Russell George: Prif Weinidog, lansiwyd Effaith Dyffryn Hafren bron i ddwy flynedd yn ôl, yn cwmpasu ardal dyffryn Hafren. Dylwn hefyd ddatgan buddiant gan fod gennyf ran yn y prosiect. Nawr, mae'r prosiect wedi helpu mwy na 75 o bobl i ddechrau neu i dyfu eu busnesau yn fy etholaeth i. Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae i fod i ddod i ben ym mis Awst, ac mae arian...
Russell George: Yn gyntaf, hoffwn groesawu’r Ysgrifennydd y Cabinet i’w rôl newydd a diolch iddo am y datganiad y prynhawn yma ar y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd sydd ar y gorwel. Am y tro cyntaf ers 1958—ymhell cyn i mi gael fy ngeni—bydd pobl ar draws Cymru yn cael cyfle i wylio ein tîm gyda balchder mewn pencampwriaeth bêl-droed fawr, a hoffwn ymuno â chi i ddymuno’r gorau i Chris...
Russell George: Brif Weinidog, mae’r cysylltiad rhwng llygredd aer ac afiechyd, a hyd yn oed marwolaeth gynamserol, yn hysbys. Gyda hyn mewn golwg, tybed a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru, yn enwedig yn ein dinasoedd mawr yn y dyfodol.
Russell George: Brif Weinidog, nid oedd ymgyrch y Llywodraeth ddiwethaf i recriwtio meddygon yn llwyddiannus. Roedd hynny’n eglur o'r ffaith bod cael gweld meddygon teulu ar draws y canolbarth yn dod yn fwyfwy anodd. A gaf i ofyn i chi beth mae eich Llywodraeth glymblaid newydd yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael yn benodol â'r prinder meddygon mewn cymunedau mwy anghysbell ledled Cymru?
Russell George: Leanne Wood.