Jeremy Miles: Edrychwch, mae swyddogaeth ddifrifol y gallai'r Ceidwadwyr Cymreig ddewis ei harddel yn y drafodaeth hon petaent yn dymuno. Mae'n mynd y tu hwnt i ddarllen dyfyniadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru a rhestru'r hyn y tybiant sy'n ddiffygion ar hyd y blynyddoedd, yr wyf yn eu herio'n llwyr. Ym mhob un o'n hetholaethau, bydd miloedd ar filoedd o unigolion a busnesau wedi elwa ar y cyllid a...
Jeremy Miles: Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna, a diolch iddo hefyd am gadeirio'r grŵp llywio ar fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, sydd wedi rhoi Llywodraeth Cymru a busnesau a rhanddeiliaid Cymru yn fwy cyffredinol mewn sefyllfa dda iawn i ddeall pa ddefnydd y byddem yn gallu ei wneud o'r adnoddau hynny os cedwir yr addewidion hynny, fel y gobeithiwn. Felly hoffwn ddiolch iddo am ei...
Jeremy Miles: Llywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i roi cwestiynau 5 a 7 gyda'i gilydd. Fe wnes i gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Chwefror ac ers hynny rydym ni wedi bod yn ceisio adeiladu ar y cyfarfod cadarnhaol hwnnw a chyflwyno ein dadl dros gael model yn y dyfodol pan ddaw cyllid yr UE i ben yng Nghymru. Mae'r ymgysylltu ag adrannau eraill yn Whitehall yn parhau i...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n fater pwysig iawn ac, rwy'n credu, yn un o nifer o ragfynegiadau llwm iawn o ran colli swyddi mewn rhannau o Gymru a welsom ni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Effeithiwyd yn arbennig o andwyol ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, yn amlwg, gan COVID, yn y ffordd y clywsom ni yn cael ei thrafod yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw....
Jeremy Miles: Yn sicr. Y swyddogaeth yw cydlynu ymateb y Llywodraeth o ran cynllunio ar gyfer y cyfnod ailadeiladu, fel y nodwyd yn y datganiad ar y cyd â'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ddoe. Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru sy'n amlwg yn dal yn gyfrifol am bolisi ymyriadau economaidd. Fy swyddogaeth i yw helpu i gydlynu a chael y ddealltwriaeth orau bosib o'r effeithiau tebygol ar...
Jeremy Miles: Rydym yn gwybod nad yw asesiadau cyfredol yn adlewyrchu'r holl ddarlun economaidd, gydag economegwyr yn rhagweld efallai na fydd yr effaith lawn yn cael ei theimlo tan fis Hydref a thu hwnt. Rydym yn gwneud popeth y gallwn ni fel Llywodraeth i liniaru'r effeithiau ac mae ein pecyn cymorth £1.7 biliwn yn golygu y gall busnesau yng Nghymru gael y cymorth mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n derbyn yn llwyr y bydd y gwahaniaeth yn y patrymau gwaith yr ydym ni wedi eu gweld dros yr wythnosau diwethaf, os ydynt am gael eu cynnal, yn newid y galwadau ar ein seilwaith digidol, ac mae'n cael effaith a allai fod yn eithaf pellgyrhaeddol, mewn gwirionedd, o ran datblygiad preswyl a phob math o faterion eraill yn ymwneud â daearyddiaeth. Mae'r buddsoddiadau band eang yr ydym...
Jeremy Miles: Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, ac rwyf i dim ond eisiau cadarnhau mai ein hymagwedd ni, yn bendant, yw rhoi wrth galon ein hymateb ac wrth galon ein hailadeiladu yr ymrwymiad parhaus hwnnw i newid yn yr hinsawdd, i amgylchedd gwell. Rydym ni i gyd wedi gweld, rwy'n credu, onid ydym ni, oherwydd y newid ymddygiad angenrheidiol y mae pobl yng Nghymru wedi bod yn barod i'w gyflawni,...
Jeremy Miles: Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd newydd gyhoeddi datganiad diweddar yn amlinellu'r camau nesaf mewn cysylltiad â'n cynlluniau ar gyfer sefydlogi ac ailadeiladu fel Llywodraeth, sy'n seiliedig ar safbwyntiau'r cyhoedd, barn randdeiliaid a'r her a ddarperir gan arbenigwyr allanol. Rydym yn glir nad ein nod yw dychwelyd i'r hyn oedd yn arferol, ond ceisio mynd i'r afael â'r heriau y mae...
Jeremy Miles: Wel, cyfeiriaf yr Aelodau at y rhestrau yn Llyfrgell y Senedd o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau bord gron a'r broses gynghori arbenigol, nad ydynt, afraid dweud, yn cael eu cynrychioli'n ffyddlon o bosibl yn yr ymyriad gan Darren Millar. Mae wedi anghofio hefyd, rwy'n credu, sôn am y ffaith bod un o'r cyfranogwyr yn aelod o gyngor y cynghorwyr economaidd dan Philip Hammond, ac mae...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n deall y naratif y mae meinciau'r Ceidwadwyr, yn amlwg, yn ceisio'i ddatblygu heddiw ynghylch yr agwedd hon, ond byddwn yn ailadrodd y sylw a wnaeth y Prif Weinidog yn ei sylwadau yn gynharach, sef nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati yn un sy'n creu anghysondeb rhwng iechyd y genedl â lles yr economi. Holl Strategaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â hyn, wedi'i...
Jeremy Miles: [Anghlywadwy.]—San Steffan o dan Keir Starmer sy'n barod i ddiwygio'r undeb ar yr egwyddorion rŷm ni fel plaid wedi'u harfer yma yng Nghymru ers cyfnod hir iawn.
Jeremy Miles: Yn sicr. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad a gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a minnau ddoe, sy'n rhoi ymdeimlad, rwy'n credu, o sut yr ydym yn gweithio.
Jeremy Miles: Dwi ddim yn derbyn y term 'breuddwyd ffôl' a buasai fe ddim yn derbyn hynny, efallai, petaswn i'n disgrifio'i amcanion cyfansoddiadol e yn y ffordd honno. Felly, mae'n rhaid derbyn bod safbwyntiau gwahanol gyda ni ar y ffordd ymlaen. Dwi ddim yn derbyn mai dyma'r unig ffordd gallai'r undeb weithio. Yr holl bwynt yn y ddogfen y mae e'n ei disgrifio yw bod gennym ni ddadl amgen ar sut y...
Jeremy Miles: Mae Dai Lloyd yn cyfeirio at y Papur Gwyrdd arfaethedig wrth Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynglŷn â'r farchnad fewnol ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mewn egwyddor, rŷn ni'n gweld gwerth i'r syniad o farchnad fewnol i hybu busnesau yng Nghymru i allu llwyddo i werthu eu nwyddau ar draws y Deyrnas Gyfunol gyfan oll. Ond dyw e ddim yn dderbyniol i ni fel Llywodraeth fod y cynnig sy'n dod o'n...
Jeremy Miles: Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn yna. Ategaf ei chefnogaeth i'r mesur i liniaru rhai o'r costau y mae ardaloedd gwella busnes wedi'u hwynebu yn ystod y tri mis diwethaf. Mae gan ardaloedd gwella busnes ran bwysig o ran cynnal canol ein trefi, ac yn fy etholaeth fy hun rwyf wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw o ran rhai o'r heriau sy'n dod yn sgil COVID yn benodol. Mae rhai busnesau'n...
Jeremy Miles: Wel, nid wyf yn credu fod manteision porthladdoedd rhydd gyfryw ag y mae'r Aelod yn eu crybwyll yn ei chwestiwn. Rwy'n credu bod angen cwestiynu yr hyrwyddo di-amod ar borthladdoedd rhydd. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ystyried unrhyw gyfle i gefnogi cymunedau arfordirol ledled Cymru, boed yn drefi porthladd ai peidio, ac mewn gwirionedd bydd peth o'r cyllid sydd ar gael o gyllid...
Jeremy Miles: Wnaf i ddim ailddweud yr hyn rŷm ni wedi'i glywed yn y Siambr eisoes heddiw gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr economi yn sôn am yr ymyriadau a'r gefnogaeth rŷm ni wedi'u cynnal a chynnig hyd yn hyn yng nghyd-destun ymateb sydyn i COVID. Ond mae'r cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn yn berthnasol i'r tymor hir, hefyd, fel y mae'r cwestiwn yn ei amlygu. Gwnaf i ei gyfeirio at y datganiad...
Jeremy Miles: Byddwn yn ail-greu ar sail gwerthoedd ac egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd trefi ledled Cymru yn parhau i elwa o ymyriadau, gan adeiladu ar raglenni amrywiol trawsnewid trefi sy'n dod ar ben y pecyn cymorth pellach, gwerth £90 miliwn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.
Jeremy Miles: Ydw, rwy'n cytuno â hynny. Dylai'r egwyddor fod yn un o gydweithredu, a dylai hynny allu digwydd mewn modd lle caiff pob un o bedair Llywodraeth y DU yr un parch a'r un cyfle i gyfrannu. Efallai fod hierarchaeth Seneddol dan ddamcaniaeth gyfansoddiadol y DU, ond mewn gwirionedd nid oes hierarchaeth o lywodraethau, a dylid trin llywodraethau fel rhai cydradd yn y trafodaethau hynny. O ran y...