Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwelyau mewn ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Rydw i jest am dreulio munud neu ddwy yn sôn am un agwedd bwysig o’r ddadl yma, yn sicr un y gwnaeth Rhun gyfeirio ati’n gynharach, sef argaeledd gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs, oherwydd os ydym ni’n meddwl bod yna broblem—ac mae yna broblem o safbwynt niferoedd doctoriaid, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill—yna mi allwch chi ddychmygu...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Yr hyn rydw i am holi yw: pwy ŷch chi’n credu ddylai nawr fod â pherchnogaeth o’r safonau hynny? Pwy ŷch chi’n credu ddylai fod yn eu gyrru nhw yn eu blaen a sicrhau eu bod nhw’n cael eu defnyddio yn well na’r rhai blaenorol? A fydd Cyngor Gweithlu Addysg Cymru, er enghraifft, â rôl yn hynny o beth, oherwydd ym mhob gwlad arall, y corff cyfatebol...
Llyr Gruffydd: Wel, nid ydych wedi ateb y cwestiwn ynglŷn ag a ydynt yn cael cynnig teg yn hyn o beth. Oherwydd mae athro cyflenwi arall yn dweud wrthyf ei fod yn ystyried rhoi’r gorau i swydd y mae wedi’i gwneud ers 18 mlynedd oherwydd y gostyngiad sylweddol y mae’n ei wynebu yn ei gyflog. Ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae’n dweud wrthyf ei fod yn gweld New Directions yn talu difidend o £100,000...
Llyr Gruffydd: Wel, mae etholwr wedi cysylltu â mi—ac roeddech chi’n sôn am gyflog ac amodau—ac roedd hi’n ennill £115 y dydd fel athrawes gyflenwi. Mae hi bellach wedi cael llythyr gan ei hawdurdod lleol yn dweud bod yn rhaid i bob ysgol weithio drwy’r asiantaeth athrawon cyflenwi breifat, New Directions, gydag ychydig iawn o eithriadau. Ac mae hi’n dweud wrthyf y bydd hynny’n golygu y...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi cydnabod wrthyf yn y Siambr hon—ac mae’r Prif Weinidog, a phob tegwch, wedi dweud yr un peth—nad yw’r Llywodraeth yn gwneud cystal ag yr hoffai o ran athrawon cyflenwi yma yng Nghymru. Wrth gwrs, cyhoeddodd y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad, yn awgrymu camau gweithredu yn y Cynulliad diwethaf. Sefydlwyd tasglu’r...
Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth? (OAQ51118)[W]
Llyr Gruffydd: Rydw i hefyd eisiau ategu'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud, a dweud y gwir, a chofnodi anfodlonrwydd ar y modd y mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yma wedi dod i fod. Yn sicr, rŷm ni’n derbyn nawr ei fod e wedi cyrraedd pwynt lle gallwn ni ei gefnogi fe, ond mae’r newidiadau yma a’r ffaith bod angen mynd yn ôl a gweithio eto ar y ffigurau wedi tarfu rhywfaint ar broses...
Llyr Gruffydd: Wel, yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 92 o swyddi nyrsys yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn wag, gyda nifer, wrth gwrs, cynyddol o nyrsys yn agosáu at oed ymddeol yno hefyd. Nawr, mae prinder y niferoedd yna o nyrsys yn golygu bod nyrsys arbenigol erbyn hyn yn gyson yn gorfod gweithio ar wardiau cyffredinol ac mae’n argyfwng dyddiol yn yr ysbyty, sef y mwyaf, wrth gwrs, yng ngogledd Cymru. Nawr,...
Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio nyrsys yng ngogledd Cymru? (OAQ51115)[W]
Llyr Gruffydd: Fe ddywedoch wrthym yr wythnos diwethaf am y graddau TGAU gorau erioed, ond wrth gwrs, o ran canlyniadau’r haf hwn, roedd y cyfraddau llwyddo cyffredinol ar eu lefel isaf ers degawd.
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y setliad ariannol a roddir i awdurdodau lleol?
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad a chroesawu rhan helaeth o gynnwys y datganiad ac, yn wir, y cynllun gweithredu. Nid wyf yn meddwl y byddai neb yn anghytuno ag uchelgais hirdymor y Llywodraeth yma—yn syml iawn, sicrhau bod pob plentyn ifanc yn cyflawni ei botensial. Mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddai pawb yn awyddus i’w weld. Ond yr hyn sydd gennym...
Llyr Gruffydd: Dydd Sadwrn oedd yr ail ar hugain o Fedi 1934. Roedd rhai glowyr ym Mhwll Glo Gresffordd wedi cyfnewid shifftiau er mwyn iddynt allu mynd i wylio Wrecsam yn chwarae pêl-droed y prynhawn hwnnw. Ond wrth gwrs, ni lwyddasant i gyrraedd y gêm am fod ffrwydrad 2,000 troedfedd o dan y ddaear wedi rhwygo siafft Dennis ar agor yn oriau mân y bore hwnnw. Collodd 266 o bobl eu bywydau yn y...
Llyr Gruffydd: Fe fyddwch yn gwybod—ac rwy’n siwr y byddwch yn ochneidio pan fyddaf yn crybwyll hyn eto—am fy mhryderon ynglŷn â diffyg strategaeth ar gyfer y gweithlu i weithwyr gofal plant. Rydym yn gwybod ei bod ar ffurf ddrafft dair blynedd yn ôl, ac er gwaethaf addewidion i’r gwrthwyneb, nid oes gennym strategaeth ar waith o hyd, ac rwyf wedi nodi fy mhryderon gan fod honno bellach yn cael...
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ymateb. Mi wnes i godi hyn gydag un o’ch rhagflaenwyr dair blynedd yn ôl: yr angen i wneud mwy i ymbweru tirfeddianwyr, ffermwyr, grwpiau amgylcheddol ac yn y blaen i fedru bod yn gyfrifol, o fewn ‘parameters’ penodol, wrth gwrs, am glirio glannau afonydd eu hunain, er enghraifft—bod ganddyn nhw’r pŵer i wneud hynny o fewn amgylchiadau penodol. Mi gyfeiriais i, bryd...
Llyr Gruffydd: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lifogydd ar dir amaethyddol? (OAQ51031)[W]
Llyr Gruffydd: Rydw i’n ymwybodol bod yna ddadl yfory, neu drafodaeth bolisi o gwmpas cael gwared ar y cynghorau iechyd cymunedol, ond mae’r pwynt rydw i eisiau codi’n ymwneud yn fwy penodol â phrosesau ymgynghori ehangach y Llywodraeth yma. Buaswn i’n falch i gael datganiad oddi wrth yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb—yr Ysgrifennydd cyllid, hyd y gwelaf i, sy’n gyfrifol am ymwneud...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am eich ateb, ac rwy’n amlwg yn croesawu’r ffaith fod yr astudiaeth hon yn cael ei chomisiynu o ganlyniad i gytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, wrth gwrs. Ond mae rhai pobl yn gofyn tybed a oes newid bach wedi bod yn y cyfeiriad yma oherwydd yr ymrwymiad gwreiddiol oedd i edrych ar leoli amgueddfa bêl-droed yn y gogledd, ond mae’r astudiaeth ddichonoldeb yn...
Llyr Gruffydd: Un o’r canolfannau sydd yn ceisio sefydlu ei hunan, wrth gwrs, fel lle ar gyfer cynnal digwyddiadau gyda rhai o’r bandiau mawr yw’r Cae Ras. Rydw i’n gyson wedi codi yr angen i fuddsoddi yn y Cae Ras gyda chi, achos mae angen iddo fe fod—ac mi ddylai fe fod—yn ganolfan adloniant o bwys, ond hefyd, wrth gwrs, yn stadiwm chwaraeon o ansawdd rhyngwladol. Nawr, rydym ni’n gyson yn...