Mr Neil Hamilton: Gan droi oddi wrth faterion yr UE, mae'r Prif Weinidog wedi crybwyll yn gwbl gywir y rhagolygon ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru ar ôl i ni adael yr UE, a bydd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru’n eistedd ar hyn o bryd ar benderfyniad ynghylch cylchffordd Cymru. Roedd problem o ran hyn dros faint y warant y byddai ei hangen ar gyfer ariannu'r prosiect. Nawr rwy’n deall bod honno wedi...
Mr Neil Hamilton: Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol nad oes unrhyw gwestiwn y bydd dinasyddion yr UE sy'n byw neu’n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel testunau bargeinio mewn unrhyw ailnegodi, gan fod eu hawliau wedi eu diogelu’n llawn o dan gonfensiwn 1969 Vienna. A all y Prif Weinidog gadarnhau i mi fod hynny'n wir?
Mr Neil Hamilton: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0092(FM)
Mr Neil Hamilton: Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ac, yn wir, Simon Thomas, ynglŷn â’r Bil awtistiaeth, mae UKIP o blaid hynny, felly mae gennym gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol yn y Cynulliad hwn ar hynny o leiaf. Ni allaf ddweud yr un peth am bopeth arall yn y datganiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud y prynhawn yma. O ran datganoli trethi, yn bersonol dydw i ddim yn gwrthwynebu hynny; mae...
Mr Neil Hamilton: Na, na. Holl bwynt y ddeddfwriaeth gwrth-ddympio, y gallwch ei defnyddio o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, yw nad ydyw ond pan fo dur yn cael ei allforio i’ch gwlad yn is na'r gost ar y farchnad fyd-eang, nid yw hyn yn wir am ddur a gynhyrchir yn yr Undeb Ewropeaidd , ond mae'n wir o ran dur a gynhyrchir yn Tsieina, sef achos yr holl broblemau-—[Torri ar draws]. Wnes i ddim...
Mr Neil Hamilton: Mae pleidlais ddydd Iau diwethaf yn rhoi rhywbeth y byddwn wedi meddwl y byddai Plaid Cymru yn ei groesawu—fe'i gelwir yn annibyniaeth genedlaethol; maent yn ymddangos i fod braidd yn ofnus o hyn. Ond, erbyn hyn mae gennym y cyfle i wneud penderfyniadau drosom ein hunain. Gall cyllid yr UE y cyfeiriwyd ato gymaint o weithiau yn y Siambr hon heddiw bellach gael ei ddychwelyd i ni, boed...
Mr Neil Hamilton: A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi heddiw hefyd i gondemnio ein Canghellor, George Osborne, y mae’n ymddangos nad yw wedi sylweddoli bod y refferendwm wedi dod i ben ac sy’n dal i barhau â phrosiect ofn, ac sydd wedi cyhoeddi heddiw y bydd toriadau i wariant a chynnydd i drethi yn yr hydref gan fod yn rhaid i ni fyw yn unol â’n modd, a bod y rhain yn eiriau gwael o geg Canghellor...
Mr Neil Hamilton: Bydd y Prif Weinidog, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i Gymru nawr. Rwy’n sylweddoli ei fod wedi canolbwyntio ar y risgiau a'r ansicrwydd cyn ymgyrch y refferendwm, ond nawr bod gennym ni’r cyfleoedd gwych y mae rhyddid i weithredu yn eu rhoi i ni, mae’n rhaid i ni fanteisio arnynt a gwerthu Cymru yn y byd ehangach ar y sail honno. Mae hefyd yn cynnig i...
Mr Neil Hamilton: Brif Weinidog, nid wyf yn disgwyl i chi groesawu canlyniad y refferendwm ddydd Iau diwethaf gyda chymaint o frwdfrydedd ag y gwnes i, ond pleidleisiodd Cymru yn bendant dros adael yr UE, ac yn wir pleidleisiodd fwyafrif ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r Rhondda i adael yr UE, ond roedd sefydliad gwleidyddol Cymru—Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol—yn unffurf o blaid aros, ac...
Mr Neil Hamilton: Yn anffodus, munud yn unig sydd gennyf i ymateb, felly ni allaf—byddaf ar gael wedyn i barhau â’r drafodaeth. Ond rwy’n rhyfeddu at yr Aelodau eraill yn y tŷ hwn sydd â safbwynt gwahanol i fy un i ar yr Undeb Ewropeaidd. Eu gwangalondid a’u pesimistiaeth ynglŷn ag ysbryd a chymeriad y Cymry—eu bod, rywsut neu’i gilydd, yn analluog i wneud eu ffordd yn y byd. Am yr arbenigwyr...
Mr Neil Hamilton: Rwy’n ofni na allaf dderbyn ymyriad.
Mr Neil Hamilton: Unwaith eto, byddem y tu allan i holl reolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ein rhwystro rhag rhoi cymorth i ddiwydiannau megis y diwydiant dur ym Mhort Talbot. Byddem yn gallu rheoli ein trethi anuniongyrchol. Ni allodd y Llywodraeth Lafur dddiddymu’r TAW ar danwydd gwresogi domestig yn 1997, felly mae gennym bellach dâl o 5 y cant ar filiau gwresogi pawb, ac mae...
Mr Neil Hamilton: Ydym, rydym yn hoffi arbenigwyr. Mae’r dyfodol yn ei hanfod yn anrhagweladwy—fe wn i hynny—ond mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym na fydd yr Almaen eisiau rhyfel masnach gyda Phrydain pan fyddai’n eu brifo hwy’n llawer mwy nag y mae’n ein brifo ni [Torri ar draws.] Y Trysorlys—. Mae yna derfyn ar faint o weithiau y gallaf ildio. Roedd rhagolwg Armagedon y Trysorlys ychydig...
Mr Neil Hamilton: Rwy’n hollol ffyddiog na cheir unrhyw dariffau ar gydrannau ceir modur oherwydd—.[Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi roi’r ffeithiau i chi’n syml. Rydym yn mewnforio 820,000 o gerbydau y flwyddyn o’r Almaen ac mae gennym ddiffyg yn y fasnach ceir modur gyda’r Almaen sy’n £10 biliwn y flwyddyn i gyd. Nid wyf yn credu y bydd y Canghellor Merkel, wrth iddi wynebu etholiad yn yr...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n meddwl, i ddechrau, y byddai’n deg cydnabod na fyddai’r refferendwm hwn yn digwydd o gwbl oni bai am fy mhlaid, ac ni fyddai fy mhlaid yn bodoli oni bai am yr ymchwydd o deimlad yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bodoli ers peth amser. Pan ymunasom â’r Gymuned Ewropeaidd, fel roedd bryd hynny, yn 1973, byddai unrhyw un yn meddwl, o’r hyn...
Mr Neil Hamilton: Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod cymhorthdaliadau wedi bod yn elfen bwysig yn incwm ffermwyr drwy gydol fy oes, cyn i ni fynd i mewn i’r farchnad gyffredin, fel y’i gelwid bryd hynny, ac ers hynny wrth gwrs, ac os yw’r wlad yn pleidleisio dros adael yfory, yna byddai cymhorthdaliadau cyhoeddus yn parhau ar eu lefel bresennol fan lleiaf oherwydd ein bod yn talu £2 i...
Mr Neil Hamilton: Un o’r problemau mawr yma yw bod gan Openreach afael haearnaidd ar y seilwaith i bob pwrpas, ac mae’n debyg bod hyn i gyd yn mynd yn ôl i’r modd y cafodd British Telecom ei breifateiddio flynyddoedd lawer yn ôl. [Torri ar draws.]
Mr Neil Hamilton: Rwy’n credu y dylai’r anrhydeddus Aelod fod yn drugarog wrth dderbyn fy mea culpa. Ond wrth gwrs, 30 mlynedd yn ôl, ni allem ragweld y dyfodol gyda’r sicrwydd sydd gan Aelodau heddiw mewn perthynas â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, lle cafwyd camgymeriad flynyddoedd mawr yn ôl, efallai y dylem yn awr ailystyried yr opsiynau hynny, ac rwy’n meddwl tybed a fuasai...
Mr Neil Hamilton: Maddeuwch i mi am nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yr ymateb hwnnw braidd yn brin o fanylion. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw achosion hirdymor o addewidion wedi’u torri gan y cwmnïau dan sylw. Mae gennyf etholwr a ysgrifennodd ataf o Abergorlech, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a gafodd addewid o uwchraddiad i fand eang ffeibr yn 2015; ni ddigwyddodd hynny. Yna cafodd...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. The Cabinet Secretary will be aware that one of the big problems in rural areas and in my vast and scattered region of Mid and West Wales in particular is the vexed question of broadband download speeds. I have constituents who’ve written to me with typical rates of 1 Mbps, compared with 15 Mbps which is the UK average. I wonder if the Cabinet Secretary could...