Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirpwy Lywydd, eto.
Huw Irranca-Davies: Hoffwn i agor fy nghyfraniad i'r ddadl hon fel y Gweinidog dros blant drwy roi teyrnged i waith cyn-Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant. Roedd Carl yn daer dros wella bywyd plant a phobl ifanc ledled Cymru, yn benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w lles nhw ac i'w gobeithion nhw i'r dyfodol. Roedd ef yn sylweddoli yr effaith ddinistriol a gaiff profiadau andwyol plentyndod a...
Huw Irranca-Davies: Suzy, rwy'n diolch ichi am y cwestiwn hwn, ac nid oes swyddogion wedi codi gyda mi ar hyn o bryd unrhyw bryderon am unrhyw ddiffyg o ran capasiti, ond byddaf yn siŵr o roi mwy o ystyriaeth i hynny ac ymchwilio i hynny eto. Rwy'n gwybod mai'r diben sydd wrth wraidd y broses newydd ger ein bron, yn amodol ar basio'r offerynnau statudol hyn heddiw, mewn gwirionedd yw creu system fwy cyfeillgar...
Huw Irranca-Davies: Mae'r ddwy set o reoliadau sydd ger eich bron chi heddiw yn elfennau sylfaenol o'r system newydd. Fe gawson nhw eu datblygu yn ystod cam un y gweithrediad ac roedden nhw'n destun ymgynghoriad llawn 12 wythnos. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio yn cofrestru gyda Gweinidogion Cymru—yn ymarferol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynigion. Fe gafodd y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ei basio yn unfrydol bron i ddwy flynedd yn ôl. Mae'n darparu fframwaith statudol i reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfres sylweddol o is-ddeddfwriaeth yn llifo o'r Ddeddf ac mae'n bwysig, er lles y...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio. Mae’n gwneud y pwynt hollol briodol. Trasiedi hyn—. Ceir trychinebau dynol ac rydym yn eu gweld yn datblygu yn awr ac mae’n mynd i fynd yn llawer gwaeth, ond trasiedi lywodraethol hyn yw ei fod wedi cael ei dreialu. Mae’r dystiolaeth wedi bod yn glir, nid ers y chwe wythnos neu’r chwe mis diwethaf, ond yn y blynyddoedd y cafodd hyn ei...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ganmol yr Aelod am gyflwyno’r ddadl hon ar y cynnig deddfwriaethol hwn? Yn yr Unol Daleithiau lle’r roeddent yn edrych ar y dechnoleg hon fesul talaith, a fuasai’n nodi bod y rhai a ganiataodd iddo ddatblygu i fod yn ffyniant wedi gorfod lleihau a chyfyngu ar eu deddfwriaeth amgylcheddol er mwyn gwneud i hynny ddigwydd? Cawsant wared ar amddiffyniadau i wneud i hynny ddigwydd...
Huw Irranca-Davies: Yn dilyn cwestiwn Simon ynglŷn â’r egwyddorion sy’n sail i drethi neu ardollau newydd, a gaf fi ofyn i ba raddau y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r egwyddorion sy’n sail iddi wedi eu hymgorffori yn y cynigion newydd? Gwyddom y bydd y gyfran o bobl hŷn y rhagwelir y bydd angen gofal preswyl arnynt yn codi dros 80 y cant erbyn 2035, mewn llai nag 20 mlynedd, ynghyd â...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor yng Nghymru?
Huw Irranca-Davies: A dweud y gwir, byddai rhywun teg yn dechrau drwy gymeradwyo’r trafodaethau adeiladol ond cadarn y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil ymadael â’r UE ac am beirianwaith newidiadau’r Llywodraeth hefyd. Fel rhywun teg, rhof glod lle mae’n haeddiannol. Ond o ran y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a hefyd y peirianwaith angenrheidiol o ran newidiadau gan y...
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio, Llyr?
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n gwrando gyda diddordeb mawr ar eich cyfraniad. Roeddwn yn y cyfarfod y bore yma ar gyfer rhaglansiad Banc Datblygu Cymru, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod wrth fy modd, fel Aelod Cynulliad yn ne Cymru, eu bod wedi dewis pencadlys yng ngogledd Cymru, a staffio’n fwy cymesur o gwmpas canolbarth Cymru a gogledd Cymru yn ogystal â chael pencadlys yng ngogledd...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Wrth lansio’r llwybr hwn, sy’n engraifft wych o arloesedd, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet lawer o bwyslais ar yr angen am gydweithio effeithiol gyda chonsortia tai, gyda’r awdurdodau lleol, pwyllgorau cydweithredol rhanbarthol, byrddau iechyd lleol ac asiantaethau darparu eraill. Felly, cyn belled â hyn ar hyd y llwybr, a allai...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Yn ôl ym mis Awst, fel y gŵyr, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad, o dan yr enw bachog, ‘Y Llanw’n troi?’, a bwysleisiai cymaint y dylem ymfalchïo yn ein hamgylchedd morol ac arfordirol yng Nghymru, a photensial ardaloedd morol gwarchodedig i helpu i gefnogi moroedd iach, pysgodfeydd...
Huw Irranca-Davies: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion pellach am sut y gall rhanddeiliaid y tu hwnt i awdurdodau rheoli gyfrannu at ddatblygu cynllun gweithredu ar flaenoriaethau rheoli ardaloedd morol gwarchodedig? (OAQ51185)
Huw Irranca-Davies: 12. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llwybr tai cenedlaethol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog? (OAQ51183)
Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet herio DEFRA i newid ei safiad ar y rheolau ynghylch profion ar ôl symud sy'n gysylltiedig â symud gwartheg o'r ardal TB isel yng Nghymru i'r ardal risg isel yn Lloegr?
Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o fanteision rhaglen Dechrau'n Deg?
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Prif Weinidog nodi ei uchelgeisiau ar gyfer Banc Datblygu Cymru?
Huw Irranca-Davies: Rwy’n sylwi, ym Mryste, y gall rhywun ifanc deithio o fewn y parth mewnol drwy'r dydd, gymaint ag y maen nhw ei eisiau, ar fws, am gwpl o bunnoedd. Dyna drafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy, go iawn. Rwy'n gwybod mai canol dinas ydyw, ond dim ond £1.50 yn fwy ydyw i fynd i'r cylch allanol hefyd. Nawr, dyna'r sefyllfa ddelfrydol. Felly, a gaf i awgrymu, os edrychwch ar Ben-y-bont ar Ogwr, er...