Andrew RT Davies: A wnewch chi gytuno, fel Prif Weinidog, i gynnull uwchgynhadledd ar y mater penodol hwn o’r holl gyrff cyhoeddus â buddiant, fel y gellir cael dull cydgysylltiedig ar ei gyfer, ar y sail ein bod ni, yn gyffredinol, ar draws y pleidiau eisiau gweld gwelliannau? Pan fo gennych chi fater iechyd y cyhoedd sy'n cymryd 2,000 o fywydau y flwyddyn yng Nghymru—heb sôn am rannau eraill o’r...
Andrew RT Davies: Fel y dywedais, mae pump o bobl yr wythnos yn marw oherwydd problemau ansawdd aer yng Nghymru—mae hynny'n 2,000 o bobl y flwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur brawychus, ac fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei nodi heddiw, dyma un o'r materion pwysicaf, os nad y pwysicaf yr ydym ni’n ei wynebu. Gwahoddwyd Llywodraeth Cymru gan raglen 'Week In Week Out' heddiw i gymryd rhan yn y rhaglen honno,...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, ceir y newyddion syfrdanol hyn heddiw bod pump o bobl yr wythnos yn marw yng Nghymru—pump o bobl y diwrnod, mae'n ddrwg gen i, yn marw yng Nghymru—oherwydd llygredd aer. Mae hwn yn ffigur brawychus y mae fy nghydweithiwr, David Melding wedi ei godi droeon yn y Siambr hon, ac arweiniodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl ar hyn ym mis Gorffennaf. Bydd...
Andrew RT Davies: Efallai mai’r hyn yr wyf i'n ceisio ei ddenu allan ohonoch chi, arweinydd y tŷ, yw dull rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i nodi nad yw'r prosesau hyn yn addas i'r diben, fel yr ydych chi wedi ei nodi bod Syr Donald wedi ei nodi yn ei asesiad ei hun o’r weithdrefn hon. Lawer gwaith, gelwir ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau ar wahanol faterion. Hoffwn i chi geisio annog Ysgrifennydd y...
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, mae'n eithaf amlwg pe na bai’r ‘Mail on Sunday’ wedi cynnal ei ymchwiliad, y byddai’r adroddiad hwn wedi cael ei gladdu yn nyfnderoedd dyfnaf adroddiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac ni fyddai wedi dod i'r amlwg. Mae arnom ni ddyled fawr o ddiolch i’r ‘Mail on Sunday’ gan eu bod wedi hysbysu’r teulu am y canlyniad, oherwydd, fel y deallaf, nid oedd y teulu...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, roeddem ni i gyd wedi’n harswydo gan y stori am farwolaeth Ellie-May Clark dros y penwythnos, a’r trychineb a arweiniodd at y gyfres o ddigwyddiadau—bod ei mam, yn amlwg, wedi mynd i’r feddygfa deulu, wedi gofyn am apwyntiad yn y pen draw ac, o ystyried hanes meddygol Ellie fach, dylai fod wedi cael ei gweld gan y meddyg teulu. Ni allai unrhyw un...
Andrew RT Davies: Weinidog, diolch i chi am roi eich atebion i’r cwestiynau brys hyd yn hyn, ac a gaf fi ymuno â chi i ganmol y gweithlu am y ffordd y maent wedi mynd ati’n benderfynol—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod beth yw’r rheswm dros y piffian, ond yn y pen draw, rwy’n meddwl bod y gweithlu wedi sefyll a gwneud eu pwynt a chadarnhau’r bleidlais heddiw mewn gwirionedd, gyda thros 70 y cant...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog—ac rwy’n sylweddoli eich bod i ffwrdd mewn cyfarfod cyllid ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gobeithio eich bod wedi cael gwybod gan eich swyddogion—fe nododd y Prif Weinidog y buasech yn cyflwyno datganiad ddiwedd yr wythnos hon yn amlinellu sut y mae’r £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi galw arnaf. Mae’n ymddangos bod y prif holwr wedi gadael y Siambr.
Andrew RT Davies: Carwn ofyn i’r Ysgrifennydd cyllid am yr adroddiad a ddaeth allan ddoe, mewn perthynas â’r fframwaith cyllidol a gyflwynwyd gennych chi, a Llywodraeth y DU, sydd â’r potensial i allu darparu £600 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i ddod. A ydych yn cydnabod y ffigur hwnnw, a’r manteision y bydd y fframwaith cyllidol yn eu dwyn i Lywodraeth Cymru, o ran...
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0089(FLG)
Andrew RT Davies: A allech gadarnhau ai dyna yw polisi'r Blaid Lafur yn Llundain yn ogystal—datganoli plismona?
Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, mewn ymateb i'r cwestiwn yr holais i'r Prif Weinidog y prynhawn yma ar ardrethi busnes, dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r wybodaeth y mae llawer o Aelodau wedi bod yn galw amdani erbyn diwedd yr wythnos hon. Roeddwn i’n gobeithio efallai y gallech chi ddefnyddio eich safle, fel arweinydd y tŷ, i geisio cael yr wybodaeth honno i ddwylo’r Aelodau yn gynt...
Andrew RT Davies: Diolch.
Andrew RT Davies: Nid wyf yn hollol siŵr pam fod y rhai ar y meinciau cefn yn mwmian yno. Mae gan Aelod hawl perffaith i ofn cwestiwn yn y lle hwn, a Chwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r amser i hynny ddigwydd. Brif Weinidog, rwyf wedi canmol Llywodraeth Cymru yn flaenorol am yr arian y mae wedi ei wneud ar gael ar gyfer rhyddhad trosiannol o ran y cynllun ardrethi busnes. Gwnaeth gyhoeddiad ar 17 Rhagfyr o swm...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, chi oedd y Prif Weinidog ar y pryd, ac rwy’n derbyn bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar risg ac y bydd rhai’n mynd o'i le, ond y pwynt yr wyf wedi ei wneud, drwy'r ddau gwestiwn yr wyf i wedi eu gofyn i chi, yw bod nifer o rybuddion yn amlygu’r risg i'r Llywodraeth ac i'r trethdalwr trwy ryddhau’r arian i’r cwmni hwn. Dywedodd Cyllid Cymru, sy’n fenthyciwr pan...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, mae'n ffaith bod, wrth i’r buddsoddiad barhau—oherwydd rhyddhawyd yr arian hwn dros amser—dro ar ôl tro, fel yr wyf wedi dweud, roedd yr arwyddion hynny yn glir iawn. Rhyddhawyd tri pwynt pedwar miliwn o bunnoedd i'r cwmni hwn, ac mae wedi cael ei golli, i bob pwrpas; ni ddiogelwyd unrhyw swyddi, mae’r safle hwnnw bellach yn wag, ac rydych chi fel Llywodraeth yn...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Brif Weinidog—diolch, Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Mae cwestiwn brys yn dod ychydig yn ddiweddarach ar ganfyddiadau Kancoat yn yr adroddiad cyfrifon cyhoeddus, ond hoffwn ofyn sawl cwestiwn i'r Prif Weinidog y prynhawn yma am y mater penodol hwn, o ystyried mai chi oedd y Prif Weinidog pan wnaed y penderfyniadau hyn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n ystyriaeth bwysig. O...
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0450(FM)
Andrew RT Davies: Nid wyf yn amau hynny. Ond os darllenwch y maniffesto, fel y nodais, mae’r maniffesto yn sôn am system fetro gogledd Cymru, ac yn awr mae’n ymddangos bod polisi’r Llywodraeth wedi symud yn gadarn i aros gyda’r dwyrain ac anghofio am y gorllewin. Fel y gwyddom, yn rhan orllewinol gogledd Cymru mae gennym y lefelau isaf o werth ychwanegol gros sydd i’w gweld yng Nghymru—ar Ynys...