Suzy Davies: Diolch, Lywydd, a chynigiaf gynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2017-18 a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol. Mae’r gyllideb hon ar gyfer 2017-18, ail flwyddyn y pumed Cynulliad hwn, ac yn y gyllideb, mae’r Comisiwn yn gofyn am £53.7 miliwn, sef cynnydd o 1 y cant uwchben chwyddiant o gymharu â’r flwyddyn hon. Mae’r gyllideb yn cynnwys tair rhan: £34.4...
Suzy Davies: Diolch am hynny, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oedd gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf yn boblogaidd gyda chynghorau tref neu gymuned bob tro, neu’n wir gyda rhai grwpiau lleol. Ac nid fi yw’r unig un a oedd yn clywed am actifyddion cymunedol, am danciau yn parcio ar lawntiau ac yn cymryd drosodd, ac yn y blaen. Nawr, nid oes dim ots gyda fi pwy sy’n gywir neu’n anghywir, ond rwy’n...
Suzy Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei werthusiad o weithio mewn partneriaeth o fewn Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0065(CC)
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn?
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am rywfaint o'r sicrwydd yr ydych chi newydd ei roi o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran y ffordd ymlaen. Roeddwn yn awyddus i gael gwybod ble y gallai sgiliau yn y Gymraeg ddod i mewn i'ch ystyriaethau yn y fan yma. Yn amlwg, bydd y gwasanaeth cynghori newydd yn lle priodol i nodi sgiliau Cymraeg cudd rhywun, ond byddai...
Suzy Davies: Gall y cynllun atgyfeirio ymarfer corff cenedlaethol helpu gydag adsefydlu pobl â COPD, yn ogystal, wrth gwrs, â phobl â phroblemau iechyd eraill. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru, ond, serch hynny, mae awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru yn codi tâl am y gwasanaeth. Ceir mynediad at y cynllun trwy atgyfeiriad gan feddyg teulu ac, o gofio, yn amlwg, bod eich Llywodraeth yn...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru hefyd am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Byddwn yn cefnogi’r cynnig, a byddem wedi bod yn fodlon cefnogi gwelliant y Llywodraeth hefyd, ond mae’n dileu pwynt 2. Nid wyf yn gweld pam na allai’r Llywodraeth dderbyn y pwynt, nodi’r rhesymau pam a chyferbynnu hynny gyda’r uchelgeisiau newydd ar gyfer eu strategaeth sydd ar ddod....
Suzy Davies: Na, rwyf wedi gorffen.
Suzy Davies: Mae’n ddrwg gennyf.
Suzy Davies: Mae pwynt 2 y cynnig yn tynnu sylw at deuluoedd cyn-filwyr, ac nid yw cefnogi cyn-filwyr yn dod i ben gydag ymyrraeth uniongyrchol. Efallai mai’r cymorth mwyaf effeithiol o’r cyfan yw cadw teulu gyda’i gilydd o amgylch aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, yn ogystal â chyn-filwyr sy’n arbennig o agored i niwed weithiau. Mae gwasanaeth unigolyn yn effeithio ar eu perthynas...
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Nid wyf yn credu fy mod wedi clywed bod yr arian yn mynd i gael ei neilltuo ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol ac yn fy marn i fel rhywun sy’n craffu, rwy’n meddwl ei bod yn mynd i fod yn anodd i mi ddilyn yr arian. Efallai y gallaf ein symud ymlaen yn awr. Efallai eich bod wedi clywed, Weinidog, fod cyngor Abertawe ar ôl achos llys am dorri terfynau amser...
Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, byddem yn cefnogi’r pwynt olaf a wnaethoch ynglŷn â’r pensiwn. Ond i bob pwrpas, yr hyn a glywais yn y fan honno oedd fy mod i chwilio am yr arian hwn mewn cyflogau. Efallai y gallwch ddweud wrthyf felly—. Fe gyhoeddoch ddatganiad yr wythnos diwethaf sy’n dangos bod y trosglwyddiad rheolaidd o £27 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU tuag...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Mae’r gyllideb ddrafft yn dangos toriad o £3.6 miliwn i gyllid gwasanaethau cymdeithasol uniongyrchol. I ble mae’r arian hwnnw’n mynd, ac os yw’n dal i fod at ddibenion gwasanaethau cymdeithasol, sut y gallaf ddod o hyd iddo er mwyn craffu ar sut y mae’n cael ei wario?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am y diweddariad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—dylwn fod wedi dweud hynny’n gynharach. Ond yn 2012, rhoddodd y Llywodraeth £0.5 miliwn i Westy Castell Rhuthun, mwy na thair gwaith yn uwch nag unrhyw grant arall gan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth y flwyddyn honno, a £5,000 yn unig o hwn sydd wedi’i adennill i drethdalwyr Cymru ar ôl i’r cwmni fethu...
Suzy Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth? OAQ(5)0057(EI)
Suzy Davies: A gaf i ddiolch i chi, hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae'n well gennym ddatganiadau yn y Siambr hon, yn hytrach na datganiadau ysgrifenedig, yn enwedig pan fydd gennym faterion sydd, fel yr ydych yn cyfeirio atynt, braidd yn ddadleuol. Rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn falch o'r sefydliadau—nid ydych yn unigryw yn hynny o beth—ac rwy’n credu ein bod yn eithaf...
Suzy Davies: Mae rhai teuluoedd yn dewis addysgu gartref o’u gwirfodd tra bod eraill yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall gan fod y dewisiadau eraill yn hytrach nag addysg ysgol i blentyn cythryblus yn brin. Er bod nifer yr olaf wedi gostwng, mae nifer y cyntaf wedi cynyddu o fwy na 1,000 bum mlynedd yn ôl i dros 1,500 y llynedd. Beth mae hynny'n ei ddweud am y ffydd yn ein system addysg...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y buddsoddiadau y mae Cyllid Cymru yn eu gwneud?
Suzy Davies: Bydd y mater o asesiadau effaith ieithyddol hefyd yn effeithio ar geisiadau cynllunio yn fwy cyffredinol ac mae’r cwestiwn hwn o hyfforddiant ac arweiniad ynglŷn â sut i gynnal yr asesiadau hyn yn berthnasol i’r ddau, rwy’n credu. A allwch chi egluro pwy sy’n gyfrifol am gynllunio’r hyfforddiant a’r canllawiau hyn, ac os mai’r Llywodraeth ydyw, o ba linell o’r gyllideb y...
Suzy Davies: Diolch am yr ateb hwnnw hefyd, ond nid wyf cweit yn glir faint o arian fydd yn dod i’r ddau sefydliad yna. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy ar hynny. Making the case for Welsh-language skills being an advantage in the economy is also an aim we share. Small Business Saturday is a month away, and, while promoting it to businesses in Swansea last week, both customers and staff...