Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau. Byddaf yn dweud ar y dechrau mai dyma'r cyfle cyntaf i mi ei gael fel Ysgrifennydd y Cabinet i sôn am fy null i o weithredu a dull gweithredu'r Llywodraeth o ran y maes hwn ers i'r datganiadau a'r ymrwymiadau hynny gael eu gwneud. Felly, byddaf, gyda'ch amynedd chi, Dirprwy Lywydd, yn ceisio sôn am y dull yr hoffwn ei gymryd i...
Alun Davies: Er bod yr egwyddor o bartneriaeth yn y Ddeddf wreiddiol yn parhau, mae'r amgylchiadau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol yng Nghymru heddiw yn amlwg yn wahanol iawn i'r rhai a gafwyd pan sefydlwyd y partneriaethau diogelwch cymunedol yn y 1990au. Mae heriau heddiw yn cynnwys amrywiaeth o fathau newydd o droseddau, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a throseddau casineb, y...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi ugain mlynedd ers Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 sy'n rhoi partneriaeth statudol ar waith wrth wraidd yr ymdrechion i fynd i'r afael â materion diogelwch cymunedol.
Alun Davies: Deallaf y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, a gwnaeth y pwynt hwnnw i mi yn ein cyfarfodydd preifat. Rwy'n ddiolchgar iddo am ei ailadrodd y prynhawn yma. Yn amlwg, nid yw'r mesurau a roddwyd ar waith a'r dadleuon a'r trafodaethau sydd wedi digwydd yn rhagdybio y bydd y cais cynllunio yn llwyddiannus, nac ychwaith yn rhagdybio y caiff y tir ei werthu. Nid oes unrhyw gamau a gymerwyd gan...
Alun Davies: Wrth gwrs.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi yn gwrando'n ofalus ar y ddadl a gynhaliwyd y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am yr amser y maent wedi'i roi i gymryd rhan yn y ddadl, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Pwyllgor Deisebau a'r deisebwyr, sydd wedi rhoi amser i ddwyn y mater hwn i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r cynnig ger ein bron heddiw yn gofyn i ni...
Alun Davies: Lywydd, rwy'n credu bod Aelodau ar draws y Siambr gyfan wedi talu teyrnged i waith Carl Sergeant yn ystod ein dadl yr wythnos ddiwethaf, ac roeddwn yn sicr yn falch iawn o ychwanegu fy llais at y teyrngedau hynny. Carl, mewn llawer o ffyrdd, a arweiniodd waith y Llywodraeth gyfan yn y maes hwn, ac mae'r ffaith bod Cymru'n cael ei chydnabod fel y wlad sydd ar y blaen yn y Deyrnas Unedig...
Alun Davies: Lywydd, rwyf wedi addo y byddaf yn trafod y mater hwn gyda'r grŵp trawsbleidiol, a byddaf yn sicr yn gwneud datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl i mi gael cyfle i gael y trafodaethau hynny gyda'r grŵp.
Alun Davies: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da a phwysig iawn. Mae'n bwynt a wnaed hefyd gan yr Aelod dros Gwm Cynon. Rwy'n derbyn y pwynt y mae'n ei wneud. Mae ymchwil cyfredol yn cyfeirio at driniaeth yn y gymuned, yn agos at gartref a chymuned yr unigolyn, fel y driniaeth fwyaf effeithiol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gynharach y mis...
Alun Davies: Mae cyflawni'r cyfamod yn rhywbeth rwyf wedi'i drafod yr wythnos diwethaf, ac rwy'n hapus i ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yr wythnos diwethaf. Nid yw'r cyfamod yn cael ei gyflawni'n syml drwy araith neu ddangos ewyllys da neu drwy ddadl. Caiff ei gyflawni gan weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a'r gymuned gyfan ddydd ar ôl dydd. Rydym yn sicrhau ein bod yn monitro cyflawniad ein...
Alun Davies: Lywydd, mewn ymateb i'r ddadl yr wythnos ddiwethaf, rhoddais addewid y buaswn yn ystyried pob un o argymhellion y grŵp trawsbleidiol gyda meddwl agored. Rwy'n ailadrodd yr ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma. Rwyf wedi cytuno hefyd i fynychu cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, ac rwy'n ailadrodd fy ymrwymiad i wneud hynny, ac i barhau â'r sgwrs a ddechreuasom yr wythnos diwethaf...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ei sylwadau caredig, ac rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom yn ymuno â chi i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar eu gwobr. Gwn ei bod yn wobr uchel ei bri, sy'n cydnabod y cymorth rhagorol y mae'r cyngor wedi'i roi i gymuned ein lluoedd arfog. Rwy'n siŵr fod pawb yn falch iawn o'r gwaith y mae Rhondda Cynon Taf yn ei wneud, ac rwy'n siŵr y...
Alun Davies: Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 6 a 7 gael eu grwpio. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy'n diwallu anghenion teuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog mewn meysydd megis iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw'r llwybr tai, GIG Cymru i Gyn-filwyr a datblygiad llwybr cyflogaeth ar gyfer personél sy'n gadael y lluoedd...
Alun Davies: Rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Aelod. Rwyf am ddweud fy mod yn gweld cyfleoedd digidol fel ffordd o ymestyn, dyfnhau ac ehangu'r cyfleoedd sydd gennym i wasanaethu'r cyhoedd ac i alluogi'r cyhoedd i gael mynediad at wasanaethau'n haws nag sy'n bosibl ar hyn o bryd. Buaswn yn annog yr holl ddarparwyr gwasanaethau i edrych ar sut y gallant ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gadarnhaol a...
Alun Davies: A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn hapus iawn i wneud hynny? Rwy'n hapus iawn i edrych ar sut y gall ein gwasanaethau cyhoeddus gyflawni trwy gyfrwng technoleg ddigidol a sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Buaswn yn hapus iawn i barhau â'r sgwrs gyda'r Aelod os oes ganddo syniadau ynglŷn â sut y gellid cyflawni hynny. Gwn ei fod wedi cyfweld yr Ysgrifennydd Parhaol ar...
Alun Davies: Mae yna gyfleoedd sylweddol i dechnoleg ddigidol gefnogi'r broses o drawsnewid gwasanaethau yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dylid rhoi ystyriaeth i gynnwys atebion digidol neu awtomataidd wrth ddatblygu polisïau neu wasanaethau newydd.
Alun Davies: Wel, gadewch i mi ddweud mai fi sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun yn ei gyfanrwydd, a gallwch graffu ar fy ngwaith ar hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gyflym iawn i ddweud wrthyf beth y maent yn ei ddisgwyl gennyf hefyd. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud yn gymaint â fi'n dweud beth roeddwn ei eisiau ganddynt hwy; roeddent yn sicr...
Alun Davies: Roedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn yr ardal honno, rwy'n credu, yn gyfarfod bywiog lle y mynegwyd llawer o'r safbwyntiau hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus ledled rhanbarth y Cymoedd, i sicrhau ein bod yn gallu gwrando a bwrw ymlaen ar sail yr hyn rydym yn ei glywed. Un o'r pethau rydym wedi'i ganfod yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf o ymgysylltu...
Alun Davies: Rwy'n synnu braidd at y cwestiwn gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru. Mae wedi bod yn Aelod hirdymor yn y lle hwn, a gŵyr mai gwaith craffu yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Rwy'n synnu nad yw'n cydnabod hynny. Gall graffu arnaf yn ystod y cwestiynau ac mewn pwyllgorau, pan fo'n dewis gwneud hynny. Rwy'n mynychu pob pwyllgor pan gaf wahoddiad i wneud hynny. Rwyf am...
Alun Davies: Rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonom yn ddigon hael i weld a gwerthfawrogi'r hyn y mae eraill yn ceisio ei gyflawni, ac rwy'n credu bod chwilio am benawdau tabloid yn tanseilio'r uchelgais hwnnw yn ôl pob tebyg. Rwy'n gobeithio y bydd Darren Millar yn myfyrio ar ei gyfraniad i'r cwestiwn hwn, ac y bydd yn myfyrio hefyd ar yr uchelgais a rennir gan bawb ohonom, sef cael yr arweinyddiaeth...