Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Michelle, ac, unwaith eto, diolch ichi am y croeso eang hwnnw. O ran y materion yn ymwneud â Chyllid a Thollau EM, rydym yn ymwybodol—mae pawb yn ymwybodol oherwydd buont yn bethau eithaf cyhoeddus—o rai o'r problemau gweithredu cynnar a fu, o ran y credydau treth, ond hefyd eu cynnig, eu cynnig cyfochrog, yn Lloegr. Fodd bynnag, maent yn goresgyn yr agweddau hynny, ac...
Huw Irranca-Davies: Llyr, diolch yn fawr iawn. A gaf i ateb y cwestiwn mwy sylfaenol y gwnaethoch chi ei ofyn chi'n gyntaf oll, er fy mod yn croesawu unwaith eto eich cefnogaeth eang, a'r cwestiwn a ofynnwyd gennych, 'ble nesaf ar y daith?' Dyna'r cwestiwn y dylem ni wastad fod yn ei ofyn fel pobl sy'n llunio polisïau a dylanwadu ar bolisïau. Ond, unwaith eto, nid wyf i eisiau mynd yn rhy bell neu addo gormod...
Huw Irranca-Davies: Darren, diolch yn fawr iawn. Mae sawl pwynt yn y fan yna, ond a gaf i ddechrau drwy groesawu'ch cefnogaeth eang ar gyfer hyn? Fel y dywedwch yn gwbl briodol, ymddangosodd fersiynau o ofal plant, cynigion addysg gynnar, yn y rhan fwyaf o'r maniffestos o ryw fath, gydag amrywiadau ar y thema, wedi eu cyflwyno yn wahanol. Ond mae'n dda ein bod bellach mewn sefyllfa ble, gyda chymorth y tŷ hwn...
Huw Irranca-Davies: Roedd y cynnig gofal plant yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru 'Gyda'n gilydd dros Gymru', ac rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi ei ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r elfen gofal plant wedi ei bwriadu ar gyfer rhieni sy'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, am y cyfle i wneud y datganiad yma ynghylch y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) a gafodd ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol ddoe. Bydd y Bil, er yn dechnegol ei natur, yn ei gwneud hi’n bosib i Lywodraeth Cymru sefydlu system genedlaethol i reoli ceisiadau ac i wneud y gwiriadau cymhwystra angenrheidiol ar gyfer y cynnig gofal plant yng Nghymru.
Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio. Mewn gwirionedd, rwy'n cytuno â byrdwn yr hyn roeddech yn ei ddweud, fod y bobl ifanc hynny'n mynd i fod yn sbardun yn ein cymunedau ac yn ein heconomi yn ogystal. Ond mae hyn yn rhoi cyfle i mi dynnu sylw at y ffaith, dair blynedd ar ôl graddio, nad 55 y cant yw'r gyfran o raddedigion o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru, ond 70 y cant. Byddem yn hoffi pe bai'n 80 neu...
Huw Irranca-Davies: Roedd y cyfraniad yn cynnwys llawer o feysydd sydd heb eu datganoli: mewnfudo, treth, yswiriant gwladol, cymorth tramor—pob un y fater i Lywodraeth y DU. Rwy'n credu ei fod, unwaith eto, wedi crybwyll siboleth newid yn yr hinsawdd. Hoffwn ddweud yn syml mai newid yn yr hinsawdd yw un o'r ffactorau mewn gwirionedd sy'n gyrru un o'r agweddau eraill ar y gwelliant, sef mudo ac ati. Mae'n...
Huw Irranca-Davies: Rydym wedi crybwyll allfudo, yn amlwg, ac mae'r effaith ar yr iaith Gymraeg yn allweddol, heb amheuaeth, ac mae'n fwy penodol i rai ardaloedd yn ogystal. Mae yna lifoedd gyda'r iaith Gymraeg. Mae'r iaith Gymraeg yn cynyddu mewn rhai ardaloedd. Mewn rhai ardaloedd mae'n dihoeni, gan gynnwys mewn mannau y byddem yn eu hystyried yn draddodiadol yn gadarnleoedd. Ac mae hynny'n...
Huw Irranca-Davies: Ie, ac mae angen inni wneud mwy. Fe ddof at rai o'r pethau a grybwyllwyd yn y ddadl, a beth rydym eisoes yn ei wneud hefyd.
Huw Irranca-Davies: Rwyf wedi pentyrru llawer i'r blynyddoedd hyn, gallaf ddweud wrthych. Ond roedd rhan ohono oherwydd argaeledd cyfleoedd economaidd yn fy nghymunedau fy hun. Roedd rhan ohono, rhaid i mi ddweud hefyd, oherwydd bod Cymru'n denu a bod arnaf awydd dod adref. Hoffwn ddweud rhywbeth cyn i mi droi at y cyfraniadau unigol, a bu llawer ohonynt yn y ddadl hon: mae'n ddiddorol ein bod weithiau'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac yn croesawu ei hysbryd a'r cyfraniadau amrywiol iawn i'r ddadl hefyd. Efallai ein bod yn anghytuno, ar ddiwedd hyn, o ran sut y byddwn yn dewis pleidleisio, ond credaf ei bod yn eithaf iach, o ran y ddadl, ein bod wedi cael ystod mor eang yn gyffredinol yma o awgrymiadau ynglŷn â sut—os caf fenthyg cyfraniad Jack...
Huw Irranca-Davies: Yn ffurfiol.
Huw Irranca-Davies: Ie wir, yn hollol. Oedi wrth drosglwyddo gofal sydd wrth wraidd hyn—rheoli'r broses drosglwyddo hon yn effeithiol. Ac wrth gwrs, mae'r gofal cywir y cyfeiriais ato yn gynharach yn cynnwys y gofal iechyd meddwl cywir hefyd, yn ogystal â thriniaeth, yn y lleoliad cywir hefyd. Y newyddion da yw nad yw hyn yn gyfystyr a gwasgu botwm a dileu achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal dros nos...
Huw Irranca-Davies: Gallaf, ac mae'n bwynt hollbwysig. Mewn rhai ffyrdd, mae'r gronfa gofal canolraddol a'r defnydd ohoni, nid yn unig i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau'n effeithiol, ond hefyd i hwyluso'r broses drosglwyddo honno i'r lleoliad gofal addas ar gyfer yr unigolyn, boed hynny yn eu cartref gyda'r gofal cofleidiol y mae arnynt ei angen i'w cynorthwyo i fyw'n annibynnol, neu mewn gwirionedd, mewn...
Huw Irranca-Davies: Gwnaf. Mae cydweithredu effeithiol rhwng ein GIG, awdurdodau lleol a'u partneriaid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo i'r lleoliadau sy'n diwallu eu hanghenion gofal yn y ffordd orau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar reoli'r broses bwysig honno ac awgryma tueddiadau diweddar fod hynny'n cael effaith gadarnhaol.
Huw Irranca-Davies: Bethan, diolch yn fawr am hynny, ac rydym yn cytuno'n llwyr â'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Mae angen iddo fod ar sail eithriadol. Ni fyddem eisiau gweld defnydd o lety diogel ond pan fyddo'n ddewis priodol a bod pethau eraill wedi cael eu diystyru. Byddem yn hoffi gweld y defnydd o lety diogel yng Nghymru pan fydd ar gael, ond, oherwydd ei natur, ac yn aml iawn natur byrhoedlog y llety...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn symud y cynnig.
Huw Irranca-Davies: Mae'r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn diwygio'r rheoliadau a wnaed yn 2015 ar lety diogel ar gyfer plant. Mae llety diogel yn ffurfio rhan fechan ond bwysig iawn o ddarpariaeth llety plant sy'n derbyn gofal. Defnyddir lleoliadau gan awdurdodau lleol dim ond pan fo plentyn yn debygol o ddianc o unrhyw fath arall o leoliad a bod perygl sylweddol iddo wneud niwed...
Huw Irranca-Davies: Ni fyddaf yn gallu rhoi sylw haeddiannol i bopeth. Y rhaglen Cefnogi Pobl, a luniwyd i helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ac unwaith eto, yr agwedd honno ar fynd i'r afael ag unigedd—. Ddirprwy Lywydd, rwy'n tybio y byddai'n well cyfeirio pobl at y gwaith rydym yn ei wneud. Mae ein hymateb i'r pwyllgor ar waith y pwyllgor wedi'i wneud. Rydym yn ystyried hyn gyda'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb. Diolch am y cyfle i ymateb i'r drafodaeth bwysig hon. Mae cryfder ac ansawdd y cyfraniadau y prynhawn yma wedi dangos ein bod yn gwneud y cam cywir wrth sicrhau bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth.