Jane Hutt: O ran llosgydd y Barri, a yw'r Gweinidog wedi penderfynu ar ba un a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio diweddaraf ar gyfer tŵr dŵr a maes parcio? Ac a yw'r Gweinidog yn ymwybodol bod y Barry Docks Incinerator Action Group o'r farn bod y prosiect cyfan angen asesiad o'r effaith amgylcheddol i gyd-fynd â'r cais cynllunio yn 2015?
Jane Hutt: Wrth gwrs, Prif Weinidog, mae'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl, gan fod o fudd i enillwyr cyflog, eu haelwydydd, cymunedau ac economïau lleol. A gwn, cyn Wythnos Cyflog Byw, eich bod chi wedi cefnogi digwyddiadau yn ystod dechrau mis Tachwedd yn frwd erioed. Pa gamau eraill y gellir eu cymryd i hyrwyddo'r cyflog byw gwirioneddol ar draws, yn benodol, y...
Jane Hutt: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl cyflog byw go iawn? OAQ52774
Jane Hutt: Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at lythyr a gefais gan glerc tref Cyngor Tref y Barri. Mewn cyfarfod eithriadol ar 4 Hydref, penderfynodd y cyngor alw ar Lywodraeth Cymru—a dyfynnaf—i gyhoeddi tystiolaeth fanylach mewn ymateb i bryderon ynglŷn â risgiau i iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys caniatáu i brofion pellach gael eu cynnal er mwyn darparu mwy o dryloywder; yn ail, i...
Jane Hutt: Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar Fil arfaethedig Comisiwn, Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) at ei gilydd. Fodd bynnag, rwy'n siomedig nad ydym yn bwrw ymlaen â rhai o'r argymhellion yr ymgynghorodd y Comisiwn yn eu cylch. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod at y Llywydd yn annog y Comisiwn i symud ymlaen gyda'r cynigion yn adroddiad Laura McAllister, yn hyrwyddo...
Jane Hutt: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rhaglen hyfforddi ac atgyfeirio ar gyfer meddygon teulu mewn perthynas â cham-drin domestig a thrais rhywiol yw IRIS, sy'n nodi camdriniaeth ac yn atgyfeirio at well diogelwch, ac yn fy rôl fel noddwr Bawso, rwy'n falch eu bod yn cyflawni'r model IRIS, sydd wedi trawsnewid y gallu i nodi camdriniaeth ac atgyfeirio dioddefwyr cam-drin domestig mewn gofal...
Jane Hutt: 7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig? OAQ52718
Jane Hutt: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer undebau credyd?
Jane Hutt: Hoffwn groesawu cyllideb ddrafft Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, sydd wedi'i chynllunio i gynnal ffabrig bywyd Cymru, ac rwy'n croesawu ymrwymiad clir Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a chwmpasu'r pwerau a'r cyfrifoldebau newydd am drethi. Ym Mhwyllgor Cyllid y Cynulliad yr wythnos diwethaf, cawsom sesiwn friffio gan Drysorlys Cymru a Chyllid a Thollau EM am y...
Jane Hutt: Rwy'n croesawu'r adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwy'n cefnogi'r holl argymhellion, sy'n cyd-fynd â fy ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau chwarae teg yn y gweithlu yng Nghymru. Yn wir, mae'n mynd â mi yn ôl i fy amser fel cydgysylltydd cyntaf Chwarae Teg ar ddechrau'r 1990au, ac mae llawer o'r materion a oedd gyda ni bryd hynny yn dal i fod gyda ni...
Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n ymwybodol o adroddiad y pwyllgor dethol ar waith a phensiynau ar effaith y credyd cynhwysol ar ddioddefwyr cam-drin domestig? O gofio bod y pwyllgor wedi cydnabod bod menywod yn wynebu mwy o risg o dan y credyd cynhwysol, a gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ystyried camau y gallwn ni eu cyflawni ar argymhellion adroddiad y pwyllgor dethol, i ddiogelu...
Jane Hutt: Prif Weinidog, o gofio bod maint y stoc tai cymdeithasol wedi gostwng yn sylweddol ers 1980 pan gyflwynwyd yr hawl i brynu, gan arwain at amseroedd aros hwy i bobl sydd angen tai, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r terfyn i hawl i brynu gan Lywodraeth Lafur Cymru trwy Ddeddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018? A wnewch chi hefyd groesawu buddsoddiad Llywodraeth...
Jane Hutt: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi gofyn dau gwestiwn ddoe ynglŷn â'r datganiad busnes, ac rwy'n deall y cyfyngiadau a wynebwch o ran ymateb i'r rhain o ganlyniad i'r sefyllfa gyfreithiol rydych ynddi ar hyn o bryd. Ond fe ofynnais gwestiwn ynglŷn â'r datganiad busnes yn ymwneud â diffyg asesiad o'r effaith amgylcheddol o ran y pryderon ynghylch mwd...
Jane Hutt: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae ysgolion gwledig yn cael eu gwarchod o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig?
Jane Hutt: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Yn gyntaf, mae'n werth nodi bod ein gwaith craffu ar y Bil wedi'i gyfyngu i'r wybodaeth ariannol a ddarparwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n nodi costau gweinyddu'r cynllun, ac nid y gost o ddarparu'r cynnig gofal plant ei...
Jane Hutt: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd Cyllid. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi mynegi yn gyson fy mhryderon ynghylch effaith Brexit ar hawliau gweithwyr a chydraddoldeb o ran cyfraith yr UE, ac wedi cefnogi swyddogaeth gadarnhaol cronfeydd strwythurol i ehangu cyfle cyfartal yn y farchnad lafur, a welir, er enghraifft, yn eich cyhoeddiad diweddar o £17 miliwn i bobl ifanc yn ne-ddwyrain...
Jane Hutt: Mae gennyf ddau gwestiwn i arweinydd y tŷ. Byddai'n ddefnyddiol cael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar fwd Hinkley Point a dympio oddi ar Fae Caerdydd, a ddechreuodd yr wythnos diwethaf. Mae fy etholwyr wedi codi pryderon ynghylch y diffyg asesiad o effaith amgylcheddol a samplu annigonol o haenau dyfnach o fwd. Fy ail gwestiwn yw a gaf i ofyn am...
Jane Hutt: Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur, Frances O'Grady, a ddywedodd yr wythnos diwethaf bod hawliau gweithwyr a mesurau diogelu cyflogaeth mewn perygl o dan Brexit a'r posibilrwydd brawychus o 'ddim cytundeb'? A ydych chi'n cytuno y byddai 'dim cytundeb' yn drychinebus i weithwyr yng Nghymru?
Jane Hutt: A gaf fi hefyd ddiolch i'r arweinydd am yr ateb i'r cwestiwn hwn, oherwydd rwy'n ymddiriedolwr i Vale People First, sefydliad hunan-eirioli ar gyfer ac sy'n cael ei arwain gan bobl gydag anabledd dysgu ym Mro Morgannwg? Roeddwn yn falch iawn o fynychu digwyddiad yn y Barri gydag Andrew R.T. Davies i arddangos cyflawniad eu prosiect, a ariennir gan y Loteri Fawr, I am Not Invisible. A wnaiff...
Jane Hutt: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y trefniadau ariannol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran Brexit?