Jane Hutt: Iawn. Rwy'n wirioneddol falch o ddweud ychydig o eiriau o blaid Siân Gwenllian yn y ddadl hon. Gwnaeth i mi gofio am lyfr a ysgrifennais, Making Opportunities—A Guide for Women and Employers, pan oeddwn yn gyfarwyddwr Chwarae Teg. Credwch neu beidio, mae 26 mlynedd ers i mi ysgrifennu a chyhoeddi'r llyfr, a cheir penodau ar bopeth sydd angen i ni ei wybod a phopeth yr ydym yn dal i geisio...
Jane Hutt: Lywydd, a gaf fi gymryd y cyfle hwn i ganmol menter Joanne Cheek o ymgyrch Beautiful Barry? Mae Joanne wedi arwain y ffordd fel dinesydd gweithredol, gan annog y Barri i ddod yn dref ddiblastig. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae Joanne am leihau'r defnydd o boteli dŵr plastig, gan ei bod hi wedi canfod, fel codwr sbwriel brwd, mai dyma yw'r rhan fwyaf o'r plastig y mae'n ei godi. Mae hyn...
Jane Hutt: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer undebau credyd i gynilwyr ifanc?
Jane Hutt: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ymgyrchoedd i gyflwyno ffynhonnau dŵr yfed cyhoeddus ledled Cymru?
Jane Hutt: A gaf i groesawu, arweinydd y tŷ, y ffaith bod Stella Creasy AS wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y ddadl frys ar y gyfraith erthylu yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos diwethaf? Nid oedd sôn am y ddadl yn y penawdau newyddion, ond Anna Soubry a wnaeth atgoffa'r DUP fod 724 o fenywod yn dod i'r DU bob blwyddyn i gael erthyliad, wrth i Aelodau Seneddol alw am weithredu brys yr...
Jane Hutt: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am eich datganiad heddiw? Yn dilyn ymgynghoriad helaeth, fel y dywedasoch chi, ar y cyfraddau comisiwn ar gyfer cartrefi mewn parciau a'r effeithiau ar berchnogion cartrefi mewn parciau a busnesau cartrefi mewn parciau yng Nghymru, rwyf wedi cael sylwadau pendant iawn ynghylch y gyfradd comisiwn bresennol o 10 y cant i breswylwyr cartrefi mewn parciau, sydd yn...
Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig ail-strwythuro gwasanaethau ieuenctid yn fy etholaeth, a allai arwain at golli hyd at 30 o weithwyr ieuenctid rhan-amser hyfforddedig. Rwy'n deall na fu unrhyw ymgynghori â'r bobl ifanc yn uniongyrchol, Fforwm Ieuenctid y Fro, na chyda chabinet ieuenctid etholedig, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn. Rwy'n...
Jane Hutt: Prif Weinidog, rwy'n croesawu'r cyhoeddiadau a wnaed o ganlyniad i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau a metro de Cymru. Rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiad i gynnwys gwasanaethau bob hanner awr i reilffordd Bro Morgannwg o 2022. Rwyf i wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers blynyddoedd lawer, ac, wrth gwrs, byddwch yn cofio bod Llywodraeth Cymru wedi ailagor gorsafoedd yn y Rhŵs a...
Jane Hutt: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ac yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hwn, sy'n amlwg yn yr ymatebion cadarnhaol iawn i'r argymhellion. Rwy'n croesawu'n arbennig ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion sy'n ymwneud â'n cyfranogiad yn rhwydweithiau'r UE, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i sicrhau bod mynediad at y rhwydweithiau hyn yn parhau er budd...
Jane Hutt: A wnaiff yr Aelod ildio?
Jane Hutt: Wrth gwrs, mae etholwyr wedi mynegi pryderon a gwneud llawer o sylwadau, ac mae un pwynt yn ymwneud â'r samplau a'r dadansoddiadau diweddar y cyfeiriwch atynt. Cafodd ei ddwyn i fy sylw nad yw o reidrwydd yn sefydlu diogelwch deunydd carthu dwfn. Felly, o'ch ystyriaethau fel aelod o'r pwyllgor sy'n derbyn tystiolaeth, tybed a ydych yn credu bod angen gwneud gwaith samplu pellach ar...
Jane Hutt: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod cynnig Cyngor Bro Morgannwg i adleoli ysgol bentref Llancarfan dros chwe milltir i ffwrdd i safle newydd yn y Rhws wedi ennyn cryn dipyn o wrthwynebiad yn eu hymgynghoriad diweddar. Mae Estyn wedi rhoi gradd dda i'r ysgol, ac fe'i cymeradwyir am ei defnydd o'r amgylchedd gwledig a'r coetir lle mae wedi'i lleoli. Mewn gwirionedd,...
Jane Hutt: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion ym Mro Morgannwg? OAQ52234
Jane Hutt: Fel aelod o'r grŵp arweinyddiaeth cyflog byw gwirioneddol, roeddwn i'n falch o glywed gan y corff achredu Cynnal Cymru bod 143 o gyflogwyr wedi cael eu hachredu yng Nghymru, gan gynnwys cyflogwyr preifat yn ogystal â chyflogwyr sector cyhoeddus a'r trydydd sector. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod angen i ni ymsefydlu ymrwymiad a chynnydd tuag at y cyflog byw gwirioneddol yn y...
Jane Hutt: Credaf fod hynny hefyd yn rhywbeth y gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad fwrw ymlaen ag ef. Ond gan fod Siân Gwenllian yn ddefnyddiol iawn wedi rhoi rhagolwg o gyhoeddiad rwy'n ei wneud heddiw, rydym yn ceisio sefydlu grŵp trawsbleidiol newydd ar gydraddoldeb menywod i helpu i symud yr agenda hon yn ei blaen, ac yn amlwg gan ystyried tystiolaeth o'r fath am Bwyllgor Menywod a...
Jane Hutt: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi groesawu'r ddadl hon heddiw ar urddas a pharch, gan gydnabod rôl y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ein dwyn at y pwynt hwn lle mae cyfle i'r Cynulliad cyfan ategu'r datganiad urddas a pharch? Rwy'n falch eich bod yn cydnabod hwn, Jayne Bryant, fel Cadeirydd y pwyllgor, fel rhywbeth sy'n agored ar gyfer ei adolygu a'i ddatblygu, gan ddysgu o'r ddadl hon...
Jane Hutt: Yr wythnos diwethaf, cynorthwyais i lansio dathliad hanner canfed pen blwydd gŵyl gerddoriaeth Bro Morgannwg a gafodd ei sefydlu a'i chynnal gan ei chyfarwyddwr artistig ysbrydoledig, y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf. Hoffwn ddiolch i'r ŵyl am gynnwys cerddoriaeth David Roche o Dredegar gyda'r perfformiad cyntaf o Leading by Example mewn cyngerdd a fynychais ddydd Sadwrn diwethaf. Yn ei...
Jane Hutt: Yr wythnos hon, rwy'n ymuno â Michael Sheen fel un o noddwyr newydd Undebau Credyd Cymru ac rwy'n falch iawn o weld y canlyniad cadarnhaol hwn i'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau credyd yng Nghymru fel rhan o'r strategaeth cynhwysiant ariannol, a gymeradwywyd gennych chi bellach drwy ddyrannu cyfalaf trafodiadau ariannol. A fyddech yn cytuno mai dyma'r union ffordd y dylem...
Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, i gefnogi eich papur 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit' yn llawn, sut y gallwn sicrhau bod trefniadau cyllido yn y dyfodol yn cyd-fynd â chronfeydd Ewropeaidd eraill y gobeithiwn fanteisio arnynt ar ôl Brexit, megis Horizon 2020 a'r rhaglen gydweithredu ryngdiriogaethol?
Jane Hutt: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r dyraniad o gyllid Llywodraeth Cymru i undebau credyd yn dilyn y diweddariad diweddar i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru? OAQ52191