Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n symud y cynnig.
Jeremy Miles: Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, sef y prif reoliadau. Mae nifer o ddiwygiadau cysylltiedig eisoes wedi'u gwneud i'r prif reoliadau gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020, a osodwyd gerbron y Senedd ar 20 Chwefror 2020. Bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Ebrill eleni. Mae'r diwygiad a wneir gan y set...
Jeremy Miles: Yn sicr, nid yw'r Aelod yn obeithiol, ac nid ydym ninnau ar y meinciau hyn chwaith, fel y mae'n cydnabod yn hael iawn yn ei chwestiwn. Fel y gŵyr o'n dadleuon blaenorol yn y Siambr mewn perthynas â hyn, rydym wedi ceisio achub ar bob cyfle i nodi ein safbwynt i Lywodraeth y DU ar ran menywod yng Nghymru, ac rydym wedi derbyn ymatebion yn aml, ac wedi eu cyhoeddi. Bydd hithau, rwy'n siŵr,...
Jeremy Miles: Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod y Llys Apêl ei hun wedi rhoi caniatâd i apelio mewn perthynas â'r her pensiwn, a bydd y gwrandawiad apêl yn cael ei gynnal ddiwedd mis Gorffennaf. Er nad yw Llywodraeth Cymru yn rhan o'r cam gweithredu hwnnw, rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar sawl achlysur wrth gwrs i fynegi pryderon difrifol ynglŷn â rhagfarn yn erbyn menywod sydd wedi gweld eu...
Jeremy Miles: Wel, rydym yn cytuno â'r argymhelliad i sefydlu'r llysoedd, fel y dywedais yn fy ateb cynharach. Mae swyddogion wedi dechrau gweithio yn y maes hwn drwy drafodaethau am yr argymhelliad penodol hwnnw, yn fwyaf diweddar yng nghyfarfodydd y rhwydwaith cyfiawnder teuluol ym mis Tachwedd y llynedd, ac eto ar 4 Mawrth eleni. Mae llywydd yr adran deulu, fel y nododd yn ei chwestiwn rwy'n credu,...
Jeremy Miles: Cytunwn ag argymhelliad y comisiwn cyfiawnder i sefydlu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, ac mae gwaith eisoes ar y gweill i archwilio dichonoldeb gwneud hynny yn ogystal â'r dulliau o'i wneud.
Jeremy Miles: Yn sicr. Wel, mae'n cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, sydd i bob pwrpas, wrth gwrs, yn Fil hawliau rhyngwladol i fenywod ac yn ymgorffori'r egwyddorion cydraddoldeb y byddem yn dymuno eu gweld yn cael eu cynnal a'u hyrwyddo. A byddem yn gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw ymgais i wanhau'r Ddeddf Cydraddoldeb. Rydym wedi ceisio sicrhau,...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil i archwilio opsiynau ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae ymrwymiad cadarn i hyrwyddo'r hawliau hynny yn rhan o wead Llywodraeth Cymru ac mae'n dylanwadu'n uniongyrchol ar ein polisïau, ein deddfwriaeth a'n penderfyniadau.
Jeremy Miles: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi ceisio dylanwadu ar y drafodaeth mewn ffordd adeiladol iawn, er na fyddem wedi dymuno dechrau o'r sefyllfa hon, fel rwy'n dweud. Rydym wedi ceisio manteisio ar y cyfleoedd, fel y mae'r Aelod yn eu disgrifio, boed mewn perthynas â buddsoddi rhanbarthol, neu gymorth amaethyddol, neu newid cyfansoddiadol. Mae pob un o'r meysydd hyn yn rhai sy'n cynnig...
Jeremy Miles: Wel, mae'n ddrwg gennyf ddweud fy mod yn credu bod y cyfraniad hwnnw wedi methu cyrraedd lefel y drafodaeth, ac yn anffodus, nid yw'n adlewyrchu realiti'r sefyllfa mewn unrhyw ffordd. Yn amlwg, byddai wedi bod yn well gan Lywodraeth Cymru gael canlyniad gwahanol i'r refferendwm; mae hynny'n ffaith sydd wedi'i hen sefydlu, ond yr hyn rydym wedi'i wneud, ar bob cyfle, yw cydnabod gwirioneddau...
Jeremy Miles: Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae ef a minnau, wrth gwrs, yn anghytuno ynglŷn â gwerth yr undeb a manteision bod yn rhan o undeb i Gymru, ac a bod yn onest, fe ddylai weithredu'n well nag y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu. Ond serch hynny, mae gennym farn wahanol ar hynny. Mae'n cyfeirio at y ddadl mewn perthynas â chonfensiwn Sewel, ac fe fydd yn cofio, rwy'n credu,...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pellach hwnnw. Mae honni bod llais y Llywodraethau datganoledig wedi cael effaith sylweddol ar lunio'r mandad negodi yn chwerthinllyd, a bod yn onest. Fel y crybwyllais yn fy ateb cynharach, rydym wedi manteisio ar bob cyfle i gyflwyno'r achos ar ran Cymru. Yn ogystal â'r blaenoriaethau negodi, a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr, ar sail y datganiad...
Jeremy Miles: Yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar bob cyfle i nodi blaenoriaethau Cymru ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol i Lywodraeth y DU. Cawsom weld testun drafft ychydig ddyddiau cyn ei gyhoeddi, a chymerwyd rhan mewn cynhadledd ffôn ychydig oriau cyn y disgwylid i Gabinet y DU ei drafod. Nid oedd y testun terfynol yn adlewyrchu unrhyw...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Mae hwn yn gynnig i chwilio am bennawd gan blaid sy'n chwilio am bwrpas. Mae'n ymgais eithaf amrwd gan Blaid Brexit—ac mae'r cliw yn yr enw—i ddod o hyd i darged newydd i ymosod arno gan na allant feio'r Undeb Ewropeaidd mwyach am yr holl drafferthion. Pwy sydd nesaf ar y rhestr o dargedau? Yr union sefydliad y maent yn dewis eistedd ynddo. Ond Lywydd, mae'n ymddangos i mi...
Jeremy Miles: Yn ffurfiol.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu bod yr effaith bosibl yn sylweddol iawn. Rwy'n meddwl bod nyrsys mewn lleoliadau gofal—rwy'n credu bod tua 17 y cant yn ddinasyddion yr UE sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru. A darparwyr gofal yn fwy cyffredinol—credaf fod y ffigurau canrannol oddeutu 6 neu 7 y cant, sy'n ffigur uchel. Mae'r rhesymau y mae'n eu hamlinellu yn ei chwestiwn am ei phryder yn union yr un fath...
Jeremy Miles: Ar 28 Ionawr, croesawodd y Prif Weinidog Gydbwyllgor y Gweinidogion ar negodiadau'r UE yng Nghaerdydd; dyma'r ail dro yn unig iddo ddigwydd y tu allan i Lundain. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar y dewisiadau strategol y mae angen eu gwneud wrth bennu safbwynt negodi agoriadol a rôl y Llywodraethau datganoledig yn y negodiadau.
Jeremy Miles: Wel, buaswn yn ei gyfeirio at y strategaeth ryngwladol a'r cynllun gweithredu economaidd fel ymyriadau'r Llywodraeth er mwyn sicrhau ffyniant Cymru. Rwy'n ofni ei fod ef a minnau'n anghytuno. Nid wyf yn credu bod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn rhwystr mewn unrhyw ffordd i unrhyw un o'r cyfleoedd y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Nid oes unrhyw amheuaeth na all busnesau Cymru...
Jeremy Miles: Bydd manteision cyfleoedd newydd yn cael eu gorbwyso gan yr anfanteision sy'n debygol o ddeillio o'r telerau a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio cyfleoedd mewn perthynas â chefnogi'r economi wledig, ymagwedd newydd tuag at ddatblygu rhanbarthol a'n strategaeth ryngwladol newydd, er enghraifft, er...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu ei fod yn disgrifio mewn ffordd fyw iawn ychydig o'r pwysau a'r heriau a'r effeithiau real iawn y bydd pobl yng Nghymru yn eu dioddef, ac rwy'n credu bod ei gwestiwn yn ymateb i'r cwestiwn a ofynnodd Neil Hamilton yn gynharach. Rwy’n cytuno ag ef, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth Dai Lloyd yn gynharach, fod pobl sy’n gweithio yn y sector gofal, yn enwedig...