Canlyniadau 101–120 o 500 ar gyfer speaker:Heledd Fychan

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol ( 7 Rha 2022)

Heledd Fychan: 8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol ynglŷn â sichrau parhad eu gwasanaethau yng Nghanol De Cymru? OQ58828

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Nwyddau Mislif am Ddim ( 7 Rha 2022)

Heledd Fychan: 1. Beth yw polisi'r Comisiwn o ran darparu cynnyrch mislif am ddim ar ystâd y Senedd? OQ58820

4. Cwestiynau Amserol: Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ( 7 Rha 2022)

Heledd Fychan: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg sy’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng am yr ail ddegawd yn olynol? TQ694

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Model Athrawon Cyflenwi ( 6 Rha 2022)

Heledd Fychan: Diolch i'r Gweinidog, a diolch hefyd i'r Aelod dynodedig—diolch i'r ddau ohonoch chi am eich gwaith ar hyn. Hoffwn hefyd, wrth gwrs, ategu diolch y Gweinidog i'r athrawon llanw hyn, sy'n gwneud gwaith gwirioneddol bwysig. Dŷn ni wedi gweld, fel roeddech chi'n sôn, yn ystod COVID, wrth gwrs, yr heriau parhaus o ran hynny, pa mor allweddol maen nhw wedi bod i sicrhau bod plant a phobl ifanc...

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Mae NSPCC Cymru wedi bod yn glir y bydd 200 a mwy o blant yn dioddef cam-drin rhywiol ar-lein ym mhob mis y mae’r Bil Diogelwch Ar-lein yn cael ei ohirio. Mae pethau'n newid mor gyflym yn y maes hwn, ac mae'n amhosib i ni ddiogelu plant yn llwyr, ond dwi yn pryderu'n fawr o weld y newidiadau, gyda Twitter rŵan hefyd yn diswyddo staff sydd wedi bod yn gweithio'n benodol yn y maes hwn. Rydym...

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Natasha, am ddod â hwn gerbron.

11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn rhannu sicrwydd Peter Fox. Rwy'n bryderus wrth weld yr elfen 'cyfreithiol ond niweidiol' yn cael ei dileu. Yr hyn sy'n fy mhryderu i fwyaf yw'r oedi a fu. Rwy'n credu ei bod o fudd i bawb ohonom sicrhau bod pwysau'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU i gyflawni hyn cyn gynted â phosibl.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Yn sicr. Rwy'n cytuno'n llwyr. Wrth weld y busnesau hynny wedi'u dinistrio—. Dim ond newydd ailagor ei ddrysau mae Clwb y Bont. Gofynnwyd i mi, ar y diwrnod y cafodd ei agor, 'A yw Clwb y Bont yn ddiogel yn y dyfodol nawr?' Wel, na, nid yw'n ddiogel. Os oes llifogydd bach, ydy, oherwydd bod giatiau amddiffyn rhag llifogydd yno, wedi'u darparu drwy gyllid, ond ni fyddai wedi helpu pe baem...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Busnesau bach (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Mae cyfarfod â busnesau bach bob amser yn gymaint o anrhydedd, onid yw, fel cynrychiolydd. Yn sicr, wrth siarad â nifer y penwythnos diwethaf o gwmpas Pontypridd, mae'r heriau y maent yn eu hwynebu yn enfawr o ran y prisiau hynny, wrth iddynt ddal i adfer wedi COVID. Ond hefyd, oherwydd bod gan bobl lai o arian, mae yna lai o wario yn y siopau hynny, ac mae'n heriol tu hwnt.  Her arall i...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Pwyllgor diben arbennig ymchwiliad COVID-19 Cymru (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Hoffwn bwysleisio ar y dechrau, er ein bod yn cyd-gyflwyno, rwy'n credu ein bod yn dod at hyn o safbwyntiau gwahanol, ac i mi, rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth am ymchwiliad annibynnol yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr Alban yn dangos y ffordd o ran yr hyn sydd angen inni allu ei graffu, oherwydd mae effaith COVID yn dal i'w theimlo ym mywydau pawb ohonom nawr. Ydy, mae'n...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol — 'Sicrhau chwarae teg: Adroddiad ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig' (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Hoffwn hefyd ategu fy niolch i'r Cadeirydd, fy nghyd-Aelodau, y clercod, a phawb roddodd dystiolaeth i ni hefyd, a'r tîm ymgysylltu. Yn sicr, dwi'n ategu pwyntiau Alun Davies o ran bod hwn wedi bod yn ymchwiliad sydd wedi codi calon ar adegau o ran gweld angerdd pobl a lot o'r prosiectau gwych sydd yn digwydd o ran sicrhau bod yna well ymgysylltiad efo chwaraeon. Hoffwn ategu hefyd pwyntiau...

4. Datganiadau 90 Eiliad (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: 'Fe awn ni eto ym mis Mawrth.'

4. Datganiadau 90 Eiliad (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Gallant fod yn sicr, fel gall y tîm merched hefyd, beth bynnag fo unrhyw ganlyniad yn y dyfodol, bydd y Wal Goch yno i ddathlu a chydymdeimlo fel y mae wedi bod ar hyd y siwrnai hon. Gyda’n gilydd yn gryfach. Diolch, tîm Cymru. [Cymeradwyaeth.] 

4. Datganiadau 90 Eiliad (30 Tach 2022)

Heledd Fychan: Gyda chwaraewyr, staff a chefnogwyr tîm pêl-droed dynion Cymru yn paratoi i adael Qatar i ddychwelyd adref, roeddwn eisiau cymryd y cyfle heddiw i gyfleu ein diolch i bob un ohonynt, ynghyd â’r Wal Goch oedd yn cefnogi yma yng Nghymru. Er bod ein siwrnai wedi dod i ben, a bod yna siom yn naturiol, mae yna gymaint hefyd i’w ddathlu, a dyna'r hoffwn adlewyrchu arno heddiw. Roedd cyrraedd...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus (29 Tach 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw. Hoffwn ategu'r pwyntiau rydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn barod am y bobl sydd ddim yn cael eu coffáu hyd yma. Yn sicr mae yna lefydd sydd heb eu coffáu hefyd. Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y cyd-destun ehangach i sicrhau bod unrhyw beth sydd gennym ni yn adlewyrchu'r Gymru gyfoes. Wrth gwrs, rydym ni i gyd...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi (29 Tach 2022)

Heledd Fychan: Fe hoffwn i ddechrau, efallai, trwy fyfyrio ar eiriau cyn-brifathro Logan Mwangi amdano, a oedd yn ei alw yn 'fachgen bach annwyl' gyda 'gwên ddireidus' a oedd 'wrth ei fodd yn siarad'. Yn aml, rydym ni'n anghofio am Logan ei hun. Rydym ni i gyd wedi gweld lluniau ohono, ond roedd clywed am ei bersonoliaeth a pha mor hapus yr oedd yn yr ysgol, yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd ei fam yn ei...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Tach 2022)

Heledd Fychan: Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi. Droeon, rydyn ni wedi codi faint o gyfle ydy o bod Cymru yn cystadlu yng nghwpan y byd yn Qatar o ran proffil Cymru yn rhyngwladol, a'r ffaith ein bod ni rŵan yn gweld pobl yn Gwglo yn ystod y gêm yn erbyn Unol Daleithiau America am Gymru, eisiau gwybod mwy am ein gwlad, a gobeithio felly yn gwybod am ein...

9. Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys (23 Tach 2022)

Heledd Fychan: Fel y nododd Rhun ap Iorwerth, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y lleoedd i fyfyrwyr nyrsio yng Nghymru, ac eithrio 2019-20, pan arhosodd y nifer yn statig. Mae croeso mawr i hynny. Ond yn anffodus, nid yw'r ecsodus o nyrsys sy'n gadael y GIG yn dangos unrhyw arwydd o arafu, ac mae'n amlwg i'w weld fel pe bai'n cynyddu, gan fod llawer o nyrsys yn gadael y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Tach 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, ac yn amlwg wrth i'r trafodaethau yna barhau, fe fyddem ni'n ddiolchgar o'r diweddariadau, fel rydych chi'n eu rhoi, o ran y cymorth angenrheidiol sydd ei angen fel nad yw dysgwyr, nac ychwaith staff, yn cael eu heffeithio'n andwyol, cyn belled â bo modd.  Neithiwr, cynhaliodd Rhieni dros Addysg Gymraeg gyfarfod yn Rhondda Cynon Taf. Tynnwyd sylw at achos Jenna a David o...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Tach 2022)

Heledd Fychan: Diolch, Lywydd. Hoffwn i ymateb i'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn beth cadarnhaol fod pobl ifanc yn gwybod eu hawliau yn y gweithle, ac nid wyf yn rhannu'r pryderon. Rydym i gyd fel gwleidyddion yn mynd i ysgolion, ac yn gallu siarad am ein gwerthoedd a'n gwahaniaethau fel pleidiau gwleidyddol, ac mae hyn yn rhan o'r broses addysg honno.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.