Suzy Davies: Diolch i chi am hynna. Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn ei groesawu—chi, fi ac Aelodau Cynulliad eraill yn y Siambr hon. Yr hyn nad oes ei angen arnom, wrth gwrs, yw mater y drwydded forol yn atal unrhyw gynnydd. O gofio i mi godi’r oedi gyda'r drwydded forol gyda chi ym mis Medi 2015, pa mor aml y mae eich Llywodraeth wedi mynd ar drywydd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno’r...
Suzy Davies: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adolygiad Hendry? OAQ(5)0412(FM)
Suzy Davies: Diolch i chi, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n falch o gymryd rhan hefyd. Rwy’n credu ei bod yn mynd i fod yn ddadl eithaf meddylgar ynglŷn â sut rydym eisiau i’r Gymru drefol edrych, nid yn unig yn llythrennol, ond yn athronyddol yn ogystal, gan fod hyn yn ymwneud yn helaeth iawn â lle’r dinesydd wrth gynllunio ein hamgylchedd. Er fy mod yn awyddus i siarad yn...
Suzy Davies: Ddoe, soniodd Gofal a Thrwsio wrthyf am eu cynllun cartrefi cynnes ar bresgripsiwn, sy’n defnyddio gwybodaeth leol gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i helpu i nodi pa bobl sydd mewn perygl o ddirywiad yn eu hiechyd am nad yw eu cartrefi wedi’u gwresogi’n ddigonol, ac yna maent yn ymyrryd i helpu gyda gwresogi mwy effeithlon. Os yw’n gweithio, bydd yn lleihau nifer y bobl sydd...
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac nid wyf yn eich herio ar eich ateb ar y cynnydd yn y cap ar daliadau tuag at ofal cartref, ond rwy’n dal i gael trafferth i ganfod ar beth yn union y gwerir y £10 miliwn hwn. Yr hyn rwy’n ei gasglu o’ch ateb yw ei fod yn ymwneud yn bennaf â chadw staff, a gallai hynny’n bendant fod yn wir, ond dyna rwyf am allu ei weld yn digwydd o ganlyniad i’r...
Suzy Davies: Fy nealltwriaeth i, yn seiliedig ar atebion i gwestiynau blaenorol a ofynnais i chi, yw bod y cyflog byw wedi creu problem gyda dyranu’r gyllideb gychwynnol, a bod y £10 miliwn i fod i ryw fath o wneud iawn am hynny, yn rhannol o leiaf. Felly, nid yw’n uniongyrchol ar gyfer y codiad yn y cyflog byw mewn gwirionedd; mae yno ar gyfer llenwi’r bwlch y mae’r cyflog byw wedi’i adael, os...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Yn amlwg, rydym yn croesawu’r £10 miliwn ychwanegol yn y gyllideb nesaf a fwriedir ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ond nid yw hwnnw wedi ei neilltuo, felly pa sicrwydd a gawsoch gan awdurdodau lleol y bydd yn cael ei wario ar wasanaethau y mae sylwebyddion yn y sector yn dweud y buasent ar goll hebddo?
Suzy Davies: Mae hynny’n galonogol. Dylai safleoedd twristiaeth ffydd, megis Abaty Nedd, ac agweddau eraill ar dreftadaeth Ffordd y Sistersiaid, fod yn atyniad enfawr i ymwelwyr, o’r wlad hon ac o dramor, ac yn enwedig o’r Unol Daleithiau. Y llynedd, lansiwyd cynllun gweithredu twristiaeth ffydd i ddatblygu twristiaeth ffydd fel rhan o’r cynnig ehangach hwnnw i ymwelwyr. Sut rydych yn mesur ei...
Suzy Davies: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl twristiaeth ffydd? OAQ(5)0107(EI)
Suzy Davies: Diolch, Brif Weinidog, am y Papur Gwyn a’ch atebion i gwestiynau heddiw. Mae gen i un neu ddau o gwestiynau i chi fy hun a'r cyntaf yw eich sylw y bydd angen inni ddal i recriwtio o Ewrop yn y dyfodol ar gyfer swyddi mewn meysydd lle ceir prinder. Nid wyf yn anghytuno â chi o gwbl bod angen i bobl ddod i mewn i'r DU, i mewn i Gymru hefyd, i lenwi’r prinderau swyddi hynny— fe enwoch chi...
Suzy Davies: Yn fy nghyfarfod diweddar gyda chyngor Abertawe, awgrymodd y swyddogion y bydd eu ffocws yn ystod y cylch hwn o gynlluniau strategol ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs, ond nid yw’n ymateb i’r galw. Ces i’r argraff gan yr aelod cabinet ei bod hi’n gweld bod y galw llafar presennol am ddarpariaeth yn dod o sector penodol o gymdeithas Abertawe, ac...
Suzy Davies: Mae’n ddrwg gennyf ymyrryd, ond nid yw hynny’n wir yn Abertawe mewn gwirionedd—mae’n digwydd bob pythefnos. [Torri ar draws.] Ymddiheuriadau, rwy’n anghywir ynglŷn â hynny. Anwybyddwch fi.
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch. Ar y pwynt olaf, mewn gwirionedd, cafwyd cryn dipyn o sôn heddiw ynglŷn â beth yw rôl y Llywodraeth o ran barn a chynghori. O’r hyn a glywaf, rydych wedi dweud yn glir mai mater o farn yn unig yw unrhyw beth y gallai’r Prif Weinidog fod wedi’i ddweud yma, er enghraifft, ac nad yw’n cynghori. A oes adeg, neu a oedd yna adeg yn ystod eich trafodaethau wrth roi pecyn...
Suzy Davies: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn ffodus, mae diffibrilwyr awtomataidd brys yn dod yn fwy a mwy cyffredin yng Nghymru, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yr un mor siomedig â minnau i glywed bod dau o’r diffibrilwyr a ddarparwyd gan elusennau a rhai a fu’n codi arian yn lleol yn fy rhanbarth wedi cael eu fandaleiddio’n ddiweddar. Lluniwyd diffibrilwyr allanol awtomataidd i gael eu...
Suzy Davies: Er tryloywder—ac er nad yw’n fuddiant cofrestradwy—dylwn egluro fy mod yn aelod o’r Conservative Workers and Trade Unionists. Mae llawer o angerdd gwleidyddol wedi bod ynghlwm wrth hyn heddiw, ond rwy’n awyddus i wybod pam, Ysgrifennydd y Cabinet, o bob rhan o Ddeddf yr undebau llafur—gwn ein bod wedi trafod llawer ar y trothwyon heddiw—eich bod wedi dewis diwygio adran 172A ac...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Rydych wedi croesawu cryn dipyn sydd yn y Bil heddiw, ac rwy’n cofio, ar ddiwedd y tymor diwethaf, mewn ymateb i heriau a godwyd gan Lee Waters yn ein dadl ar y Ddeddf awtistiaeth, eich bod wedi ei ateb drwy ddweud, Peidiwch â gwneud y gorau yn elyn i’r da'. Meddwl oeddwn i—ni all datganoli aros yn llonydd; dyna’r rheswm pam mae gennym y Bil...
Suzy Davies: Fodd bynnag, rwy'n credu mai un o'r pethau y gallwch chi ddweud wrthym amdano, Weinidog, yw’r effaith mae hyn yn ei chael ar sefydliadau partner sydd wedi bod yn gweithio gyda NSA i gyflwyno ystod o raglenni ers cryn amser erbyn hyn. Nid hwn yw’r sgandal posibl cyntaf sydd wedi mynd trwy archwiliad a chael sêl bendith—rydym yn ymwybodol o Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru...