Hefin David: Yn groes i rai o sylwadau agoriadol Sioned Williams, nid wyf i'n credu bod unrhyw beth yn agos at unfrydedd yn y sector, ymhlith rhanddeiliaid, ynglŷn â'r angen am y Bil hwn, ac fe ddes i ar draws, drwy drafodaeth, lawer o randdeiliaid a ddywedodd wrthyf nad oes gwir angen Bil i gyflawni'r hyn yr ydych chi eisiau ei gyflawni. Ond yna, rydych chi naill ai'n comisiynu adroddiad gan Ellen...
Hefin David: Diolch. Gadewch imi gloi, felly, drwy ddweud mai'r hyn yr hoffwn ei weld mewn gwirionedd yw rhagor o dai yng ngogledd fy etholaeth, i'r gogledd o Ystrad Mynach. Ar hyn o bryd rwy'n edrych am rywle i fyw yn Nelson, sy'n edrych yn lle da iawn i fyw ynddo. Hoffwn fyw ym Margoed, ond mae prinder yno. Hoffwn weld tai'n cael eu hadeiladu yno. Yr ateb i hynny yw cysylltu â chynllunio, yr economi,...
Hefin David: Rwy'n ofni eich bod newydd wneud araith. Os ydych am wneud pwynt i'r Llywodraeth, credaf y dylech ei ofyn i'r Llywodraeth. Aelod o'r meinciau cefn sy'n mynegi fy marn ydw i. Rwy'n teimlo bod methiant ledled y DU i fynd i'r afael â hyn, a theimlaf hefyd nad yw'r cynnig a gyflwynwyd gan eich plaid yn mynd i'r afael â'r broblem am ei fod yn tynnu sylw at y sector preifat. Mae'n gwneud y...
Hefin David: Roedd yr araith gyntaf a wneuthum yn y Siambr hon yn 2016 yn ymwneud â thai, ac mae arnaf ofn fy mod yn mynd i wneud yn union yr un araith eto. Ond nid wyf am wneud hynny mewn gwirionedd—nid yw hynny'n hollol wir. Rwyf wedi edrych ar y Cofnod, ac mae'n mynd i fod yn wahanol, er fy mod yn aml yn edrych ar y Cofnod i weld beth a ddywedais wedi imi siarad yn y Siambr beth bynnag. Un o'r...
Hefin David: Mae'r diffygion a nodwyd gennych yn adlewyrchu'r un broblem â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Felly, mae hi wedi beio datganoli yma; beth y mae'n ei feio am y broblem yn Lloegr?
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerffili?
Hefin David: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod parthau perygl nitradau'n cael eu gorfodi'n effeithiol?
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu deddf aer glân i Gymru?
Hefin David: Ydw, yn sicr, rwy'n cytuno. Ac rwy'n credu fy mod wedi digio mwy am y ffaith eich bod chi'n iau na fi na dim byd arall. Ydw, rwy'n credu ei fod yn gyfle a gollwyd—yn sicr. Rwy'n credu bod y Llywodraeth rhwng 1997 a 2007 wedi gwneud pethau gwych, ond hefyd ni wnaethant bethau y gallent fod wedi'u gwneud, a chredaf fod hwn yn un o'r pethau y gallent fod wedi'i wneud ac na wnaethant ac y...
Hefin David: Nid wyf yn credu mai diben dadl Aelodau bob amser yw dangos unfrydedd ymhlith aelodau meinciau cefn ar draws y Siambr, oherwydd bydd gwahaniaethau bob amser rhwng unigolion. Nid wyf am ymddiheuro i James Evans am gefnogi'r gwelliant gan Alun Davies ac yn wir, am ei gyd-lofnodi, oherwydd mae'n tynnu sylw at fater hanfodol. Mae'r holl enghreifftiau a ddarparwyd—ac rwy'n edrych ar draws y...
Hefin David: Mae'r cyllid hwnnw i'w groesawu'n fawr. Rwyf wedi gweld ledled yr etholaeth, a thrwy'r fwrdeistref yn wir, yr effaith y mae hynny wedi'i chael, yn fwyaf diweddar yng Nghwm Calon, lle mae'r llwybr beicio wedi'i agor am y tro cyntaf ac wedi cael croeso mawr gan drigolion. Fodd bynnag, hoffwn ganolbwyntio ar ran benodol o'r etholaeth. Mae pont droed Ty'n-y-graig dros reilffordd cwm Rhymni yn...
Hefin David: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol yng Nghaerffili? OQ57528
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith lefel rhybudd dau ar gyfer COVID-19 yng Nghaerffili?
Hefin David: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n werth nodi y pleidleisiwyd ar yr hysbysiadau cosb benodedig am y tro cyntaf yn gynnar yn 2020 yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, adran 21, ac nid oes plaid yn y Siambr hon nad oedd yn eu cefnogi ar y pryd, felly mae'n fater o bwys. Fodd bynnag, ar y pryd, roeddent yn berthnasol i bawb, oherwydd bod pawb â dyletswydd...
Hefin David: Diolch.
Hefin David: Felly, mewn perthynas â fy nghwestiwn atodol rwyf ar fin ei ofyn, mae'r Gweinidog wedi ymdrin â'r mater yn effeithiol yn y gorffennol, ac yn anffodus, rydym yn awr mewn sefyllfa lle mae wedi gwaethygu'n ddiweddar. Mae problem barhaus ar Fferm Gelliargwellt Uchaf yn fy etholaeth, lle mae fferm laeth fawr wedi arallgyfeirio i ailgylchu bwyd, ac mae wedi cael contract gyda nifer o awdurdodau...
Hefin David: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i arallgyfeirio ar ffermydd? OQ57387
Hefin David: Wedi dweud hynny, ymatebodd y Prif Weinidog ddoe—roeddwn yn gwrando ar y cwestiynau i'r Prif Weinidog—am wasanaethau iechyd meddwl, a dywedodd fod llywio gofal yn bwysig iawn i leihau'r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl. Y broblem gyda llywio gofal yw ei fod yn creu tagfa, ac mae'r tagfeydd yn digwydd ar y pwynt rydych yn mynd at ofal sylfaenol. A phan fyddwch yn mynd at ofal sylfaenol,...
Hefin David: Roeddwn am siarad yn y ddadl hon fel Aelod o dde Cymru nad oes ganddo wybodaeth fanwl ynglŷn â sut y mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn gweithio, ond sydd wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi gyda phroblemau iechyd meddwl yn fy etholaeth sy'n chwilio am gymorth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a byrddau iechyd cysylltiedig yn fy nghymuned. Felly, rwy'n cymryd y geiriau o sicrwydd a...
Hefin David: —i dalu amdano. Felly, byddwn yn croesawu cyfarfod â chi, Weinidog, i drafod y mater hwn, yn enwedig mewn perthynas ag erydiad hirdymor a chanlyniadau hynny i eiddo. Mae'n broblem nad oedd gennym beth amser yn ôl.