Russell George: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am allu staff Rhentu Craff Cymru i ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd? OAQ(5)0060(CC)
Russell George: 12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio Dyffryn Hafren? OAQ(5)0061(CC)
Russell George: Rhof gynnig arni beth bynnag. Rwy’n amau bod Sir Drefaldwyn, wrth gwrs, yn Rhif 1 hefyd. Hoffwn feddwl bod hynny'n wir. Ond hoffwn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet i groesawu'r cynnydd a adroddir o 25 y cant yn nifer yr ymwelwyr â Chymru, a chynnydd yn y gwariant cysylltiedig gan ymwelwyr hefyd, sydd erbyn hyn yn £3.5 biliwn. Rwy'n siŵr y gellir priodoli’r llwyddiant yn rhannol...
Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rwy’n meddwl ei bod yn wych bod Lonely Planet wedi cyhoeddi yn ddiweddar bod y gogledd yn un o'r pedwar lle gorau yn y byd i ymweld ag ef. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y rhan fwyaf o'r mannau gorau yn y gogledd yn Nyffryn Clwyd wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd.
Russell George: Brif Weinidog, byddai'n rhaid i Expo yng Nghymru adeiladu, wrth gwrs, ar lwyddiant ein cymuned fusnes. Rydym ni’n gwybod bod bwlch amlwg mewn sgiliau busnes pobl ifanc. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr ardoll brentisiaeth yn cael ei dosrannu i sefydliadau datganoledig. A wnewch chi ymrwymo i neilltuo cyllid, fel y bydd busnesau Cymru yn gallu elwa ar yr ardoll brentisiaeth?
Russell George: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod cwestiwn arall yno mae’n debyg ynglŷn â beth y mae ‘pencadlys’ yn ei olygu. A yw’n golygu symud staff ar raddfa eang i ran arall o Gymru, neu ai teitl yn unig ydyw? Felly, efallai y gallech ateb y pwynt hwnnw. Ond y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16, mae Cyllid Cymru yn cadarnhau...
Russell George: Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn clywed unrhyw anghytundeb oddi wrthyf fi. Credaf yn gryf y dylem fod yn symud allan o’r lle hwn i bob rhan o Gymru. Roedd Cyllid Cymru yn dweud wrth Bwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau y bore yma ei bod yn fwyfwy anodd cadw a recriwtio staff. Nawr, mae pryder y gallai’r sgiliau hynny gael eu colli o ganlyniad i adleoli arfaethedig i...
Russell George: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu’r manteision a’r costau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad i leoli pencadlys banc datblygu Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn amlinellu pa drafodaethau rydych wedi’u cael ar hyn gyda Cyllid Cymru.
Russell George: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch am y datganiad ysgrifenedig ddoe, sydd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol cyn y datganiad heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Hoffwn feddwl fod canlyniad y cyhoeddiad heddiw yn ganlyniad y cyfraniadau a wnaed yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf. Rwy’n gobeithio y caiff llawer o'r trigolion rhwystredig iawn hynny sydd...
Russell George: Brif Weinidog, cyfarfu ymgeiswyr Llafur yn etholiadau'r Cynulliad eleni gyda busnesau bach ledled Powys yn ystod yr ymgyrch etholiadol a dywedasant wrthynt, 'Pleidleisiwch Lafur i gael gostyngiad treth'. Rwy’n dyfynnu un ymgeisydd a ddywedodd: Mae ardrethi busnes yn tueddu i fod yn gyfran uwch o gyfanswm y costau gweithredu ar gyfer busnesau bach ac...mae llawer o fusnesau Powys o dan...
Russell George: Brif Weinidog, rwy’n sicr yn credu bod angen gwneud mwy i ddiogelu defnyddwyr rhag post na ofynnwyd amdano a galwadau niwsans. Yn ôl y Swyddfa Masnachu Teg, amcangyfrifir bod y mathau hyn o sgamiau yn costio tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r dioddefwyr. A gaf i ofyn, a yw’r Llywodraeth wedi ystyried cyflwyno ardoll ar anfonwyr post, yn debyg i'r tâl am fagiau siopa, gan ganiatáu i'r...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fe sylwais nad oedd unrhyw Aelodau o feinciau cefn Llafur wedi cyfrannu, ar wahân i David Rees yn neidio ar ei draed unwaith neu ddwy i ymyrryd, felly efallai fod hynny’n arwydd fod band eang yn dda ym mhob un o’r etholaethau hynny, a byddai hynny’n newyddion da. A dylwn ddweud yn...
Russell George: Diolch i chi, David, am eich trydydd ymyriad yn ein dadl heddiw—mae i’w groesawu. Dylwn ddweud, er mwyn bod yn garedig wrth y Gweinidog, fy mod yn cytuno’n llwyr â Janet Finch-Saunders: credaf fod y Gweinidog yn angerddol iawn ynglŷn â’i maes yma ac rwy’n croesawu hynny’n fawr. Mae hi wedi cytuno i ddod i wahanol etholaethau gydag Aelodau ac esbonio’r sefyllfa. Hyd yn oed os...
Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig yn enw Paul Davies a dangos cefnogaeth fy mhlaid i ddau welliant Plaid Cymru heddiw. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, ar y sail nad yw’n adlewyrchu nac yn cydnabod yn ddigonol y methiant i gyflwyno ymrwymiad rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011 i ddarparu band eang y genhedlaeth nesaf i bob eiddo erbyn 2015.
Russell George: Nid yw ei gwelliant ychwaith yn dangos unrhyw fath o frys i ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i fynd ati i ddatrys y diffyg signalau ffonau symudol mewn ardaloedd helaeth o Gymru. Y tu hwnt i fwriad llac i weithio gyda’r rheoleiddiwr a gweithredwyr rhwydwaith, a bwriad i ddiwygio’r system gynllunio, a bwriad i bwyso a mesur cynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth yr Alban,...
Russell George: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, rwy’n gwerthfawrogi eich ateb. Mae sioe awyr y Trallwng yn dathlu ei degfed pen-blwydd fis Mehefin nesaf. Sioe Awyr Goffa Bob Jones yw ei henw erbyn hyn. Dros y naw mlynedd diwethaf, mae'r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae’n denu miloedd o ymwelwyr i’r canolbarth bob blwyddyn. Yn y gorffennol, mae wedi croesawu’r Red Arrows, tîm...
Russell George: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddigwyddiadau mawr yng Nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0228(FM)
Russell George: Bob blwyddyn am y 10 mlynedd diwethaf, mae cyngor sir Powys neu gyngor sir Ceredigion wedi cael y cyllid gwaethaf, neu gydradd waethaf, gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi clywed eich atebion i gwestiynau yn gynharach heddiw, ond yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a ydych yn derbyn bod angen i chi ystyried y farn leiafrifol sydd i’w chlywed yn aml ymysg awdurdodau...
Russell George: Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n edmygu’r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw. Mae gen i nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r cyllid sydd ynghlwm wrth yr ymrwymiadau a wnaed heddiw, ac a ydych wedi ystyried cytundeb ariannu amlflwyddyn a fydd yn rhoi sicrwydd i...
Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Nid yw’r comisiwn seilwaith arfaethedig ar gyfer Cymru, byddwn yn dweud, yn ymddangos yn debyg iawn i'r cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Blaid Cymru—cynnig, wrth gwrs, a oedd yn ffurfio’r sail ar gyfer cefnogaeth Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru. Rydych hefyd wedi cynnig corff cynghori anstatudol nad yw'n ymddangos i fod...