Peter Fox: Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y rheoliadau hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n gefnogol o unrhyw fesurau i helpu pobl sy'n gweithio'n galed i brynu eu cartref eu hunain, yn enwedig yn ystod y cyfnod anoddach hwn, felly yn gyffredinol rydym ni'n croesawu'r camau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd heddiw. Fodd bynnag, fel y bu barn hirsefydlog y grŵp, rydym ni'n credu y gellid cynyddu...
Peter Fox: Trefnydd, a gaf i ofyn am yr wybodaeth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am gynnydd sy'n cael ei wneud ar brosiect ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac ar ddau fater yn benodol? Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion diweddar y bydd darn wyth milltir o Flaenau'r Cymoedd, yr A465, yn wynebu cyfres o achosion o fod ar gau yn ystod y 18 mis nesaf. Bydd y ffordd rhwng cylchfan...
Peter Fox: Diolch, Trefnydd, am eich ymateb. Rwy'n croesawu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud o ran gwasanaethau eiriolaeth, yn enwedig i blant a phobl ifanc o ran y cynnig gweithredol. Fodd bynnag, dywedodd yr adroddiad diweddar gan Gomisiynydd Plant Cymru, er gwaethaf rhywfaint o welliant, nad yw gwasanaethau eiriolaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd yn benodol ar gael o hyd i bob person...
Peter Fox: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau eiriolaeth? OQ58653
Peter Fox: A gaf fi ddiolch i chi, Tom Giffard, am gyflwyno'r ddadl hon a rhoi ychydig o amser i mi? Rwy'n credu bod pob un ohonom yn y Siambr yn cytuno â'r syniad fod ymchwil, datblygu ac arloesi yn sbardun pwysig i dwf economaidd a ffyniant, ac wrth gwrs mae prifysgolion yn allweddol i hyn. Nawr, mae yna newyddion da. Nodwyd bod Cymru'n chwaraewr cyson o gryf o fewn ymchwil ac arloesi rhyngwladol a...
Peter Fox: Diolch i chi, Jenny, ac rwy'n cydnabod eich pwynt yn llwyr ac roedd rhai pwyntiau da o ran sut y gellid defnyddio'r cymorth hwnnw. Rwyf am droi at gyllid llywodraeth leol yn y man, ond yn gyntaf hoffwn orffen y pwynt roeddwn yn ei wneud yn gynharach. Rwy'n gwybod yn bersonol sut mae fy mhlant fy hun a nifer o blant eraill yn sir Fynwy wedi elwa o'u cyfnod yng nghanolfan addysg awyr agored...
Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, ac rwy'n croesawu'r cynnig a gyflwynwyd gan Sam. Gwn fy hun faint o waith sy'n mynd i mewn i lunio Bil allan o ddim byd, ac rwy'n teimlo'n gryf fod eich memorandwm esboniadol yn rhagorol ac yn crynhoi pam fod angen y ddeddfwriaeth flaengar hon. Fel sydd wedi'i nodi yn y ddadl, mae addysg awyr agored...
Peter Fox: Mae Sam Kurtz a James Evans eisoes wedi siarad am sefyllfa'r tenantiaid, ac mae'n rhaid imi dynnu sylw'r Aelodau at fy muddiannau gan fy mod yn ffermwr actif. Ond soniodd Sam hefyd am dir comin, a hoffwn wthio ychydig ymhellach ar hynny, oherwydd mae tir comin ar hyn o bryd yn ardal gymwys at bwrpas cynllun y taliad sylfaenol, sy'n hanfodol i lawer o fusnesau ar draws Cymru. Mae ffermwyr yn...
Peter Fox: Diolch i John Griffiths am godi hyn, a chroesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio o'r newydd ar sir Fynwy; yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny am 13 mlynedd pan oeddwn yn arweinydd. Ac rwyf hefyd yn falch iawn fod y weinyddiaeth Lafur newydd yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau a roddwyd ar waith gennym ni, felly diolch iddynt. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi rhoi pwyslais...
Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Fel rwy'n siŵr y byddwch yn cofio, Gweinidog, mentrodd Cyngor Sir Fynwy, yn ôl pan oeddwn i'n arweinydd, sefydlu ei fferm solar ei hun ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn y Crug. Y bwriad oedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer tua 1,400 o gartrefi a lleihau allyriadau carbon. Gofynnodd y cyngor i Lywodraeth Cymru ar y pryd ymuno â'r prosiect fel...
Peter Fox: Diolch. Dangosodd y data ddiweddaraf a gafodd ei ryddhau ar achosion canser, mai dim ond 52.5 y cant ym mis Awst a gyrhaeddodd nod y Llywodraeth o ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod—y nifer lleiaf ers i gofnodion gael eu casglu. Mae un o fy etholwyr i wedi bod yn aros dros saith mis am driniaeth canser. Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd wedi cael canser y geg ac roedd wedi cael mynediad i...
Peter Fox: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amseroedd aros canser y GIG? OQ58607
Peter Fox: Mae'r materion hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau, megis drwy gynyddu gorbenion, ond mae iddynt effeithiau anuniongyrchol hefyd, a gwyddom y bydd yr argyfwng costau byw a chwyddiant yn lleihau pwerau gwariant dewisol, sy’n golygu bod busnesau’n wynebu ergyd arall i'w ffrydiau incwm. Mae llawer wedi ceisio amsugno'r pwysau ar brisiau dros yr ychydig fisoedd diwethaf eisoes, ond...
Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Orllewin Clwyd, a chroesawaf y cyfle i gyflwyno’r ddadl hon heno. Mae busnesau yng Nghymru yn hollbwysig i’n ffyniant economaidd. Maent yn sbardun pwysig i dwf, gan greu swyddi a chyfoeth, ac maent yn sail i’n cymunedau, gyda llawer yn darparu gwasanaethau pwysig i bobl leol. Yn syml: eu...
Peter Fox: Mae Ken Skates yn gwneud pwynt pwysig, ac yn wir, mae pyllau nofio sy'n cael eu rhedeg yn breifat, a phyllau nofio a chyfleusterau hamdden sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn sicr, mewn sefyllfa anodd iawn. Maent mor hanfodol, onid ydynt, i lesiant ein cymunedau. Felly, er mwyn i'r cyfleusterau hyn ddod yn fwy cynaliadwy, mae angen inni geisio eu helpu i ddefnyddio ffynonellau ynni...
Peter Fox: A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am y datganiad? Ac a gaf i ddiolch hefyd i'r comisiynydd presennol am ei gwaith hyd yma, yn ogystal â'i rhagflaenydd, yr Athro Sally Holland? Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, ac yn arbennig, plant a phobl ifanc, sydd wedi gorfod profi amharu sylweddol ar eu bywydau a'u datblygiad. Felly, mae'n bwysig i ni yn y Senedd ofyn i ni'n...
Peter Fox: Diolch i chi, Gweinidog. Yn gyntaf, fe hoffwn i gydnabod nad yw'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai da iawn, a dweud y lleiaf. Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain—[Torri ar draws.]
Peter Fox: Diolch i chi, Llywydd. Fel y dywedais i, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn siomedig ein bod ni'n ein cael ein hunain yn y sefyllfa hon. Rwy'n croesawu'r Canghellor newydd i'w swydd. Mae'n un sydd ag ystod eang o wybodaeth am beirianwaith y Llywodraeth ac mae'r profiad angenrheidiol ganddo i roi'r wlad yn ôl ar y trywydd iawn. Nid amseroedd arferol mo'r rhain ac, er nad yw digwyddiadau diweddar...
Peter Fox: Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau mynediad cyfartal i gymorth i rieni yn dilyn chwalu teuluoedd?
Peter Fox: Diolch am godi'r cwestiwn hwn, Jane Dodds. Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr y bydd degau o filoedd o apwyntiadau newydd yn cael eu creu ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Edrychwn ymlaen at gael gwybod lle a phryd y bydd y rhain ar gael—pryd y byddwn yn dechrau eu gweld. Rwy'n parhau i gael gohebiaeth gan etholwyr pryderus, fel pawb arall yma, sy'n cael trafferth cael mynediad at...