Mike Hedges: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Dechrau’n Deg? OAQ(5)0040(ERA)
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn fynegi fy siom ynghylch y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud gwaith rhagorol yn fy etholaeth i. Ond rwyf wedi dweud ers blynyddoedd y dylai Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg fod yn seiliedig ar gymunedau, nid yn cael eu llywio gan y ffordd y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn penderfynu...
Mike Hedges: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r hyn sy'n bwysig yw canlyniadau nid mewnbynnau? Ac a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar ganlyniadau TGAU gorau erioed, ac Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Treforys—dwy ysgol Her Ysgolion Cymru—ar eu canlyniadau TGAU rhagorol?
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r diwydiant TGCh yng Nghymru?
Mike Hedges: Iawn. A gaf i ofyn dau gwestiwn yn fyr iawn? [Chwerthin.] Pam ydym ni’n awyddus i gael dinas -ranbarth a rhanbarth arall ar gyfer gwasanaethau? Does bosib nad y ddinas-ranbarth yw’r ôl troed. Rwy’n credu y gallech fod eisiau isrannu o fewn yr ôl troed, ond mae ei gael ar draws—. Bydd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu galw’n Janus, oherwydd ein bod yn edrych i'r...
Mike Hedges: A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Cynghorau ym Mhrydain yw'r rhai mwyaf yn Ewrop, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod. Mae John Stewart wedi dweud bod maint cyfartalog awdurdod lleol ym Mhrydain 10 gwaith maint cyfartalog awdurdodau lleol yng ngweddill Ewrop. Mewn cyfarfod Gorwel yr wythnos diwethaf, o dan gadeiryddiaeth David Melding, dywedwyd bod...
Mike Hedges: Credaf fod dinas-ranbarth Bae Abertawe yn datblygu'n dda iawn fel cyfrwng ar gyfer datblygu economaidd. Fodd bynnag, rwy’n gweld swyddogaeth fwy strategol iddo mewn pethau fel cynllun strwythur. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, ac a wnaiff y Prif Weinidog geisio defnyddio ôl troed dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru?
Mike Hedges: 1. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0171(FM)
Mike Hedges: Diolch. A gaf fi yn gyntaf oll ddiolch i chi, Lywydd dros dro, ac yn fwy pwysig, a gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am funud yn y ddadl hon, ac am roi sylw i’r materion hyn? Gadewch i mi ddatgan ar y cychwyn nad wyf o reidrwydd yn cytuno â phopeth a ddywedodd, ond rwy’n meddwl bod y pethau hyn yn werth eu trafod, ac maent yn bwysig. Mae’r rhan fwyaf o adrannau gwasanaethau cymdeithasol...
Mike Hedges: Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ogystal ag arolygiadau Estyn, mae ysgolion hefyd yn cael eu hasesu’n flynyddol gan y consortiwm rhanbarthol o dan y drefn ‘gwyrdd/ambr/coch’—sy’n fwy adnabyddus fel y system goleuadau traffig. Pam eu bod yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol, a pha rai y dylai rhieni dalu fwyaf o sylw iddynt?
Mike Hedges: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd mae Estyn yn archwilio ysgolion yng Nghymru? OAQ(5)0019(EDU)
Mike Hedges: Rwy’n croesawu’r datganiad gan y Cadeirydd a’r arfer newydd o sicrhau bod Cadeiryddion pwyllgorau yn adrodd i’r Cyfarfod Llawn. A gaf fi longyfarch pwy bynnag a feddyliodd am hynny fel syniad, oherwydd rwy’n credu ei fod yn helpu’r Cynulliad i wneud yn siŵr nad yw pwyllgorau’n gweithio mewn seilos bach, ond yn hytrach yn rhoi gwybod i weddill y Cynulliad yn union beth sy’n...
Mike Hedges: Diolch i’r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy’n credu ein bod wedi gweld awdurdodau lleol yn gwneud yn eithriadol o dda gyda llai o arian. Roedd manylion yr uned ddata llywodraeth leol ar berfformiad cynghorau yn ddiddorol iawn yn fy marn i. Fodd bynnag, ni allaf ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod awdurdodau mwy o faint yn perfformio’n well nag awdurdodau canolig neu fach. A all y...
Mike Hedges: A gaf fi gysylltu fy hun â’r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd? Rwy’n credu bod bron bawb, os nad pawb, sy’n cynrychioli’r ardal, ac yn sicr y bobl sy’n byw yn yr ardal, yn pryderu ei bod i’w gweld yn cymryd amser hir i’r cytundeb dinas ddwyn ffrwyth yn Abertawe yn wahanol i lefydd eraill ym Mhrydain. Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i’r Gweinidog yw: beth arall sydd angen i Lywodraeth...
Mike Hedges: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad cynghorau Cymru? OAQ(5)0021(FLG)
Mike Hedges: A gaf i ofyn am ddatganiad ar gasglu data cyfrifiad ar gyfer cyfrifiad 2021? Pa fewnbwn sydd gan naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu Lywodraeth Cymru i ffiniau ardaloedd cynnyrch ehangach haen is? Caiff y data hyn, fel y gwyddoch, eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i dargedu rhaglenni gwrthdlodi. Gall y gymysgedd a grëir arwain–fel sydd wedi digwydd yn fy etholaeth i–at sefyllfa lle...
Mike Hedges: Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi ei bod yn hollbwysig, wrth ddatganoli unrhyw drethi, i Gymru beidio â dioddef unrhyw niwed o ddatganoli’r trethi hynny? A wnewch chi bwyso am gymrodeddu annibynnol i ddatrys anghydfodau gyda'r Trysorlys? Nid wyf yn dymuno swnio'n besimistaidd, ond mae gennyf deimlad y bydd gennym ni ambell i achos o anghydfod gyda'r Trysorlys. Ac os bydd y...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y dreth trafodiadau tir. Rydym yn gwybod fod y dreth trafodiadau tir yn dreth gyfnewidiol a chylchol. Rydym yn gwybod hefyd ei bod wedi gostwng £110 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10. Rydym yn gwybod hefyd fod y gyfradd o gynyddu refeniw yn ne-ddwyrain Lloegr, yn enwedig Llundain, yn fwy nag yng...
Mike Hedges: Dyma'r ail set gylchol o ganlyniadau TGAU sydd wedi'u cyflawni ers lansio Her Ysgolion Cymru. Es i ymweld ag Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Treforys ar ddiwrnod canlyniadau’r TGAU, a chael gwybod bod Pentrehafod wedi cyflawni eu canlyniadau TGAU gorau erioed, ac y bu cynnydd o 17 y cant yn y graddau A* i C yn Nhreforys. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad am...
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yn y ddadl hon—[Torri ar draws.]