Jane Hutt: Mae'r pwerau yn dod yn ôl i Gaerdydd; maen nhw yn mynd i Gaeredin. Yn wir, yr hyn sydd mor bwysig am y cytundeb hwn yw y cafodd ei ddatblygu dros gyfnod hir o amser gyda negodiadau gyda Llywodraeth yr Alban, gyda Gweinidog yr Alban, ac a gydnabuwyd o ran cynnydd sylweddol gan Brif Weinidog yr Alban. A bydd y cytundeb hwn yn darparu ar gyfer pobl yr Alban, nid yn unig ar gyfer pobl Cymru....
Jane Hutt: Fe hoffwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer dadl y prynhawn yma, ac unwaith eto cydnabod y cynnydd mawr y mae'r cytundeb hwn yn ei ddarparu ar gyfer Cymru ac i'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli. Nawr, neithiwr, roeddwn yn ffodus i glywed Mark Drakeford yn annerch cynulleidfa fawr ym Mhrifysgol Caerdydd ynglŷn â Brexit a datganoli....
Jane Hutt: A wnaiff y Prif Weinidog gefnogi galwadau i wneud Cymru yn genedl undeb credyd?
Jane Hutt: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, am y pryderon cyhoeddus a gwleidyddol cyffredinol ynglŷn ag agor llosgydd y Barri, sydd wedi cael effeithiau andwyol ar y boblogaeth leol yn ystod y cyfnod cyn ei gomisiynu. Rydym hefyd yn aros am yr adolygiad o'r broses drwyddedu gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n bwysig fod gennym amserlen ar gyfer eich penderfyniad, ac a...
Jane Hutt: Diolch, Weinidog. Mae'n bwysig cydnabod cyllid Llywodraeth Cymru—y cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru—ar gyfer amddiffynfeydd hanfodol rhag llifogydd yn Nhrebefered a Llanilltud Fawr. Yn dilyn llifogydd yn y gymuned hon mor ddiweddar â 2016, gan effeithio ar gartrefi a busnesau, a allwch gadarnhau'r amserlenni ar gyfer cwblhau gwaith brys ym mhentref Llanfaes a Thregatwg yn y Barri,...
Jane Hutt: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd arfordirol a chynlluniau lliniaru llifogydd ym Mro Morgannwg? OAQ52132
Jane Hutt: 9. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i'r galw am asesiad o effaith amgylcheddol llosgydd biomas y Barri? OAQ52131
Jane Hutt: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad heddiw ac a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth, o'r diwedd, o effaith andwyol defnyddio tâp synthetig a llieiniau rhwyll y wain llawfeddygol i drin prolaps organau’r pelfis ac anymataliath wrinol sy'n gysylltiedig â straen, gan arwain at ganlyniadau ofnadwy a hirdymor i iechyd menywod, sy'n newid bywydau? Rwy'n croesawu'r...
Jane Hutt: A gaf i ofyn dim ond dau gwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet? Yr wythnos diwethaf, ymwelais i â'r grŵp arweinyddiaeth dros gyflog byw gwirioneddol a chwrdd â Chyfarwyddwyr y Sefydliad Cyflog Byw a Cynnal Cymru, sy'n ymgymryd ag achrediad cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru. Adroddir bod 143 o gyflogwyr cyflog byw achrededig gwirioneddol yng Nghymru nawr, yn y sector cyhoeddus,...
Jane Hutt: Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol mai heddiw, mewn gwirionedd, yw Diwrnod Canser yr Ofari y Byd. Ar Sul y Mamau, ymunais â channoedd o bobl eraill ar daith gerdded er cof am Lesley Woolcock o'r Barri, a oedd yn ymgyrchydd ddiflino ar ganser yr ofari a fu farw yn 2016, yn anffodus. Yn ôl Ovarian Cancer Action, canser yr ofari yw canser gynaecolegol mwyaf marwol y DU, ac mae gan y...
Jane Hutt: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ymateb i'r galwad gan Ovarian Cancer Action am archwiliad clinigol cenedlaethol o ganser yr ofari yng Nghymru? OAQ52133
Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone—
Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gydgyflwyno'r cynnig hwn, a fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi ei gefnogi. Mae tlodi misglwyf yn digwydd pan fo menywod a merched yn cael trafferth i dalu am gynhyrchion misglwyf hanfodol yn fisol gan effeithio'n sylweddol ar eu hylendid, eu hiechyd a'u lles. Dengys canfyddiadau'r elusen Plan International UK fod un o bob 10 merch wedi...
Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i hefyd groesawu adolygiad man canol cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru a lansiwyd gennyf, fel y gwnaethoch chi ddweud, yn 2012? Fe wnaethom ni ddatblygu'r cynllun er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi cyfalaf yn unol â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan. A gaf i groesawu'r £9 biliwn a...
Jane Hutt: Ymddiheuriadau.
Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, ddoe, croesewais bererindod myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; roedden nhw wedi cerdded o Ferthyr i Bontypridd ac i lawr i Gaerdydd. Roedd ganddyn nhw faneri yn dangos neges y swffragetiaid, 'Gweithredoedd nid geiriau', ac mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr o'r Coleg Celf yn Abertawe—rwy'n credu bod hwnnw yn etholaeth Mike Hedges—a chyflwynasant...
Jane Hutt: A gaf fi ddiolch i chi i gloi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma? Rydym yn ymwybodol yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'ch ymrwymiad diysgog i sicrhau'r fargen orau i Gymru yn eich negodiadau a chredaf ei bod hi'n bwysig cofio bod Ysgrifennydd y Cabinet ac yn wir y Prif Weinidog bob amser wedi dweud mai'r hyn oedd orau gan Lywodraeth Cymru oedd...
Jane Hutt: Prif Weinidog, rwy'n pryderu ynghylch y cynnig gan Gyngor Bro Morgannwg i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd yng ngorllewin y Fro, a fyddai'n arwain at gau Ysgol Gynradd Llancarfan. Dyfarnwyd bod yr ysgol yn 'dda' yn ei harolygiad diwethaf gan Estyn ac mae hi yn y categori melyn. Yn ôl adroddiad Estyn, Mae'r adeiladau a'r safle yn cynnig amgylchedd dysgu ysgogol ac amrywiol ac mae'r...
Jane Hutt: Gwnaf.
Jane Hutt: Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod, yn y rali a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, wrth gerflun Nye Bevan, lle y cynhelir cymaint o ralïau pwysig yn ein prifddinas, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, fod llawer o bobl a'r cyhoedd wedi ymuno yn y rali honno. Siaradodd Julie Morgan yn y rali yn ogystal â fi, i gefnogi achos WASPI. Ond credaf ei bod yn bwysig fod Kay wedi dweud yn ei neges i...