Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig? OAQ(5)0205(EI)[W]
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safon meddygfeydd yng ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: Wel, ydy, mae, ac wrth gwrs mae’ch Llywodraeth chi yn ymgynghori ar y funud ynglŷn â chael gwared â chynghorau iechyd cymunedol statudol. Rydw i’n gweld hwn yn gam yn ôl, ac yn gam peryglus, a dweud y gwir, yn enwedig i ni yn y gogledd, oherwydd mae angen llais cryf, annibynnol gyda phresenoldeb lleol sy’n gallu herio’r byrddau iechyd a herio’r Llywodraeth hefyd pan fod angen...
Llyr Gruffydd: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd lleisiau cleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? OAQ(5)0743(FM)[W]
Llyr Gruffydd: Wel, nid rhoi pwysau ar y myfyrwyr yw’r ateb, nage? Ac mae ceisio awgrymu bod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cefnogi’r cynnydd yn y ffi a gyhoeddwyd ddoe yn gwbl anghywir. Oes, mae yna newid yn y ffordd rydych yn cefnogi myfyrwyr—nid oes unrhyw un yn amau hynny. Ond nid yw cynyddu’r ddyled sy’n wynebu myfyrwyr yng Nghymru—ac nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, gyda llaw—yn ateb...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr. Ysgrifennydd y Cabinet, beth a ddywedodd Carwyn Jones wrthych pan ofynnoch iddo a gaech chi godi ffioedd dysgu?
Llyr Gruffydd: Wrth gwrs, mae’r Arglwydd Adonis, pensaer ffioedd dysgu’r Blaid Lafur, wedi cyfaddef eu bod wedi troi’n anghenfil Frankenstein o £50,000 a mwy o ddyledion i raddedigion ar gyflogau cymedrol nad ydynt yn agos at allu fforddio eu had-dalu. Mae llawer o’r myfyrwyr hynny’n amlwg ar ymyl y dibyn. Beth sy’n lefel dderbyniol o ddyled i fyfyrwyr yng Nghymru yn eich barn chi?
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Yn sicr, rydym yn croesawu'r symudiad tuag at gefnogaeth lawer symlach, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei nodi yn flaenorol i chi yn dilyn datganiadau blaenorol. A gaf i hefyd groesawu'r pwyslais parhaus ar ddull gwirioneddol draws-lywodraethol, yr wyf i yn ei ystyried yn hanfodol? Clywsom y geiriau hyn yn cael eu dweud yn y...
Llyr Gruffydd: Diolch, Ysgrifennydd, am eich datganiad chi. Nid ydw i’n meddwl ei fod yn mynd â ni i gyfeiriad annisgwyl. Mae llawer o’r hyn rŷch chi wedi ei ddweud yn gadarnhad efallai o’r hyn rŷch chi wedi ei amlinellu i ni yn flaenorol. Ac mae yn dda cael y cadarnhad yna, yn enwedig gan fod prifysgolion a myfyrwyr, wrth gwrs, wedi bod yn chwilio am yr eglurder yna mewn pryd ar gyfer gwneud...
Llyr Gruffydd: Bythefnos yn ôl, cafodd gyrrwr motor-beic ei ladd ar yr hyn sy’n cael ei alw, yn anffodus, yn ‘“Evo” triangle’—cyfres o ffyrdd neu rwydwaith o ffyrdd yn ardal Pentrefoelas a Cherrigydrudion, sydd wedi cael ei hyrwyddo gan y cylchgrawn ceir ‘Evo’ fel man da i fynd i brofi’ch sgiliau gyrru ac i wthio’ch car i’r eithaf. Nawr, mae hyn i gyd wedi creu, dros gyfnod,...
Llyr Gruffydd: Wel, mae’n amlwg bod Siri ddim cweit wedi deall beth oeddwn i’n ei ofyn. Mi drïaf i gwestiwn arall. Hei, Siri, pwy yw Prif Weinidog Cymru?
Llyr Gruffydd: Na. Wel, dyna fe. Ocê, wel, mi drïwn ni unwaith eto. Hei, Siri, a wyt ti’n deall Cymraeg?
Llyr Gruffydd: Wel, mae’n amlwg, o’r ateb, mai ‘na’ yw’r ateb, mewn gwirionedd, ac mae hynny yn resyn, wrth gwrs, ac yn siom oherwydd mae’r dyfodol yn ddigidol, ac mae teclynnau fel Apple Siri, sy’n adnabod lleferydd ac yn ateb cwestiynau, yn dod yn fwy poblogaidd yn ein bywydau dydd i ddydd. Ond, fel chi’n gweld, mae yna berig fod y dyfodol digidol hwnnw yn ddyfodol di-Gymraeg os na wnawn...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y cyfle i gyflwyno’r ddadl fer yma y prynhawn yma? Rydw i am gychwyn fy nghyfraniad drwy drïo rhywbeth a fydd, gobeithio, yn tanlinellu’r pwynt rydw i am ei gyfleu, ac efallai yn gwneud hynny’n llawer mwy effeithiol hefyd, efallai, nag y gallaf i mewn araith. Nid ydw i’n amau hefyd mai dyma a fydd, efallai, y tro cyntaf mewn unrhyw...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Fe sonioch am Gyrfa Cymru. Wrth gwrs, yr hyn a welsom—ac rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn â hyn yng ngogledd Cymru—yw haneru’r lefelau staffio yno. Rydym wedi gweld niferoedd yn disgyn. Yn ôl yn 2010, roedd gwasanaethau gyrfaoedd yn arfer gweld pob disgybl ym mlynyddoedd 10 ac 11; nawr, tua chwarter y disgyblion ym mlwyddyn 11 yn unig a welant. A yw hynny’n dderbyniol?
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gyfrannu at y ddadl yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle, hefyd, i ni gael trafod materion yn ymwneud ag addysg oedolion ac addysg yn y gymuned. Rydym ni wastad yn trafod ysgolion, prifysgolion, colegau, ac rydw i’n meddwl bod yna ddyletswydd arnom ni, efallai, i gywiro'r anghydbwysedd yna ychydig, ac mae’r ddadl yma heddiw...
Llyr Gruffydd: Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni, ac fel pob blwyddyn, fe welwn ni gystadleuwyr o ar draws y byd yn dod i ganu, i ddawnsio, a mwynhau gogoniant Llangollen a dyffryn Dyfrdwy. Fe gynhaliwyd yr eisteddfod ryngwladol gyntaf ym Mehefin 1947, ac ar ôl erchyllterau’r ail ryfel byd, roedd yna weledigaeth y gallai cerddoriaeth leddfu rhywfaint...
Llyr Gruffydd: Ddydd Llun, wrth gwrs, mi gawsom ni fanylion y cytundeb yma rhwng y Ceidwadwyr a’r DUP. Ymhlith pethau eraill, mi roedd y cytundeb yn estyn y sicrwydd ynglŷn â lefel y taliadau fferm ac ariannu ar gyfer y taliadau fferm i ffermwyr yng Ngogledd Iwerddon tan 2022, y tu hwnt i’r sicrwydd y mae Cymru wedi’i gael yn flaenorol. A gaf i ofyn, felly: a ydych chi wedi cael, erbyn hyn, yr un...
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch tân yng Ngogledd Cymru?