Canlyniadau 1221–1240 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio Ewropeaidd (17 Gor 2018)

Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw ar y Papur Gwyn a chroesawu hefyd y papur a gyhoeddwyd gennych chi ynglŷn â diwygio cyllid y DU a'r trefniadau cyllidol ar ôl Brexit? Dros y penwythnos, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi rybuddio y gallai Brexit caled aberthu'r DU, gyda'r bwgan o Brexit Torïaidd anhrefnus yn gysgod dros Gymru a Brexit caled...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhwng y Rhywiau (17 Gor 2018)

Jane Hutt: Diolch, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar fenywod gennym, gyda chefnogaeth y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, rhwydwaith aelodaeth o dros 1,000 o sefydliadau ac unigolion yn gweithio i hyrwyddo hawliau menywod ym mhob agwedd ar fywyd Cymru. Mae dirprwyaeth y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod yn cyflwyno eu hadroddiad Confensiwn y Cenhedloedd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhwng y Rhywiau (17 Gor 2018)

Jane Hutt: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhwng y rhywiau? OAQ52540

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cynhyrchu Ynni (11 Gor 2018)

Jane Hutt: Ychydig wythnosau'n ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyhoeddoch chi dargedau interim yn y ddwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer Cymru, ac fe ddywedoch y byddech yn ymgynghori ar gynllun gweithredu i'w cyflawni ym mis Gorffennaf. A allwch ddweud rhagor am y cynllun gweithredu hwn, a rôl ynni adnewyddadwy yn ei gyflawni?

6. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19 (10 Gor 2018)

Jane Hutt: Wel, rydych chi wedi dweud hynny ar goedd yn awr, Nick Ramsay. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei ddweud yw bod hyn yn gamp ryfeddol y bydd gennym ni, mae'n siŵr, gefnogaeth ar gyfer y gyllideb atodol heddiw, ac yn wir, fel y gwnaethoch chi ddweud, Nick Ramsay, ar gyfer y fframwaith ariannol a sicrhawyd, a byddwn i'n ei ddweud er gwaethaf wyth mlynedd o gynni a orfodwyd arnom ni yn Llywodraeth...

6. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19 (10 Gor 2018)

Jane Hutt: Yn neis iawn hefyd.

6. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19 (10 Gor 2018)

Jane Hutt: A gaf i groesawu'r gyllideb atodol gyntaf yn y flwyddyn ariannol hon? Mae'r Pwyllgor Cyllid, fel y dywedodd y Cadeirydd a Mike Hedges eisoes, wedi canfod fawr ddim i sôn amdano—newidiadau bychain, fel y dywedodd Mike Hedges—ar ei chwarter cyntaf. Ond gobeithio y cawsoch chi'r casgliadau yn ddefnyddiol hefyd. Roeddwn i'n falch o groesawu cyhoeddiad y GIG yn adolygiad canol tymor cynllun...

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol (10 Gor 2018)

Jane Hutt: Gaf i groesawu eich datganiad, arweinydd y tŷ, ar yr adolygiad rhywedd? Mae'n arbennig o berthnasol i eleni, gyda chanmlwyddiant y bleidlais i fenywod. Ddydd Sadwrn diwethaf, siaradais mewn digwyddiad dysgu oedolion, a fy thema oedd: 'Enillon ni'r bleidlais 100 mlynedd yn ôl. Dewch inni ennill cydraddoldeb i fenywod yng Nghymru heddiw.' Roedd yr opera Rhondda Rips it Up, y gwelodd rhai...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Gor 2018)

Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, rwy'n arbennig o bryderus i ddiogelu fy etholwyr yn rhan orllewinol Bro Morgannwg, lle ceir arfer hirsefydlog o ddefnyddio gwasanaethau ysbyty Tywysoges Cymru. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y newid arfaethedig i ffin y Bwrdd Iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Yn ail, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai arweinydd y tŷ gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb, fel...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymhwystra i Bleidleisio (10 Gor 2018)

Jane Hutt: Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â'r panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad y byddai gostwng yr isafswm oed pleidleisio i 16 yn ffordd rymus o godi ymwybyddiaeth a chyfranogiad gwleidyddol ymhlith pobl ifanc?

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Nodi 70 Mlynedd ers Sefydlu'r GIG ( 3 Gor 2018)

Jane Hutt: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ben-blwydd y GIG yn saith deg? Cafodd ei eni yng Nghymru o ganlyniad i un dyn, Aneurin Bevan, a oedd â'r ewyllys gwleidyddol ac argyhoeddiad cryf a gweledigaeth i fwrw ymlaen â hyn, gan ddatblygu ar y Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar leol, fel y dywedasoch, a'i hysbrydolodd cymaint. Ysgrifennydd y...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 3 Gor 2018)

Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, mae gen i ddau gwestiwn. Yn gyntaf, yfory rwy'n hwyluso cyfarfod yn y Senedd o grŵp Goroeswyr Triniaethau Rhwyll Cymru, a byddai'n ddefnyddiol cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y grŵp gweithredu dan gyfarwyddyd gweinidogion a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 8 Mai, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill. Yn ail, arweinydd y tŷ, a wnewch chi egluro a yw...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Adeiladu tai lesddaliad preswyl (27 Meh 2018)

Jane Hutt: Rwy'n falch o gefnogi cynnig deddfwriaethol Mick Antoniw. Mae'n ymdrin â mater y siaredais amdano yn y ddadl gan Aelod unigol, ac mae'n effeithio ar fy etholwyr ym Mro Morgannwg, gyda 3,500 o dai newydd yn y Quays yn ardal y glannau yn y Barri a adeiladwyd gan gonsortiwm Taylor Wimpey, Barratt a Persimmon. Ar y pryd, tynnais sylw at y ffaith bod cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru...

9. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Integreiddio Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (26 Meh 2018)

Jane Hutt: Ie, diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac a gaf i ddweud mor falch yr wyf i o glywed y newyddion am y buddsoddiad sylweddol hwn mewn tai yn rhan o'r pecyn i gydgysylltu iechyd, gofal cymdeithasol a thai? Yr wythnos diwethaf, siaradais yn y fforwm polisi ar ofal pobl hŷn, ac rwy'n credu bod Rhun yno hefyd, yn cadeirio sesiwn. Fe wnaethom ni dynnu sylw at y cyfleoedd unigryw sydd...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Buddsoddi Cyfalaf yng Nghanol De Cymru (20 Meh 2018)

Jane Hutt: A wnaiff y Gweinidog Cyllid nodi buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y GIG a Chanol De Cymru o ganlyniad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ac a yw'n cytuno â Paul Johnson o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid na fydd unrhyw ddifidend Brexit i helpu i gyllido'r hwb ariannol ychwanegol i'r GIG, neu efallai hyd yn oed yn cytuno â Dr Sarah Wollaston, sy'n cadeirio pwyllgor iechyd...

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid — Cymru, Cenedl sy'n Noddfa (19 Meh 2018)

Jane Hutt: A gaf i groesawu'r datganiad, yn ystod Wythnos Ffoaduriaid Cymru, ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, 'Cenedl Noddfa—Cynllun Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid '? Mae'r ffaith fod y cynllun hwn wedi'i lunio ar y cyd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a phartneriaid eraill yn arwydd o ddull cynhwysol blaengar Llywodraeth Cymru, gan dynnu, i raddau helaeth, ar argymhellion adroddiad y Pwyllgor...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Meh 2018)

Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, ym mis Chwefror, dywedodd Gweinidogion Cymru eu bod yn ystyried gwneud cyfarwyddyd sgrinio i Biomas UK No.2 Limited, sy'n datblygu llosgydd y Barri, o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, gan nodi bod nodweddion y datblygiad wedi'u cynnwys y Rheoliadau EIA. Mae gennyf ddiddordeb i wybod beth yw'r oedi wrth fwrw ymlaen â'r ...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dyfarnu Grantiau i Gwmnïau (19 Meh 2018)

Jane Hutt: Prif Weinidog, ceir 143 o gyflogwyr achrededig sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector erbyn hyn, gan helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau cyflog a rhyw yn y gweithle. Gan fod sector cyhoeddus Cymru yn gwario tua £6 biliwn bob blwyddyn trwy gaffael, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Meh 2018)

Jane Hutt: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wed'i wneud o gronfa cyd-ffyniant arfaethedig Llywodraeth y DU?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.