Jane Hutt: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon a hoffwn fynegi fy niolch i Steffan Lewis am uniondeb y diben a'r egwyddor y mae wedi ei gyfrannu i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ei swyddogaeth, yn enwedig wrth ddatblygu, wrth gwrs, yn y dyddiau cynnar hynny ar ôl y refferendwm Brexit, y papur 'Sicrhau Dyfodol Cymru', sydd wedi sefyll prawf amser ers ei sefydlu. Ond rwy'n...
Jane Hutt: Fe hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a hefyd am eich camau gweithredu cyflym, Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, ar y cyd â Nicola Sturgeon, yn galw am gyfarfod o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion fel mater o frys. O ran y cytundeb ymadael, rwyf wedi fy siomi gan y diffyg parch a'r diffyg pwysigrwydd ymddangosiadol yn y datganiad gwleidyddol o ran y berthynas gyda'r UE yn y...
Jane Hutt: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n mynd i'r digwyddiad Rhuban Gwyn heddiw, wedi ei noddi gan Joyce Watson, a byddaf yn bresennol yn nigwyddiad Goleuo Canwyll y Black Association of Women Step Out yn eglwys gadeiriol Llandaf yr wythnos nesaf. Fel y mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol, mae BAWSO wedi arwain digwyddiad Goleuo Cannwyll aml-ffydd yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, gan ddod â mwy na 250 o...
Jane Hutt: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwrnod y rhuban gwyn mewn perthynas â dileu trais yn erbyn menywod? OAQ52947
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i siarad, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad i roi fy nghefnogaeth lawn i adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid; cymerais ran ynddo fel aelod. Rwyf am ganolbwyntio'n benodol ar fy nghefnogaeth i argymhellion 2 i 7: pwysigrwydd y gronfa ffyniant gyffredin; yr effaith ar gydraddoldeb o golli cyllid Ewropeaidd; a'r fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru yn y dyfodol mewn...
Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, a wnewch chi adrodd ar y camau a gymerwyd i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dilyn y Diwrnod Cyflog Cyfartal ddydd Sadwrn? Mae adroddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, sef 8.6 y cant. Mae'n dda gweld ei fod wedi gostwng, ond mae'n dal i ddangos bod...
Jane Hutt: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer adnoddau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Cymru?
Jane Hutt: Dywedodd Cadeiryddion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn eu llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn gynharach eleni fod gan Gymru hanes balch o amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol mewn ffyrdd arloesol sy'n arwain y byd, a nododd mai'r Cynulliad, wrth gwrs, oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau...
Jane Hutt: Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i fenywod yn y rhyfel byd cyntaf y disgrifiwyd eu rolau a'u bywydau gan fy etholwr a'r hanesydd Cymreig, yr Athro Deirdre Beddoe, ddydd Sul diwethaf ar BBC2. Fel y dywedodd yr Athro Beddoe wrthym, ar ddechrau'r rhyfel, câi menywod eu hannog gan Weinidogion, gan gynnwys David Lloyd George, i ddweud hwyl fawr wrth y dynion a garent ym mhob stryd a phob cymuned yn y...
Jane Hutt: Yn ddiweddar, noddais ddigwyddiad yn y Senedd gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru a Frack-Free Wales, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n gwrthwynebu ffracio'n gryf ac wedi gweithio'n galed i'w rwystro rhag digwydd ym Mro Morgannwg. Fe ddywedoch chi'n ddiweddar yn 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru—ac rydych wedi ailddatgan eich gwrthwynebiad amlwg i ffracio heddiw. Nodwyd gennych fod gan...
Jane Hutt: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio? OAQ52859
Jane Hutt: Rwy'n croesawu adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf inni o ran y sefyllfa ynglŷn â chydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn 2018. Rwyf eisiau canolbwyntio heddiw, ac felly eto yfory, yn y ddadl ar gydraddoldebau a Brexit, ar un o'r camau, a hwnnw yw'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru gan y comisiwn ac y mae dau bwyllgor y Cynulliad yn ei...
Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r Prif Weinidog ddoe yn nigwyddiad lansio Wythnos Cyflog Byw yn Bigmoose Coffee Company ac o groesawu'r cynnydd yn y gyfradd cyflog byw go iawn i £9 yr awr. Mae gennym ni eisoes nifer o gyflogwyr achrededig sy'n talu'r cyflog byw go iawn. Yn fy etholaeth i, Bro Morgannwg, maen nhw'n cynnwys Cyngor Tref y Barri, Gwasanaethau...
Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhan o'r fasnachfraint newydd yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rheilffordd bob hanner awr ym Mro Morgannwg. Rwyf wedi ymgyrchu am wasanaeth bob hanner awr ers blynyddoedd lawer, gan gredu bod datblygu cynllun trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn ffordd fwy cynaliadwy o sicrhau cysylltedd ar gyfer cymudwyr, trigolion y Fro, ymwelwyr â'r arfordir...
Jane Hutt: Arweinydd y Tŷ, mae Pwyllgor Materion Cartref Tŷ'r Cyffredin wedi galw am roi diwedd ar daliadau sengl o gredyd cynhwysol i aelwydydd yr wythnos hon, ac mae Cymorth i Ferched Cymru yn dweud: 'Mae'n hollbwysig bod y drefn o dalu taliad sengl rhagosodedig i ddeiliad tai yn dod i ben, er mwyn sicrhau bod menywod yn gallu defnyddio eu hadnoddau ariannol eu hunain, ac er mwyn sicrhau nad yw...
Jane Hutt: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn nadl yr Aelodau ar dlodi mislif ym mis Mai, clywsom fod rhai merched ysgol o deuluoedd incwm isel yn colli ysgol pan fyddant yn cael eu mislif oherwydd yr her o ymdopi oddi cartref heb eitemau mislif digonol. Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £700,000 o arian cyfalaf i wella cyfleusterau ac offer mewn ysgolion, ac roedd yn arbennig o galonogol...
Jane Hutt: 2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi lles disgyblion ysgol benywaidd? OAQ52781
Jane Hutt: Diolch i chi am y datganiad ar y fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol, sydd i raddau helaeth iawn, wrth gwrs, yn un o'm prif flaenoriaethau gwleidyddol ac mae gennyf brofiad mawr yn y maes. Rwy'n falch o gyfrannu at y datganiad hwn fel un o ymddiriedolwyr Vale People First, ar ôl gweld y gweddnewid ym mywydau pobl ag anableddau dysgu dros y 40 mlynedd diwethaf, ers i'r ymchwiliad i ysbyty...
Jane Hutt: Felly, mae gennym ni gyfleoedd a heriau, a gobeithiaf y byddwch yn gallu dadlau'r achos dros i ni i gyd fod yn rhan o hyn, oherwydd, fel y dywedasoch chi, mae consensws yn ymffurfio, a gall y Cynulliad hwn fod yn gefn ichi yn y trafodaethau hyn.
Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad ar fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit a diolch i chi am gydnabod gwaith y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad, 'Y paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru'—argymhellion allweddol, na fyddant, wrth gwrs, yn peri unrhyw syndod, gan arwain o ran blaenoriaethau negodiadau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r...