Andrew RT Davies: Os caf i enwi cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, rwy’n gwybod yn iawn bod y consensws hwnnw wedi bodoli mewn Cynulliadau blaenorol ynghyd â’r ewyllys gwleidyddol i ymgysylltu ar draws y rhaniad gwleidyddol pan oedd ef yn Brif Weinidog, o amgylch Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac o amgylch y newidiadau cyfansoddiadol a oedd yn digwydd yn y Cynulliad yn ei ddyddiau cynnar. Rwy’n tynnu...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng ngoleuni'r sylwadau gan y Prif Weinidog sy’n ymddangos o fod yn nodi eu bod wedi ailgyflwyno’r targed PISA ar gyfer 2021, ar ôl ei honiad yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddydd Iau diwethaf? Rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol bwysig bod pawb sydd â diddordeb mewn addysg yn gwybod pwy...
Andrew RT Davies: Ai dyna’r cwbl? Ai dyna’r ateb—eich ateb llawn? Mae gennych chi chi yn dweud un peth—bod targed yn bodoli—ac mae gennych chi’r Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau o flaen pwyllgor craffu y Cynulliad hwn nad dyna ei tharged hi. Pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb am addysg yma yng Nghymru? A yw'n unrhyw syndod ei fod yn gymaint o draed moch o dan eich arweinyddiaeth chi? Unwaith eto,...
Andrew RT Davies: Mae hynna'n gerydd, er tegwch, Prif Weinidog, i’ch Ysgrifennydd Cabinet. Naill ai mae gennych chi darged y mae'r adran a'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio’n unol ag ef, ac y mae'r system addysg yma yng Nghymru yn gweithio yn unol ag ef—ac rydym ni’n croesawu'r targed, gan ei fod yn rhoi cyfeiriad teithio—ond mae'n ffaith, ddwywaith nawr, bod targed wedi cael ei ddiarddel gan...
Andrew RT Davies: Rwy'n teimlo fel pe bawn i'n tarfu ar dipyn o ddadl deuluol yma, ac rydym ni’n gweld y glymblaid o anhrefn o flaen ein llygaid, credwch neu beidio. Pan—[Torri ar draws.] Gobeithio pan fyddwn ni’n cyrraedd eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma, y byddwch chi’n rhoi ychydig mwy o eglurder am y sefyllfa, Prif Weinidog, oherwydd os nad yw eich partneriaid yn ei deall, pa obaith sydd gan...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â thrafnidiaeth o ran dau fater, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Mae un yn ymwneud â chynnal a chadw’r A48 drwy Fro Morgannwg. Rwyf wedi codi’r mater hwn gyda chi sawl tro, ac erbyn hyn y mae tu hwnt i bob rheswm fod tyllau caead wedi cwympo a bod gennym dyllau ar y briffordd sy’n cynrychioli’r prif...
Andrew RT Davies: Unwaith eto, ar yr ail dro o ofyn, nid wyf wedi cael dyddiad o hyd pryd y bydd cleifion canser a phobl sy'n gysylltiedig â gwasanaethau canser yn gwybod pryd y bydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei fodloni. Mae'n ffaith bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud nad yw'n orfodol iddyn nhw gasglu'r data i nodi lle mae'r diffygion yn y system. Felly, gallwch chi ddarllen cymaint ag y mynnwch o’ch...
Andrew RT Davies: Gallwch redeg arnaf i, Prif Weinidog, ond byddai pobl wedi gwrando ac wedi clywed na wnaethoch chi roi ateb pam nad yw pobl yn cael gweithiwr allweddol. Felly, gallwch chi barhau i redeg arnaf i, ond mae pobl sy'n cael diagnosis o ganser yn haeddu'r holl gymorth y gallant ei gael, ac fel rhywun sydd wedi colli aelodau teulu, ynghyd ag Aelodau eraill yn y Siambr hon, croesawyd yr ymrwymiad...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, un o'r straeon a ddaeth i’r amlwg yn yr etholiad cyffredinol ac, oherwydd yr ymgyrchu, na chafodd y sylw yr oedd yn ei haeddu oedd diffyg gallu’r Llywodraeth hon i fodloni ei hymrwymiad o 2010 y byddai pob claf canser yng Nghymru yn cael gweithiwr allweddol. A allwch chi esbonio pam, saith mlynedd yn ddiweddarach, bod cymaint o gleifion canser nad...
Andrew RT Davies: Ni fyddwn yn anghytuno â llawer o’r hyn rydych wedi’i ddweud yn y fan honno, â bod yn onest gyda chi. Mae’n mynd yn ôl at y pwynt rwyf wedi bod yn ei wneud: rydym yn wynebu sefyllfa cyflenwad a galw. Dyna pam rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’i gyfle heddiw, pan soniais am y fframwaith datblygu cenedlaethol y credaf ei fod yn gwbl ganolog i’r ffordd y...
Andrew RT Davies: Fe gymeraf ymyriad mewn munud, Jenny. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei gyfraniad heddiw, yn siarad—oherwydd soniwyd am y cynlluniau gofodol a gyflwynwyd gan y Gweinidog ar y pryd, Andrew Davies, ond sydd bellach wedi symud i’r fframwaith datblygu cenedlaethol, rwy’n credu—ynglŷn â sut y mae hwnnw’n datblygu, i edrych ar gynllunio ar sail ranbarthol. Oherwydd...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu’r cyfle i gyfrannu yn y ddadl hon. Gallwn dreulio fy nghyfraniad cyfan yn ceisio tynnu gwahanol gyhuddiadau’r Aelod dros Ferthyr yn ddarnau. Rwy’n credu bod un cyhuddiad islaw ei hurddas â bod yn deg: y cyhuddiad yn erbyn y Ceidwadwyr mai polisïau Ceidwadol yw’r rheswm pam y bydd pobl yn gwerthu eu cyrff am do dros eu pennau. Rwy’n credu bod hwnnw’n rhywbeth y...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a oes modd cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet am adfywio, o ran cyllid y Lleoedd Llwyddiannus Iawn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno, ar gyfer adfywio ledled Cymru yn amlwg? Fel rwy’n ei deall hi, rwy’n credu bod yna ail gyfran o'r arian hwnnw yn cael ei rhoi ar gael, a byddwn yn falch iawn o gael gwybod a fyddai’r Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno i...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, roeddech chi’n eglur iawn neithiwr o’r safbwynt eich bod chi’n dweud eich bod chi’n diddymu fformiwla Barnett, a dyna’i diwedd hi. Nid oedd unrhyw amwysedd ynghylch hynny. Roeddech chi’n dweud hynny neithiwr ar y teledu a thrwy'r newyddion. Mae Plaid Lafur yr Alban yn dweud, yn eithaf eglur, na fydd fformiwla Barnett yn cael ei ddiddymu. Sut ar y ddaear all...
Andrew RT Davies: Efallai y gwnaiff y Blaid Lafur watwar, ond, yn y pen draw, mae ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ystyriaeth hanfodol i’r etholwyr ddydd Iau. Rydym ni wedi cyflwyno terfyn ariannu isaf, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, sy'n sicrhau na fydd cyllid yng Nghymru yn mynd o dan £115 ar gyfer pob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr. Dywedasoch chi, ddoe, mai polisi'r Blaid Lafur oedd cael...
Andrew RT Davies: Wel, fel y gwyddoch yn iawn, rhoddodd y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan y terfyn ariannu isaf ar waith, a gymeradwywyd yn wresog gan eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol dim ond ym mis Rhagfyr y llynedd. Tair blynedd ar ddeg—ni wnaethoch chi ddim. Ond nid dyna'n union y mae Ceidwadwyr yr Alban yn ei ddweud, a chynigiais y cyfle i chi egluro...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethoch am y trychinebau yn Llundain yn gynharach yn yr wythnos? Yn amlwg, rydym ni’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â dinasyddion Llundain a Manceinion, ac, yn y pen draw, trwy fwrw ymlaen â’n ffordd arferol o fyw, rydym ni’n trechu’r terfysgwyr hyn—y llabystaid hyn—sy'n achosi trychinebau mor...
Andrew RT Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn yr ymyriad ac yn arbennig, ei bwyslais ar Gymru gyfan—canolbarth a gogledd Cymru yn ogystal. Os caf dynnu ei sylw’n ôl at dde-ddwyrain Cymru, mae’n newyddion gwych fod y Ceidwadwyr—ac yn wir, rwy’n meddwl bod consensws bellach, yn wleidyddol, ar draws y pleidiau fod angen dileu tollau ar bont Hafren. Ond mae yna broblem go iawn, fel y...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, croeso’n ôl i’r Siambr. Mae’r pwynt ynglŷn â 2,000 o bobl yn marw cyn pryd yng Nghymru oherwydd ansawdd aer gwael—mae hynny’n bump o bobl bob dydd—yn sicr yn un o’r heriau, un o’r problemau mwyaf sy’n ein hwynebu o ran iechyd y cyhoedd. Rwyf wedi gwrando ar nifer o’ch atebion a chroesawaf y camau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd ar draws y...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Os caf i, Llywydd, ni chymeraf fy nhri chwestiwn heddiw, o ystyried fy mod i’n credu bod angen i ni sefyll ysgwydd yn ysgwydd a gwrthwynebu’r weithred hon o anfadwaith y gyflafan hon a ddigwyddodd ym Manceinion neithiwr. Fel tad, ni allaf feddwl am unrhyw beth mwy arswydus na chael eich gwahanu oddi wrth eich plant, cael eich gwahanu oddi wrth eich anwyliaid, yn y...