Mike Hedges: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen 'Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd'? OAQ(5)0080(HWS)
Mike Hedges: Nid wyf yn rhannu eich barn. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, os byddech yn pennu'r cap hwnnw, y byddai’n arwain at brinder nyrsys ar wardiau a phrinder meddygon mewn ysbytai. Y broblem yw bod angen staff asiantaeth arnom. Yr her i Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yw cyrraedd sefyllfa lle nad oes angen staff asiantaeth oherwydd bod y gwasanaeth wedi’i staffio’n llawn. Pam ydych...
Mike Hedges: Yn sicr.
Mike Hedges: Dyma’r chweched gyllideb yr wyf wedi siarad amdani yn y Senedd. Yn anffodus, maent i gyd wedi cael eu gwneud yn erbyn agenda gyni Llywodraeth San Steffan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyntaf ac yn awr Lywodraeth Geidwadol. Pa mor hir fydd angen dilyn y llwybr cyni nes ei fod yn gwawrio’n sydyn ar y Llywodraeth nad yw'n gweithio? Fel y dywedodd Adam Price yn gynharach,...
Mike Hedges: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. A ydych chi, Gwnsler Cyffredinol, yn cytuno bod hwn yn gam pellach tuag at gyfyngu ar hawliau a mynediad pobl gyffredin at gyfiawnder drwy’r system llysoedd?
Mike Hedges: 6. Pa sylwadau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch effaith y newidiadau arfaethedig i ymgyfreitha sifil a llysoedd hawliadau bychain? OAQ(5)0008(CG)
Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet? Mae'r dreth gwarediadau tirlenwi ynddi ei hun yn dreth anarferol iawn, onid yw? Y prif reswm dros y rhan fwyaf o drethi yw codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Nod y dreth hon yw effeithio ar ymddygiad. A dweud y gwir, pan gafodd y dreth wreiddiol ei chyflwyno, roeddwn yn amheus. Roedd yn ymgais i effeithio ar...
Mike Hedges: Yn dilyn datganiad yr hydref a wnaed yn San Steffan, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddinas-ranbarth bae Abertawe i gynnwys disgrifiad o’r cynigion o ran cludiant, y cynlluniau ar gyfer cefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth a’r gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru?
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Wel, roedd yna gydbwyllgor negodi’n arfer bodoli a oedd yn gosod y cyfyngiad. Cafodd ei ddiddymu gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. A ydych yn gresynu hynny?
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei hymateb? O ystyried ei fod dros bum mlynedd, nid yw’n nifer fawr iawn o ddamweiniau, ond mae pob damwain yn un yn ormod. Beth sy’n cael ei wneud gan y Comisiwn i leihau nifer y damweiniau ar yr ystâd?
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Mae clymog Japan yn broblem fawr yn Nwyrain Abertawe, gan wneud tai yn anodd eu gwerthu a lledaenu i diroedd cyfagos. Rwy’n hapus iawn gyda’r diweddariad a roddodd y Gweinidog i mi ar arbrofion gydag ysglyfaethwr naturiol ac ar ymdrechion cemegol i gael gwared arno. Mae’r ysglyfaethwr naturiol wedi cael ei ddefnyddio ers nifer o...
Mike Hedges: Yn hanesyddol, yn y dyddiau cyn treth y pen, roedd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio’r hyn sy’n cyfateb i gynnyrch y dreth geiniog i gyflawni gweithgaredd er lles eu hardal leol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi mai’r hyn sydd ei angen, a’r hyn y mae awdurdodau lleol wedi gofyn amdano ers cyn cof, yw pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, felly os yw er budd...
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â chlymog Japan? OAQ(5)0056(ERA)
Mike Hedges: 1. Faint o ddamweiniau a gofnodwyd a ddigwyddodd ar ystâd y Cynulliad ers mis Mai 2011? OAQ(5)003(AC)
Mike Hedges: Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, a rhoddaf dair hwrê iddo, yn hytrach na dwy David Melding. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd y cynllun Rhentu Doeth. Mae angen i ni wella ansawdd a rheolaeth gyffredinol tai rhent preifat. Rwyf am bwysleisio ei bod yn bwysig bod landlordiaid—gan gynnwys landlordiaid damweiniol—yn ymwybodol o'u holl gyfrifoldebau. Mae’r rhuthr i...
Mike Hedges: Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith a wnaed gan Cymunedau yn Gyntaf yn Nwyrain Abertawe a gobeithiaf y bydd y gwaith ar wella iechyd, cyrhaeddiad addysgol, lleihau alldaliadau sefydlog, a dod o hyd i waith yn parhau. Ym marn Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw rôl y cynghorau lleol a’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth adeiladu cymunedau gwydn a pharhau’r cynlluniau ardderchog ac...
Mike Hedges: A gaf i yn gyntaf oll groesawu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop sy’n dod i Gaerdydd? Rwy’n gobeithio’n fawr iawn y bydd chwaraewr o Gaerdydd yn chwarae yn y gêm, sef Gareth Bale. A gaf fi hefyd atgoffa'r Gweinidog—ac rwy’n gobeithio y bydd yn croesawu hyn—bod 19 o ddigwyddiadau chwaraeon mawr yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn, a bod Abertawe yn chwarae yn y gynghrair...
Mike Hedges: Rydym wedi clywed llawer am y newidiadau a gynigir o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Caerdydd. Gofynnaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cynigion o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, yn benodol y cynigion megis ailagor gorsafoedd trenau, gwneud rhagor o’r A40 yn ffordd ddeuol, creu cysylltiadau bws a thrên a gwella’r ddarpariaeth o ran llwybrau beicio.
Mike Hedges: A dweud y gwir, roedd hen ewythr Cyril Hartson yn cael trafferth siarad Saesneg, ac yn aml byddai’n rhaid iddo ofyn beth oedd y gair Saesneg pan fyddwn yn siarad ag ef. Mae angen i’r ddarpariaeth o gyfleusterau ieuenctid cyfrwng Cymraeg wella a gwneud diogelu’r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol mewn ceisiadau cynllunio. I know how difficult it is to learn Welsh. It’s easier to learn at...