Mr Neil Hamilton: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa mor bwysig yw cymorthdaliadau cyhoeddus i ffermwyr Cymru? OAQ(5)0009(ERA)
Mr Neil Hamilton: Wel, rwy'n meddwl bod pen y Prif Weinidog yn y cymylau yn hynny o beth, ac mae nifer fawr o gyn-bleidleiswyr Llafur o'r un farn. Ond nid yw’n ymwneud yn unig â mewnfudo yn rhoi pwysau ar safonau byw pobl gyffredin. Ceir llawer o ffyrdd eraill y mae'r UE yn gwneud hyn hefyd—cost y polisi amaethyddol cyffredin, er enghraifft, sydd yn ôl pob tebyg yn ychwanegu hyd at £500 y flwyddyn at...
Mr Neil Hamilton: Ymddengys bod y Prif Weinidog yn gwadu bod ychwanegu dinas o faint Caerdydd at ein poblogaeth genedlaethol bob blwyddyn yn cael unrhyw effaith ar gyflogau. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod Banc Lloegr yn anghytuno â hynny. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Banc Lloegr fod cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau ar...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae canlyniad neithiwr yn dangos y gall gwledydd bach gystadlu yn erbyn rhai llawer mwy yn y byd a llwyddo, os byddant yn mynd i’r afael â thasg yn yr ysbryd cywir. Rwy'n siŵr y bydd Ken Skates o fantais i Gymru pryd bynnag y bydd yn chwarae o gwmpas y byd, os gall ef gyflawni canlyniadau tebyg i neithiwr. Ond, gan ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnwyd gan...
Mr Neil Hamilton: Hoffwn gysylltu fy hun a'm plaid â phopeth a ddywedwyd yma heddiw. Fel Andrew Davies, nid oeddwn yn adnabod Jo Cox; roedd hi'n amlwg yn berson rhyfeddol iawn ar drothwy yr hyn rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn yrfa wleidyddol lwyddiannus iawn. Ni fyddai effaith ei marwolaeth drasig wedi arwain at y cyhoeddusrwydd enfawr yr ydym wedi ei weld, oni bai am natur ei phersonoliaeth, ac er nad...
Mr Neil Hamilton: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyflymder band eang yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Mr Neil Hamilton: Wel, mae hyn ond dangos i ba raddau y mae Llafur yn byw yn y gorffennol—onid yw—ein bod yn dadlau heddiw am yr hyn ddigwyddodd oddeutu 30 o flynyddoedd yn ôl yn hytrach na beth sy’n digwydd yn y byd heddiw. Ond yr hyn rwy’n ei nodi yw nad yw’r Llywodraeth Lafur dros y 30 mlynedd ddiwethaf, rwy’n meddwl, wedi gwneud unrhyw beth i ddiddymu unrhyw rai o’r mesurau a gyflwynwyd gan...
Mr Neil Hamilton: Nid yw’n ymddangos bod Aelodau Llafur wedi clywed y newyddion nad yw prosiect ofn yn gweithio. Edrychwch ar y polau piniwn. Nid yw’r cyhoedd yn eich credu mwyach. Wrth gwrs, y gwir amdani yw mai ein harian ni yw pob ceiniog a werir gan yr Undeb Ewropeaidd ar bob un o’r prosiectau mawr y clywsom eu rhestru y prynhawn yma. Ac ar ben hynny, rydym yn anfon £10 biliwn y flwyddyn i’r UE ac...
Mr Neil Hamilton: Wel, ni fyddai gadael yr UE yn peryglu swyddi dur o gwbl wrth gwrs. Byddai gennym y rhyddid i wneud yr hyn y mae’r Unol Daleithiau wedi’i wneud a gosod toll o 522 y cant ar ddur wedi’i rolio’n oer yn hytrach na’r doll o 24 y cant y mae’r UE wedi’i hargymell. Ond tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro wrthyf pam y byddai’r UE yn awyddus i osod unrhyw rwystrau masnach yn...
Mr Neil Hamilton: Wel, rwy’n meddwl y bydd yn syndod i bobl Gwlad Groeg, Sbaen, yr Eidal, Portiwgal a Ffrainc fod Ewrop yn cynnig gobaith, ac rwy’n sicr yn gwrthwynebu barn or-ffyddiog Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, ni all fod unrhyw sicrwydd ynglŷn â’r dyfodol; nid oes sicrwydd y bydd unrhyw un ohonom yn fyw yr adeg hon yr wythnos nesaf. Serch hynny, mae’n rhesymol tybio y bydd Cymru’n cael...
Mr Neil Hamilton: Diolch i chi, Lywydd. Rwyf eisoes wedi cael y cyfle i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad, ond ni allwch gael gormod o beth da, felly fe’i llongyfarchaf eto heddiw a mynegi gobaith, dan ei arweiniad, y bydd economi Cymru wir yn gwisgo’i ‘skates’—bwm, bwm. [Chwerthin.] Yn ôl y polau piniwn, mae’n edrych yn debyg iawn y bydd Prydain yn pleidleisio dros adael yr UE yr...
Mr Neil Hamilton: Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am bwynt o arfer ynghylch cyhoeddi datganiadau i wrthbleidiau cyn iddynt gael eu darllen yn y Siambr hon. Gwerthfawrogaf y cwrteisi yn hyn o beth, ac mae'n bwysig, yn fy marn i, y dylai trafodaeth a chraffu fod yn ddeallus, er mwyn i’r trafod a’r craffu hwnnw fod ar ei orau. Heddiw, derbyniais gopïau o'r datganiadau hyn am 13:20, felly ni roddodd hynny...
Mr Neil Hamilton: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond a yw'n ymwybodol o'r problemau y mae tafarn yr Union yn Nhremadog yn eu hwynebu yn y gogledd yn fy rhanbarth i lle, ar ôl bod ar gau am sawl mis o ganlyniad i lifogydd, yn ystod penwythnos gŵyl y banc , penderfynodd y dafarnwraig, oherwydd ei bod yn heulog, y byddai’n rhoi byrddau a chadeiriau allan ar gyfer yfwyr i yfed y tu allan, ac roedd...
Mr Neil Hamilton: Mae problem fawr arall y mae angen mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, sef twf TB buchol. Yn wir, yn fy rhanbarth i, yn Sir Gaerfyrddin, mae achosion o wartheg a laddwyd o ganlyniad i TB buchol wedi cynyddu gan 87 y cant eleni ac yn Sir Benfro maent wedi cynyddu gan 78 y cant. Gan nad oes brechlyn ar gael, nid yw'r dewis a ffefrir ar gael i ni. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud mewn...
Mr Neil Hamilton: Rwy’n cytuno’n llwyr â'r hyn y mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud, ond mae'n gwbl anhygoel na all dwy asiantaeth y Llywodraeth ddod o hyd i fodd o siarad â'i gilydd yn electronig er bod hyn yn digwydd yn eithaf naturiol yn y sector preifat ac, yn wir, yn ein bywydau preifat. Felly, tybed beth y gall ef ei wneud i geisio integreiddio'r trefniadau gweinyddol rhwng Cymru a Lloegr yn hyn o...
Mr Neil Hamilton: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. The First Minister will know that Welsh farming is in crisis at the minute. Farm incomes across the board are down by 25 per cent and, in some sectors, like dairy, they’re down by as much as half. Of course, this is caused, to a great extent, by a collapse in commodity prices, but there are administrative reasons also behind it, in particular the chaos in the...
Mr Neil Hamilton: Felly, rwy’n mynd i ofyn i'r Prif Weinidog: pa gynnydd pellach sydd wedi ei wneud, yn enwedig o ran yr asiantaeth taliadau yn Lloegr, i ddatrys y problemau hyn?
Mr Neil Hamilton: 7. A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi canllawiau i gynghorau lleol i weithredu’n gyfrannol wrth arfer eu pwerau rheoleiddio? OAQ(5)0056(FM)
Mr Neil Hamilton: Cymeradwyaf y Prif Weinidog ar ei ddatganiad. Yn benodol rwy’n ategu’n frwd ei sylwadau am Roger Maggs, cadeirydd Excalibur a ffrind ysgol i mi flynyddoedd lawer yn ôl yn Nyffryn Aman. Ac rwy’n cymeradwyo popeth a ddywedodd Adam Price—cynnyrch nodedig arall o fy hen ysgol—yn ei ymateb i’ch datganiad hefyd am y gronfa bensiwn yn Tata. Fe sonioch, funud yn ôl, y gellid ymdrin â...
Mr Neil Hamilton: Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac fel chithau, rwy’n rhoi croeso gofalus i’r Bil, am fod fy mhlaid yn blaid sy’n credu mewn datganoli. Ymwneud â hynny y mae ein cyfraniad i’r ddadl ar yr UE: datganoli pwerau yn ôl o Frwsel i San Steffan neu i Gaerdydd. Ond yng nghyd-destun y Bil penodol hwn, fel y byddwch yn gwybod, mae cymal 16 yn ymwneud â chyflwyno pwerau i...