Suzy Davies: Wel, rydw i’n fwy na falch o glywed hynny, ac, wrth gwrs, hefyd, rŷm ni’n rhannu eich nod i ddatblygu defnydd y Gymraeg mewn bywyd bob dydd, hyd yn oed mewn ardaloedd di-Gymraeg. Mae cyn-weithwraig Mudiad Meithrin wedi agor siop lyfrau ddwyieithog ym marchnad dan do Caerffili, lle mae hi’n gobeithio datblygu boreau coffi, clybiau ar ôl ysgol, a sesiynau darllen i annog defnydd lleol...
Suzy Davies: Diolch eto, Lywydd. Mae Mudiad Meithrin wedi colli £470,000 y llynedd, ac yn mynd i gau’i ‘crèche’ yng nghanolfan yr Hen Llyfrgell yng Nghaerdydd oherwydd diffyg diddordeb yn y gwasanaeth. Ar yr un pryd, rwy’n clywed wrth staff y cylchoedd eu hunain eu bod nhw wedi ennill llai na’r cyflog byw yn ymarferol oherwydd na allant gwblhau eu holl waith paratoi, clirio a gwaith gweinyddol...
Suzy Davies: Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi tua £1.6 miliwn yn y cynllun sabothol i alluogi athrawon i ddysgu a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg. Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi denu llai na 250 o athrawon. Beth oedd y targed? Yn gyffredinol, a ydy’r cost o £6,400 fesul athro yn werth da am arian, ac a oes unrhyw un o’r athrawon hynny wedi symud i weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant dementia mewn ysgolion?
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant dementia mewn ysgolion?
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Dau gwestiwn, un ohonynt nad yw’n anghyfarwydd i chi. Soniais yn y Cynulliad diwethaf am y posibilrwydd i chi siarad â landlordiaid mewn ardaloedd o orgyflenwad o HMOs er mwyn iddynt allu ystyried eu trosi i mewn i gartrefi mwy parhaol ar gyfer teuluoedd un a dwy ystafell wely, os gallaf eu galw yn hynny. Tybed pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ar y cynnydd ar...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Diolch i chithau, hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Rwyf innau hefyd, yn falch o weld y cyfeiriad at ymchwil sy'n bodoli eisoes, er ei bod yn amlwg bod angen gwneud gwaith ynglŷn â hynny yn hytrach na dim ond ei derbyn fel ag y mae. Roeddwn mewn cynhadledd Cronfa'r Brenin yn Llundain yn ddiweddar a chefais y cyfle i ymgysylltu ag awdurdodau lleol o wahanol...
Suzy Davies: Mae sut y mae cwmnïau a sefydliadau’n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a thryloywder y trefniadau hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ond mae eich gwefan eich hun yn datgan: 'Ein nod yw bod yn agored ac ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau'. Gyda hyn mewn golwg, beth arall ydych chi'n feddwl y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, yn enwedig gyda'i hymgynghoriadau, i gyrraedd...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Fe sonioch am ddylanwadu ar benderfyniadau mewn mannau eraill yn ogystal, ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddech yn cytuno â mi fod yna opsiwn y dylem ei ystyried hefyd ar gyfer cynghorau ieuenctid, math o gynghorau cysgodol, oherwydd os dywedwn nad yw pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ar ein lefel ni, mewn gwirionedd rydym angen iddynt ymwneud ar lefel cynghorau hefyd.
Suzy Davies: Diolch am eich datganiad, John. Rwyf wedi cael fy nrysu ychydig gan ffigurau Mark Isherwood yn gynharach, ond yn eich araith fe sonioch fod 112 o ffoaduriaid o Syria wedi’u hadsefydlu yng Nghymru, sy’n golygu nad ymddengys fod y ffigur hwnnw wedi newid ers mis Awst, os yw hynny’n dal yn wir, ac mae’n dal i olygu nad yw 13 o’r cynghorau wedi adsefydlu unrhyw ffoaduriaid o Syria o...
Suzy Davies: Hoffwn ddweud diolch hefyd i’r comisiynydd am ei hadroddiad, a dechrau drwy ei llongyfarch am gadw o fewn ei chyllideb, yn arbed arian ar bron bob llinell ynddi. Roedd setliad ei swyddfa y llynedd yn arbennig o anodd ac mae wedi bod rhywbeth yn debyg eto eleni. Rwy’n edrych ymlaen at y manylion yn y gyllideb ddrafft. Rydym yn croesawu effeithlonrwydd, wrth gwrs, ond mae’r ffaith bod y...
Suzy Davies: Mae cadw pobl allan o'r ysbyty yn cyflwyno galw am wasanaethau gofal sylfaenol sydd eisoes o dan bwysau. Mae pobl sydd angen gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o alw ar ofal sylfaenol ac, yn ôl pob tebyg, gofal ailalluogi, na'r boblogaeth gyffredinol. Nid yw gofal cymdeithasol yn ymwneud â'r meddyg teulu yn gyfan gwbl, fodd bynnag, ac rwy’n meddwl tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ychwanegu fy llongyfarchiadau i Joyce hefyd? Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono, ond chi yn bennaf oll. Mae trosglwyddo ieithoedd o un genhedlaeth i’r llall yn tueddu i fod yn gyfrifoldeb menywod—nid yn llwyr, wrth gwrs—ond rwy’n meddwl tybed a oes rhywbeth yma a allai fod yn fantais i’r DU ar ôl gadael yr UE o ran...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Pan ddywedwch ‘yn y blynyddoedd i ddod’, pa mor hir yw hynny?
Suzy Davies: Wel, un o ddibenion Deddf awtistiaeth fyddai gwneud yn siŵr ei bod yn cynnwys pob oedran, fel bod oedran pontio o 16, 18, neu hyd yn oed 21 neu 25 mewn rhai achosion, yn amherthnasol. Mae hyn yn ymwneud ag unigolion, waeth pa mor hen ydynt, eu hawliau a’r hyn y dylent allu ei hawlio gan y gwasanaethau cyhoeddus a gweddill y gymdeithas. Saith mlynedd yn ôl, ac mae hyn yn ôl yn 2009, ar...
Suzy Davies: Weinidog, Hefin David a Julie Morgan, y rhesymau pam rydym yn gofyn am Ddeddf awtistiaeth a’r rheswm pam roedd hyn ym maniffestos y pleidiau eraill, a’r rheswm pam y mae pleidiau eraill y lle hwn o’r un farn yw nad yw’r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig wedi gweithio. Nid yw’r cynllun ar ei newydd wedd yn edrych fel pe bai’n mynd i weithio....
Suzy Davies: Mae’r YMCA, wrth gwrs, yn cynnwys pobl ifanc o bob math o gefndir economaidd-gymdeithasol ac mae ganddo hanes da iawn o weithio gyda grwpiau eraill. Gobeithiaf y byddant yn edrych ar enghraifft Matt’s Cafe yn Abertawe, sy’n gweithio gyda nifer o archfarchnadoedd i fynd â bwyd heb ei werthu i’w ddefnyddio mewn caffi cymunedol. O ystyried y cyhoeddiad ddoe fod Bwrdd Iechyd Lleol...
Suzy Davies: Ar ôl siarad â thrigolion yn yr ardal a Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y sefyllfa sy’n mynd rhagddi, credaf ei bod yn amlwg fod angen newid, a diolch am eich ymateb i’r ddadl fer yr wythnos diwethaf. Yn y cyfamser, fodd bynnag, a ydych wedi ystyried defnyddio eich pwerau o dan adran 61 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru...
Suzy Davies: Mae adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ yn datgan bod rheoli tir yn ffactor pwysig ym maes cadwraeth, gan fod dros 70 y cant o Gymru yn dir fferm. Mae rheoli, wrth gwrs, yn cynnwys rheoli diogelwch. Mae awduron yr adroddiad wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i wneud nifer o bethau, gan gynnwys cefnogi rheoli tir sy’n helpu i gynnal a gwella natur a gwydnwch ecosystemau,...