Carolyn Thomas: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i amddiffyn trigolion gogledd Cymru rhag yr argyfwng costau byw?
Carolyn Thomas: Disgwylir i tua 75 y cant o aelwydydd gael eu cefnogi mewn rhyw ffordd gan ymyriadau costau byw Llywodraeth Cymru, gyda mwy o gymorth wedi'i dargedu at aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm. Gwyddom fod taliad cymorth tanwydd y gaeaf yn cael ei werthfawrogi gan bobl a'i derbyniodd a dywedodd un derbynnydd yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, 'mae'r £100 wedi lleddfu fy nhlodi ar...
Carolyn Thomas: Diolch i Luke am gyflwyno’r cynnig hwn. Mae'n un rwyf wedi'i gefnogi ers tro, ac yn wir, mae'r ddeiseb i'r Senedd i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes', a lofnodwyd gan fwy na 850 o bobl, yn tarddu o fy etholaeth i yng Ngogledd Cymru gan Sam Swash. Ar lefel egwyddorol, mae'n gwbl annheg fod y gallu i fod yn berchen ar anifail anwes yn dibynnu, ar hyn o bryd, ar p'un a ydych yn berchen...
Carolyn Thomas: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r newidiadau posibl i'r modd y cymhwysir protocol Gogledd Iwerddon?
Carolyn Thomas: Un ffordd hanfodol o sicrhau bod cyllidebu'n cyflawni ar gyfer menywod yw drwy wneud buddsoddiadau strategol yn y sector gofal. Gwyddom na fyddai'r buddsoddi hwn yn cyflawni ar gyfer menywod yn unig, byddai hefyd yn rhoi hwb i'n heconomi ac yn cynyddu cyflogaeth gyffredinol. Mae ymchwil wedi dangos y byddai buddsoddi 2 y cant o gynnyrch domestig gros mewn gofal yn creu bron cymaint o swyddi i...
Carolyn Thomas: Diolch. A gaf i ddechrau drwy groesawu'r treial hwn a diolch i fy nhgyd-Aelod Jack Sargeant am y gwaith sylfaenol y mae wedi'i wneud i'w wireddu? Gall gorbryder a thrafferthion ariannol fod yn llafurus ac atal pobl rhag ffynnu neu fyw bywydau iach a hapus. Gallai sefydlogrwydd ariannol olygu'r gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n gadael gofal yn dysgu sgiliau newydd, yn gallu fforddio rhwydweithio a...
Carolyn Thomas: 5. Pa ganlyniadau y mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio eu cyflawni o'r cynllun peilot incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Ngogledd Cymru? OQ58318
Carolyn Thomas: A allech chi ofyn i gontractwyr yng Nghaergybi ymgysylltu â phartneriaid lleol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i weithwyr lleol, a hefyd gyda'r cadwyni cyflenwi? A hefyd, os byddwch chi yn cael sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a allech chi ddweud bod cysylltiad rhwydwaith ffibr uchel sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac a ariennir gan Ewrop a allai gael ei...
Carolyn Thomas: Na wnaf, diolch.
Carolyn Thomas: Ac mae'n rhaid i unrhyw rwydwaith trafnidiaeth sy'n addas i'r diben flaenoriaethu eu hanghenion hwy mewn perthynas ag unrhyw welliannau arfaethedig. Am y rheswm hwn, roeddwn yn falch o glywed yn y Siambr yr wythnos diwethaf y bydd y cymorthdaliadau cyllidol blynyddol o £2.9 miliwn ar gyfer hediadau o Ynys Môn yn cael eu dargyfeirio i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru,...
Carolyn Thomas: Hoffwn ddechrau drwy fynegi fy nghefnogaeth i weithwyr yr undeb rheilffordd, morwrol a thrafnidiaeth sydd ar streic ledled y DU ar hyn o bryd. Mae staff y rheilffyrdd yn gweithio bob awr o'r dydd, saith diwrnod yr wythnos, i sicrhau bod y wlad yn dal i symud. Ymhell o fod yn moderneiddio ein rheilffyrdd, mae Llywodraeth y DU bellach yn dymuno gwneud diswyddiadau gorfodol, gyda thoriadau i...
Carolyn Thomas: Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn rhy hwyr i siarad ar yr eitem hon. Hoffwn gadarnhau rhywbeth—ein bod yn sôn am gyfleusterau cymunedol, sy'n wirioneddol bwysig. Oherwydd mae gennyf broblem braidd gyda'r Ceidwadwyr yn credu y gallai gwirfoddolwyr redeg gwasanaethau cyhoeddus a bod trosglwyddo cyfleusterau cymunedol i grwpiau gwirfoddol, yn hytrach na chael eu rhedeg gan arian...
Carolyn Thomas: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith mesuryddion talu ymlaen llaw ar denantiaid rhent?
Carolyn Thomas: Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw. Dros y 10 mlynedd nesaf, mae angen inni weld camau difrifol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac wrth gwrs, i symud at ynni adnewyddadwy. Ond rhaid inni fod yn siŵr ein bod yn nodi'r ffaith bod hydrogen gwyrdd yn wahanol iawn i hydrogen glas neu lwyd ac na ddylid eu trin yr un fath. Os caf ddyfynnu cyn-gadeirydd...
Carolyn Thomas: Diolch am yr esboniad hwnnw, Weinidog. Rwy'n deall bod yr hediadau wedi bod yn gostus ac yn cytuno â'ch rheswm dros beidio ag ailgychwyn y gwasanaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y miliynau o bunnoedd a gaiff eu harbed drwy ganslo'r hediadau hyn yn cael eu buddsoddi mewn cysylltedd yng ngogledd Cymru, yn ddigidol, drwy'r ganolfan prosesu signalau digidol ardderchog ym Mangor, a chyflwyno...
Carolyn Thomas: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? TQ637
Carolyn Thomas: Gwnaf.
Carolyn Thomas: Ydw wir, ydw wir. Rwy'n gwybod bod consensws ymysg darlledwyr yng Nghymru fod angen setliad cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus newydd i gynnal amlygrwydd a chynaliadwyedd. Wrth gwrs, mae amlygrwydd yn bwysig iawn, o ystyried goruchafiaeth y cyfryngau cymdeithasol a setiau teledu clyfar. Eisoes, mae'r ffynonellau gwybodaeth sy'n cael eu hyrwyddo fwyaf ar-lein yn dod o'r Daily Mail a The...
Carolyn Thomas: Mae cyfryngau annibynnol sy'n eiddo i'r cyhoedd yn hanfodol i'n democratiaeth ac i hygyrchedd gwybodaeth ddiduedd. Mae'r sector darlledu yn chwarae rhan hanfodol wrth hysbysu, diddanu a chreu dinasyddiaeth ddiwylliannol gyffredin yng Nghymru. Mae darlledwyr yn cyfrannu'n hanfodol at dwf ein heconomi, i ddatganoli ac i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cynnal a thyfu'r Iaith Gymraeg. Pan...
Carolyn Thomas: Iawn, diolch. Hoffwn orffen drwy ddiolch i'r holl staff sydd wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y pandemig ac sy'n parhau i wneud hynny yn awr. Diolch yn fawr iawn.