Llyr Gruffydd: Wel, mae hi yn bum mlynedd erbyn hyn ers i'r Arolygiaeth Gynllunio fynnu bod Wrecsam, neu wrthod cynnig cynllun datblygu lleol Wrecsam, a hefyd ddweud wrth sir Ddinbych a Chonwy nad oes digon o dai yn eu cynlluniau datblygu nhw. Roedd y penderfyniad hwnnw, wrth gwrs, wedi'i seilio ar ragolygon poblogaeth gan y Llywodraeth, ond erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r cyfrifiad wedi dangos i ni fod y...
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu lleol yng Ngogledd Cymru? OAQ51338
Llyr Gruffydd: A gaf innau hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad, ac a gaf i hefyd ategu y sylwadau a wnaeth e ynglŷn â chyfraniad ei ragflaenydd? Rwy'n gwybod bod Carl Sargeant yn delio â materion yn ymwneud â hawliau plant o'r galon, ac os bydd y Gweinidog presennol yn ymwneud â'i rôl gyda'r un arddeliad yna rwy'n sicr y bydd sefyllfa plant yng Nghymru yn cryfhau ac yn dal i wella. A gaf innau...
Llyr Gruffydd: Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, am y sefyllfa fel y mae hi. Mae hi wedi cael ei chodi'n gyson yn y Siambr hon gyda chi. Rydw i'n gwybod am hyd at saith practis yn ardal Wrecsam yn unig sydd o dan fygythiad o gau, ac mae yna nifer o rai eraill, wrth gwrs, mewn rhannau eraill o'r rhanbarth. Nawr, un o'r trafferthion ymarferol sydd yn peri tramgwydd yw'r sefyllfa o safbwynt cost...
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddenu a chadw meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ51264
Llyr Gruffydd: Os ydych o ddifrif am gefnogi’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, mae un ffordd hawdd y gallai eich plaid wneud hynny. Rydym yn sôn am drethiant—beth am dreth ar werth? Beth am TAW? Beth am leihau TAW? Gallech wneud hynny mewn mater o wythnosau yn y gyllideb, os ydych o ddifrif am gefnogi’r diwydiant twristiaeth.
Llyr Gruffydd: Wyddoch chi, rwy’n teimlo weithiau fod angen inni roi’r gorau i’r obsesiwn gyda Rhydychen a Chaergrawnt hefyd? Mae sefydliadau ardderchog eraill—Grŵp Russell ac eraill hefyd—y dylem annog ein pobl ifanc i anelu atynt, ac nid yn y DU yn unig ychwaith. Mae angen inni edrych y tu hwnt i hynny o ran ehangu gorwelion ein pobl ifanc i ystyried Harvard, Yale, y Sorbonne ac eraill. Pam na...
Llyr Gruffydd: Na, rwy’n fodlon.
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Rwyf innau hefyd yn teimlo ei bod hi braidd yn od nad oedd yna ddim manylion ynglŷn â’r cymhellion a oedd yn cael eu cyhoeddi heddiw, ond diolch i chi am roi amlinelliad i ni yn eich ymateb. Byddai diddordeb gyda fi wybod sut mae’r cymhellion newydd yma yn mynd i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Mi wnaethoch chi roi rhyw...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cyfrannu i’r ddadl yma? Mae’n debyg fy mod i wedi siarad gormod ar y dechrau i allu ymateb i bob pwynt sydd wedi cael ei wneud wrth gloi fel hyn. I’ll pick up on one or two of the contributions, and thank you for making those contributions. The Member for Delyn, of course, mentioned concerns about the devolution disconnect and she was...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Rydych wedi gweld y rhestr a amlinellwyd gennym yn ein cynnig. Pa rai rydych chi’n anghytuno â hwy, felly?
Llyr Gruffydd: Gwnaf, fe wnaf. Gwnaf, wrth gwrs.
Llyr Gruffydd: Rwy’n cytuno, a diolch am hynny oherwydd rydych yn gwneud fy araith drosof, i bob pwrpas. [Chwerthin.] Gallaf neidio tudalen yn ôl pob tebyg. [Chwerthin.] Ie, ond pan feddyliwch fod y Llywodraeth yn ei gael yn iawn—. Fel y dywedwch, mae’r Banc Datblygu Cymru newydd yn mynd i gael ei bencadlys yn Wrecsam, ond wedyn, wrth gwrs, fe glywn na fydd y prif weithredwr wedi ei leoli yno, clywn...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’n bleser gen i arwain y ddadl yma yn enw Plaid Cymru heddiw ar economi gogledd Cymru ac, yn wir, yn ehangach ar yr angen i Lywodraeth Cymru i roi mwy o chwarae teg i’r gogledd—rhywbeth mae nifer o bobl yn teimlo y maen nhw wedi methu yn glir ei wneud ers blynyddoedd erbyn hyn. Nawr, mae’r Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn cael ei chydnabod ac yn cael ei...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? A gaf i hefyd ategu’r diolch i Cymwysterau Cymru am eu hymchwil nhw ac am rannu’r wybodaeth gyda ni hefyd o flaen llaw? Mae’n bwysig nad ydym ni’n anghofio, rydw i’n meddwl, yn y drafodaeth yma, pam mae hyn yn digwydd, ac mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain bod hyn yn digwydd oherwydd mai’r hyn y mae’r...
Llyr Gruffydd: Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod yr arian sydd ar gael o fewn cyllideb ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei ddefnyddio i ehangu addysg Gymraeg? Oherwydd rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod yna raddfa gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion ffydd—mae’n 85 y cant, o beth ydw i’n ei ddeall, yn hytrach na 50 y cant ar gyfer ysgolion yn fwy cyffredinol. A...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ategu’r diolch ar y record—ac rydw i’n siŵr ein bod ni wedi diolch yn y gorffennol—i Aled Roberts am ei waith ar y cynlluniau strategol yma? Rŷch chi’n dechrau eich datganiad drwy ddweud bod y cynlluniau wedi gosod sylfaen gref ar gyfer cynllunio addysg Gymraeg. Wel, nid wyf eisiau anghytuno â chi yn y frawddeg gyntaf, ond...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd mewn ymateb i’r ffigurau sydd wedi cael eu datgelu bod chwarter holl welyau ysbytai cymunedol gogledd Cymru nawr â chleifion dementia ynddyn nhw—bron hanner y gwelyau yn Eryri, yng Nghaernarfon, 14 yn Nhreffynnon a 18 yn Llandudno? Mae'r oedi wrth drosglwyddo gofal wedi arwain at gleifion yn aros, mewn rhai achosion, hyd 145...
Llyr Gruffydd: Yn dilyn y smonach a wnaeth eich Llywodraeth chi o fater y cylch haearn yng nghastell y Fflint, a gaf i ofyn pa drefniadau sydd yn eu lle nawr i sicrhau bod unrhyw ddehongli o dreftadaeth yn digwydd o gyd-destun a phersbectif Cymreig ac nid o bersbectif rhywun arall?