Alun Davies: The local authorities’ unhypothecated settlement is allocated using a “needs based” formula which is agreed with local government.
Alun Davies: The locations for seven South Wales Valleys strategic hubs were selected after considering a range of evidence. There are no plans at this time to increase the number of hubs. However, other authorities and organisations are able to use the hub template in their regions.
Alun Davies: Ar yr un pryd, Ddirprwy Lywydd, mae GIG Cymru i gyn-filwyr yn parhau i ddatblygu. Fe'i sefydlwyd yn 2010, ac mae'r gwasanaeth wedi derbyn tua 2,900 o atgyfeiriadau hyd yn hyn. Mae ei ddulliau arloesol, megis therapïau siarad a thechnegau rhithwir, yn helpu cyn-filwyr i ymdopi â thrawma personol o ganlyniad i brofiadau tra ar wasanaeth. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy roi teyrnged i waith Carl Sargeant, a wnaeth ysgogi yn ogystal ag arwain llawer o'r gwaith ar y maes hwn. Mae Aelodau ar bob ochr i'r Siambr wedi talu teyrnged i Carl a'i waith yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma, ac mae'n dyst i'r gwaith a wnaeth fel deiliad portffolio a oedd yn gyfrifol am y gwaith...
Alun Davies: Yn ffurfiol.
Alun Davies: Na, doedd yna ddim.
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei sylwadau caredig. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod yr Aelod dros Fro Morgannwg wedi gweithio'n galed ar hyn, ac mae ei gyfraniad ef i hyn—arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—wedi bod yn llai na dim. Mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid fod y polisïau economaidd y mae...
Alun Davies: Rwy'n cytuno gyda fy ffrind o Bontypridd, ond gadewch i mi ddweud hyn: mae gennym Lywodraeth y DU sy'n rhwym wrth wasg asgell dde, sy'n treulio hanner eu hamser yn osgoi talu treth Brydeinig ac yna'n pregethu wrth Lywodraeth Prydain beth sydd er lles Prydain, ac yn rhwym wrth grwpiau o aelodau meinciau cefn sy'n rhyfela â'i gilydd. Nid ydynt yn gallu ffurfio polisi, nid ydynt yn gallu...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i arweinydd UKIP Cymru am ei sylwadau caredig. Fodd bynnag, nid wyf am adael i hynny fy rhwystro. [Chwerthin.] Rwy'n siŵr bod rheolwyr Aston Martin yn ddiolchgar i'r Aelod am ei ddarlith ar eu busnes a buddiannau eu busnes. Rwy'n siŵr y byddant yn ddiolchgar iawn iddo am yr amser y mae wedi'i gymryd i wneud hynny, ac rwy'n siŵr y byddant yn rhoi sylw llawn i'r sylwadau y...
Alun Davies: Llywydd, nid wyf yn dymuno treulio amser y Siambr y prynhawn yma yn rhoi darlith i lefarydd Plaid Cymru ar natur gwneud penderfyniadau datganoledig—rwy'n synnu nad yw Plaid Cymru yn deall hynny—fodd bynnag, gadewch i mi ddweud hyn: mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau bod lleisiau Cymru yn cael eu cynrychioli a byddwn yn parhau i ddarparu llais cryf dros Gymru, i sefyll dros fuddiannau...
Alun Davies: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu'n gyson ag Aston Martin ynglŷn â'r buddsoddiad hwn a'r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu i'r cwmni i sicrhau'r buddsoddiad a'r budd mwyaf ohono, ond yn sicr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi clywed eich sylwadau a bydd yn parhau i gadw hynny mewn cof wrth iddo gyfarfod ag Aston Martin a'u cefnogi. A gaf fi ddweud,...
Alun Davies: Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno ag Aston Martin fod 'dim bargen' yn creu risg i fusnes. Fodd bynnag, nid yw'r cwmni wedi nodi unrhyw risg i'r buddsoddiad yn Sain Tathan, sy'n datblygu'n gyflym.
Alun Davies: Bernie, rydym ni i gyd yn mynd i golli Carl yn fwy nag y byddwch chi'n ei gredu, ond fydd neb yn ei golli yn fwy na chi a'ch teulu—Jack a Lucy a phawb arall a oedd yn ei adnabod mor dda. Cyfarfûm â Carl am y tro cyntaf pan gefais i fy ethol yn 2007 ac fe wnaeth rhywun, yn amlwg rhywun â thipyn o synnwyr digrifwch, fy rhoi a Lesley yn y swyddfa gyferbyn ag ef. Doeddwn i ddim yn gwybod...
Alun Davies: Rwy’n gobeithio nad yw’r Aelod yn fy meirniadu am geisio ateb y cwestiwn a ofynnwyd ar yr achlysur hwn. Ond rwy’n derbyn y gallai ei weld fel digwyddiad prin iawn. Rwy’n derbyn y pwynt y mae’n ei wneud ac nid wyf yn ei wrthod. Rwy’n credu ei fod yn bwynt hollol ddilys a theg. O ran yr hyn rydym yn ceisio ei wneud ar hyn o bryd, mae ein gwaith yn cael ei dwnelu drwy’r Rhwydwaith...
Alun Davies: Buaswn yn sicr yn hapus, Dirprwy Lywydd, i fynd i’r afael ag achos yr etholwr y cyfeiriodd yr Aelod ato, ac efallai fod hynny’n rhywbeth y gallwn ei drafod yn dilyn y cwestiwn hwn heddiw. Ond o ran y mater ehangach, nid wyf yn argyhoeddedig fod angen i’r prifysgolion fod yn fwy hyblyg; nid oes ond angen iddynt fod yn deg. Nid oes ond angen iddynt fod yn deg, ac mae angen iddynt sicrhau...
Alun Davies: Fe ddywedaf hyn wrth yr Aelod: aeth Coleg yr Iesu Rhydychen â grŵp o fyfyrwyr o Gymru i Rydychen dros yr haf, i ysgol haf, a threuliwyd cryn dipyn o amser yn siarad â hwy. Mae dros 2,000 o bobl bellach yn rhan o rwydwaith Seren ac yn elwa ar yr holl fanteision y mae hynny wedi ei roi iddynt. Mae’n eu galluogi i ddeall y prosesau angenrheidiol ar gyfer gwneud cais am le a chael lle yn un...
Alun Davies: O ystyried y cwestiwn hwnnw, buaswn yn dweud, ar sail ar eich gwaith cartref, Darren, nid wyf yn credu y buasech yn dod yn agos at gael eich derbyn i unrhyw un o’r prifysgolion hyn. Credaf fod angen i chi ddeall cyd-destun yr hyn sy’n digwydd yma yn ogystal â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Ac mae angen i chi edrych nid yn unig ar rai ffigurau, ond mae angen i chi ddarllen...
Alun Davies: Mae myfyrwyr o Gymru yn haeddu mynediad teg ar sail teilyngdod at leoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt. Er bod rhwydwaith Seren yng Nghymru yn helpu i arfogi a pharatoi ein pobl ifanc mwyaf disglair yn academaidd ar gyfer y prifysgolion gorau, megis Rhydychen a Chaergrawnt, mae’n rhaid i’r prifysgolion hynny ddangos bellach eu bod yn herio’r rhagfarnau yn eu prosesau derbyn eu hunain.
Alun Davies: Llywydd, rydw i’n cytuno â’r pwynt mae’r Aelod wedi’i wneud. Mae’r Llywodraeth wedi bod, yn hanesyddol, yn eithaf swil amboutu’r materion yma. Rydw i’n llai swil. Rydw i wedi gweld manteision addysg Gymraeg yn fy nheulu fy hun, ac rydw i’n gweld manteision cael addysg Gymraeg i blant ar draws y wlad, sy’n eu galluogi nhw i adnabod a bod yn rhan o’r cyfoeth rŷm ni...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i lefarydd UKIP. Dechreuodd ei sylwadau drwy sôn am wlad y gân. Wel, mae yna Aelodau yn y Siambr hon—efallai eich bod chi, Llywydd, yn un ohonyn nhw—sydd mewn gwirionedd wedi fy nglywed i’n canu. Rwy’n credu mai’r un peth sy'n uno’r Aelodau ar bob ochr y Siambr hon yw nad ydyn nhw am glywed hynny eto. Ni fyddwn yn dymuno gwneud i neb ddioddef hynny. Rwy'n...