Russell George: Brif Weinidog, rwy'n ddiolchgar i Joyce Watson am godi’r cwestiwn hwn; mae'n fater penodol yn fy etholaeth i, wrth i lawer o feddygon teulu gyrraedd oedran ymddeol a bod trafferth recriwtio. Mae llawer o feddygfeydd, yn yr achos hwnnw, yn gorfod ad-drefnu sut y maen nhw’n gweithredu. Yr hyn y mae meddygon teulu yn ei ddweud wrthyf yw bod potensial i’w safleoedd ostwng mewn gwerth os...
Russell George: Diolch. Rwy’n croesawu’r ateb yna felly, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol na all cleifion strôc yn y canolbarth gael mynediad at driniaeth arbennig yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig mwyach, ar ôl ad-drefnu gwasanaethau, sydd wedi arwain at wasanaethau yn symud ymhellach i ffwrdd i Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol yn Telford. A gaf i ofyn i chi pa drafodaethau y mae eich...
Russell George: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0111(FM)
Russell George: Iawn, fe wnaf ddirwyn i ben felly, Ddirprwy Lywydd. Dim ond dweud, o fy safbwynt i, fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda’i gilydd tuag at ganlyniad cadarnhaol.
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. Nawr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig a minnau’n croesawu’r ddadl hon ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cynhyrchu dur yng Nghymru yn hanfodol bwysig i economi Cymru wrth gwrs, i weithwyr a’u teuluoedd, ac i’r cymunedau sy’n dibynnu ar gynhyrchu dur. Ni fyddwn yn cefnogi’r cynnig heb ei...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant amaethyddol yn Sir Drefaldwyn?
Russell George: A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynglŷn ag ardrethi busnes? Yn sicr, rwyf wedi ymweld â nifer o fusnesau bach dros yr wythnos ddiwethaf ac mae llawer iawn o ansicrwydd. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, derbyniodd busnesau ryddhad ardrethi gwerth £1,500, ac yna y flwyddyn flaenorol roedd yn £1,000. Yn amlwg, mae angen i fusnesau wybod a ydynt am dderbyn y gyfradd honno yn...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dwristiaeth yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: A gaf innau hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a hefyd ei groesawu’n ffurfiol i'w swydd newydd a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef eto? Yn awr, rwyf innau, fel chithau Weinidog, yn croesawu Papur Gwyn Llywodraeth y DU, sy'n rhoi i'r BBC sefydlogrwydd hirdymor ac ymrwymiad penodol, wrth gwrs, i ddarparu llais cryfach i Gymru, yng Nghymru a thrwy ragor o gyfleoedd...
Russell George: Diolch, Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Wrth gwrs, fy marn i a barn y Ceidwadwyr Cymreig yw y dylai fod cloddwyr yn y ddaear yn ddi-oed, ac wrth gwrs rwy’n cytuno'n llwyr â barn pobl eraill nad yw gwneud dim yn opsiwn. Nawr, mae miliynau o bunnoedd wedi'u gwario eisoes ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a'r arddangosfeydd. Soniasoch yn eich datganiad bod yr...
Russell George: Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi yn y gorffennol naw sector busnes blaenoriaeth ar gyfer twf yng Nghymru. Mae gweithluoedd pump o'r sectorau hynny—twristiaeth, bwyd a diod, adeiladu, gwyddor bywyd a diwydiannau creadigol—wedi lleihau yn ystod y chwarter diwethaf. Tybed a allai'r Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau dros hynny.
Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Gobeithiaf y bydd y drafodaeth hon ychydig yn llai dadleuol na’r olaf, ond byddaf yn sôn am Ewrop sawl gwaith yn y ddadl hon. Rwy’n falch o gyflwyno’r ddadl hon ar effeithiau’r pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd ar Gymru, yn ogystal ag ôl-effeithiau hirdymor y digwyddiad ar iechyd, ac i gynnig y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy’n falch o ddynodi cefnogaeth...
Russell George: Weinidog, byddai ein hargymhellion ein hunain ar gyfer cronfa triniaethau canser Cymru nid yn unig wedi gwella mynediad at feddyginiaethau newydd, modern, ond byddai hefyd wedi gwneud triniaethau canser yn fwy hygyrch i gleifion drwy sefydlu uned trin canser symudol. Mewn rhannau gwledig o Gymru, megis fy etholaeth fy hun yn Sir Drefaldwyn, byddai’n wasanaeth amhrisiadwy wrth gwrs. Fy...
Russell George: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod hwnnw’n ymateb calonogol, felly efallai y byddai’n amserol pe gallem gael datganiad dros yr wythnosau nesaf, wrth i’r trafodaethau ddod i ben mewn ffordd bositif fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei awgrymu ac efallai, ar ryw adeg, y byddai’n barod i ymweld ag un o’r camau yn y canolbarth gyda mi hefyd—efallai y gallem gael ras...
Russell George: Wel, diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n falch o glywed eich bod yn ymwybodol o’r wybodaeth honno hefyd. Mae dyfodol hirdymor ralïo yng nghoedwigoedd Cymru o dan fygythiad difrifol o ganlyniad i gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyblu’r costau bron i’r diwydiant am ddefnyddio a chynnal a chadw ffyrdd. Nawr, mae’n ymddangos, yn Lloegr a’r Alban, fod...
Russell George: A gaf fi hefyd longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn adeiladol, lle bo’n briodol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfeiriadur Llywodraeth Cymru o gwmnïau chwaraeon modur yng Nghymru yn datgan bod gan Gymru sector moduro sydd wedi’i hen sefydlu, ac sy’n cynhyrchu trosiant o dros £3 biliwn y flwyddyn. Yn wir, un o lwyddiannau...
Russell George: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymwybodol o fater hirsefydlog yn fy etholaeth ynghylch ffordd osgoi arfaethedig yn ardal Llanymynech a Phant, a bûm yn gohebu o’r blaen gyda’ch rhagflaenydd, Edwina Hart, ynglŷn â hyn. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Andrew Jones, Gweinidog dros Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, yn Llanymynech, gyda chynrychiolwyr...
Russell George: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydgysylltu trafnidiaeth trawsffiniol? OAQ(5)0011(EI)
Russell George: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu cronfa cyffuriau canser? OAQ(5)0013(HWS)
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru?