytrach na hynny, mae'r Llywodraeth wedi penderfynu dewis cael un bennod Gymreig mewn ymchwiliad...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Jane Dodds am ddod â hyn ymlaen. Rwy'n estyn fy nghefnogaeth iddi efo'r bwriad yma. Mae'n bwnc sydd wedi bod yn cael ei drafod ers rhai blynyddoedd bellach, a'r Llywodraeth wedi derbyn yr angen i ymrwymo i weithredu, gyda'r nod o ddiweddu creu elw yn sgil darparu gwasanaethau gofal plant. Mae yna ddwy elfen i'w rhoi o dan y chwyddwydr: plant sy'n...