Llyr Gruffydd: Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn dangos yn glir fod yr amcanestyniadau a ddefnyddiwyd yn sail i lawer o'r cynlluniau datblygu lleol hyn yn amlwg yn anghywir. Yn achos Wrecsam, roedd yr amcanestyniad poblogaeth yn ôl yn 2014 yn dangos cynnydd o oddeutu 1,200 o bobl yn y boblogaeth erbyn canol 2016. Bellach, wrth gwrs, gwelwn mai cynnydd o bedwar a gafwyd mewn gwirionedd—nid...
Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru? OAQ51551
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn â'r effaith y bydd torri cyllideb y rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, neu SchoolBeat, yn ei gael ar y gwaith pwysig y mae'r rhaglen honno yn ei ddelifro? Rydw i'n gwybod, yng ngogledd Cymru, ei fod yn cyflogi 16 o swyddogion sydd yn ymweld â phob ysgol ac sydd yn cyfleu negeseuon pwysig i'r plant, o'r ieuengaf yn...
Llyr Gruffydd: Roeddwn yn gwrando â diddordeb, gyda llaw, ar yr atebion a roddoch chi'n gynharach i Rhun ap Iorwerth, ond rŷm ni'n gwybod mai dim ond 3.5 y cant o feddygon dan hyfforddiant y Deyrnas Unedig sydd yng Nghymru, er bod gennym ni, wrth gwrs, 5 y cant o'r boblogaeth ac, mi fuaswn yn dadlau, fod ein hanghenion ni hefyd o safbwynt iechyd yn uwch na hynny. Rwyf jest ddim yn teimlo bod y Llywodraeth...
Llyr Gruffydd: Rydych yn dweud wrthym eich bod yn ei ystyried—mae arnaf ofn ei fod wedi cael ei ystyried ers amser hir bellach, a gwyddom fod adroddiad yr adolygiad ymarfer plant a gyhoeddwyd y llynedd mewn perthynas ag achos Dylan Seabridge wedi argymell yn gryf fod angen newid y ddeddfwriaeth er mwyn ei gwneud yn ofynnol i rieni gofrestru plant sy'n cael eu haddysg gartref gyda'r awdurdod lleol, a...
Llyr Gruffydd: Credaf ei bod yn ddiddorol eich bod yn dweud bod yr adborth gan addysgwyr wedi bod yn llai na chadarnhaol, gan fod gwerthusiad y Llywodraeth ei hun o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol ym mis Hydref y llynedd wedi nodi adborth cadarnhaol gan ysgolion mewn perthynas â Hwb+ ac wedi dod i'r casgliad, 'Byddai cefnu ar y prosiect yn siomi'n ddwys ac yn dieithrio'r athrawon sy'n...
Llyr Gruffydd: Ond nid ar chwarae bach y mae symud o un math penodol o ddarpariaeth i un arall, nage? Fe ddywedoch ym mis Mehefin, 'O'r cychwyn— ac rwy'n dyfynnu, —'rydym wedi bod yn glir bod cymhwysedd digidol yn un o bileri sylfaenol addysg fodern'. Ni fyddai neb yn amau hynny. 'Dyna pam y nodwyd cymhwysedd digidol fel y trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd'....
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae wedi cymryd pedair blynedd i gyflwyno platfform rhith-ddysgu Hwb+ a sicrhau bod dros 80 y cant o ysgolion yn defnyddio'r platfform. Mae pob ysgol wedi cael eu hyfforddi i'w ddefnyddio ar ôl cryn dipyn o amser, ymdrech ac arian. Felly, a allwch egluro i ni pam eich bod o'r farn mai rhoi'r gorau i'r prosiect hwnnw bellach yw'r defnydd gorau o...
Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am blant sydd yn cael eu haddysg gartref? OAQ51462
Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ51480
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol newydd yng Ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: Mae cynnwys cyflyrau meddygol yn y diffiniad o anghenion dysgu ychwanegol yn sicr yn ganlyniad cadarnhaol, ac mae templed Cymru gyfan ac amserlenni clir ar gyfer paratoi cynlluniau datblygu annibynnol, darpariaeth ar gyfer plant cyn oed ysgol a phobl ifanc mewn addysg bellach, a darparu eiriolaeth a chyngor annibynnol i gyd yn elfennau cadarnhaol. Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn y maes...
Llyr Gruffydd: A gaf i ategu'r diolchiadau sydd wedi cael eu talu i bawb sydd wedi chwarae eu rhan, o'r budd-ddeiliaid i gynrychiolwyr y Llywodraeth ac aelodau'r pwyllgor, a swyddogion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd, wrth i'r Bil yma fynd ar ei daith drwy'r Senedd? Nid oes yna amheuaeth fod yna gonsensws wedi bod o'r cychwyn am yr angen i ddiwygio y maes anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi...
Llyr Gruffydd: Ddydd Llun, 11 Rhagfyr byddwn ni'n cofio Llywelyn ap Gruffudd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf. Llywelyn oedd y cyntaf, wrth gwrs, i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru a thrwy gytundeb Trefaldwyn ym 1267 bu'n rhaid i Harri III dderbyn telerau a chydnabod tywysogaeth Llywelyn a hawl Cymru, i bob pwrpas, i fod yn wlad annibynnol. Fe gyflwynodd Llywelyn system drethu a gwasanaeth sifil i...
Llyr Gruffydd: Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i anghenion llywodraeth leol wrth osod cyllideb Llywodraeth Cymru?
Llyr Gruffydd: A gaf innau hefyd ategu'r diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd yn y broses yma dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf ar hyd yr un llinellau ag sydd eisoes wedi cael eu mynegi. Yn sicr, mae hi yn daith sy'n mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae'n debyg, efallai, y byddwn ni angen trafod ymhellach pan ddaw'r glo mân i'r amlwg ond, yn sicr, rydym ni'n...
Llyr Gruffydd: Gofynnodd yr holwr blaenorol yn benodol am amserlen yr ymgynghoriad technegol. Mae gennyf ddiddordeb yn eich cadarnhad, efallai, ei bod yn dal yn fwriad gennych y bydd y ddeddfwriaeth hon wedi cwblhau ei thaith drwy'r Cynulliad hwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn. Efallai y gallech nodi rhai cerrig milltir allweddol i ni ar y daith honno os oes modd, fel y gallwn gael yr amserlen fras honno...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y newyddion ddoe bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, AGGCC, wedi disgrifio 14 o gartrefi gofal yng Nghymru fel gwasanaethau sy'n peri pryder, sy'n golygu ei bod yn bosibl y bydd gwasanaeth yn cael ei atal dros dro neu, yn wir, gellid dileu'r cofrestriad? Rwyf yn arbennig...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, neu yn wir y Prif Weinidog, mewn ymateb i'r sylwadau a wnaed gan uwch Is-Lywydd Airbus UK Katherine Bennett i Aelodau Seneddol yr wythnos diwethaf y gallai Brexit ychwanegu costau sylweddol a biwrocratiaeth i'w weithrediad yn y DU? Mae hi wedi rhybuddio y gallai Brexit mewn gwirionedd bylu mantais gystadleuol y ffatri ym...
Llyr Gruffydd: A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad arall? A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg? Mi gawsom ni ddatganiad gan y cyn-Weinidog ddechrau Hydref—mae yna bron i ddau fis, wrth gwrs, ers hynny. Mi wnaeth e dderbyn pob un o'r argymhellion a wnaethpwyd yn yr adolygiad brys a gynhaliwyd gan Aled Roberts. Nawr, ers hynny nid...