Llyr Gruffydd: Rwyf am godi mater cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd cefn gwlad gyda chi, os caf i. Mae yna feddygfa yn fy rhanbarth i, yng Nghorwen, sy’n gwasanaethu 4,000 o bobl, yn yr ardal sy’n ffinio Gwynedd, Conwy a sir Ddinbych. Mae’n ardal wledig iawn, lle maen nhw wedi bod yn derbyn grant gwledig gan y bwrdd iechyd lleol i sicrhau bod y gwasanaeth yna yn gynaliadwy. Maen nhw...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Roedd hi’n ddiddorol nodi bod eich Ysgrifennydd economi chi wedi bod yn awyddus iawn i weld datblygu canolfan confensiwn digwyddiadau pellach yng Nghaerdydd yn ddiweddar, er bod gyda ni Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Dinas Caerdydd a’r Motorpoint Arena. Mae gyda ni Ganolfan y Mileniwm, mae gyda ni ganolfan gonfensiwn yng Nghasnewydd jest lawr y ffordd, ac mae...
Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr isadeiledd chwaraeon yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0693(FM)[W]
Llyr Gruffydd: Ond mae pedwar mis ers i chi ddweud wrthyf eich bod yn ceisio camu ymlaen gyda’r agenda hon, ac o ystyried, unwaith eto, y data a’r ystadegau sydd gennym, yn amlwg, mae amser yn brin. Felly, nid wyf am bwyso arnoch ymhellach ynglŷn â hynny heddiw, ond yn amlwg, mae neges yno y mae angen gwrando arni. A gaf fi newid cyfeiriad ychydig bach ar gyfer fy nghwestiwn olaf? Bydd yn dod yn glir,...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb, ond rwy’n credu ei bod yn amlwg i bawb fod yr ystadegau’n adrodd stori glir fod gennym weithlu sydd ar ei liniau o ran brwydro i ymdopi â’r gwaith sy’n eu hwynebu. Nawr, mae’n amlwg fod colli cymaint o ddyddiau addysgu yn arwain at nifer o effeithiau, nid yn lleiaf ar yr unigolyn sy’n absennol o’r gwaith. Mae’n tarfu ar addysg y plant, cyllid...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod wedi gweld y ffigurau gan NUT Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sy’n dangos bod 0.25 miliwn o ddiwrnodau addysgu yn y pedair blynedd ers 2012 wedi’u colli o ganlyniad i salwch sy’n gysylltiedig â straen yng Nghymru. Byddwch hefyd yn ymwybodol, rwy’n siŵr, fod darlithwyr coleg yng Nghymru yn mynd ar streic yfory,...
Llyr Gruffydd: A gaf i hefyd groesawu’ch datganiad chi y prynhawn yma, a chroesawu unwaith eto’r ffaith bod cymhwysedd digidol yn agwedd trawsgwricwlaidd ac yn rhan ganolog o gynlluniau addysg y Llywodraeth yma? Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw yn y gorffennol i lythrennedd digidol gael ei ystyried yn gyfartal â llythrennedd a rhifedd. Yn amlwg, felly, rŷm ni’n croesawu pob symudiad pellach...
Llyr Gruffydd: Mae rheolau a rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, wedi bod yn bennaf gyfrifol am y trawsnewidiad rydym ni wedi ei weld yn ansawdd dŵr nofio a glendid traethau a’r ffaith bod cynifer nawr o’n traethau ni yn y gogledd â statws baner las, sydd wedi bod yn ffactor bwysig iawn o safbwynt denu twristiaid. Gan ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, a bod Brexit yn dod,...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig yng Ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: A gaf innau ddatgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol hefyd, ar y cychwyn fel hyn? Yn amlwg, mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r alwad am ddeddfwriaeth o’r fath ers nifer o flynyddoedd, ac felly rydym ni am gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil y prynhawn yma. Ond nid yw hynny yn dweud, wrth gwrs, nad oes angen gwella a chryfhau’r Bil mewn mannau, fel sydd yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad...
Llyr Gruffydd: Os ydym ni o ddifri, wrth gwrs, am fynd i’r afael â newid hinsawdd fel un o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth, yna mae’n rhaid i ni, yn y lle cyntaf, leihau ein defnydd o ynni—dyna’r man cychwyn bob tro, pan mae’n dod i bolisi ynni—ond wedyn cynyddu, wrth gwrs, y gyfran o ynni sy’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Nod Plaid Cymru, er mwyn ein galluogi...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Dywedodd Donaldson, wrth gwrs, yn ei adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’, mai anfodlonrwydd gyda’r trefniadau asesu cyfredol oedd un o’r negeseuon cryfaf a gafodd. Felly, mae’n dda gweld hynny’n cael sylw, ac rwy’n ofni defnyddio’r gair ‘profion’ yn awr braidd, ar ôl y drafodaeth honno. Mae wedi cael ei wyntyllu’n...
Llyr Gruffydd: Rydym ni’n gwybod y bydd yna symiau sylweddol yn cael eu buddsoddi nawr yn sgil y cais twf yma yng ngogledd Cymru, ond mae’r awdurdodau lleol, wrth gwrs, wedi dod at ei gilydd i greu cydbwyllgor a fydd yn goruchwylio’r broses yna. Ond a gaf i ofyn sut byddwch chi fel Llywodraeth yn sicrhau bod y buddsoddiadau yma yn adlewyrchu eich blaenoriaethau strategol chi yng ngogledd Cymru a ddim...
Llyr Gruffydd: Tra ei bod hi’n berffaith iawn, wrth gwrs, inni ddenu pobl i ddod i ddathlu a dod yn fwy ymwybodol o’r chwedloniaeth a’r storïau sydd gennym ni i’w dweud yng ngogledd-ddwyrain Cymru—i gyfeirio yn ôl at y cwestiwn gwreiddiol—mae yna farchnad sylweddol hefyd, wrth gwrs, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac, yn aml iawn, nid yw pobl leol wastad yn gwerthfawrogi yr hanes a’r asedau...
Llyr Gruffydd: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn i allu cyfrannu i’r ddadl yma’r prynhawn yma. Fel rhywun sy’n dad i blant sy’n dod i oed lle mae ganddyn nhw nawr bresenoldeb ar-lein ac ar wefannau cymdeithasol, rwy’n gallu uniaethu gyda rhai o’r sylwadau agoriadol a wnaethpwyd i’r ddadl yma. Wrth gwrs, rwyf i o genhedlaeth nad oedd wedi tyfu i fyny â gwefannau cymdeithasol yn...
Llyr Gruffydd: Rŷch chi’n berffaith iawn i ddweud, wrth gwrs, na ddylem ni dwyllo’n hunain i feddwl bod y sefyllfa wedi’i datrys, oherwydd mi ges i gyfarfod reit frawychus, a dweud y gwir, gyda gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal yng ngogledd Cymru rhyw wythnos neu ddwy yn ôl, ac roedden nhw’n sôn mai, wrth gwrs, diffyg capasiti, diffyg gwlâu a diffyg staffio yw un o’r problemau...
Llyr Gruffydd: Mae cyngor Wrecsam yn gwario rhyw £200 miliwn y flwyddyn ar gaffael gwasanaethau a nwyddau trwy gaffael cyhoeddus, ond mae llai na chwarter hwnnw, fel sydd yn rhy gyffredin ar draws Cymru, gyda chwmnïau o fewn y sir, a llai na hanner, neu tua hanner, yn mynd i fusnesau yn Lloegr. Nawr, mae hynny’n golled o ryw £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae yna datws ar gyfer cinio ysgol yn...
Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru? OAQ(5)0171(EI)[W]
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac ategu ei diolch hi hefyd i’r bwrdd cysgodol am eu gwaith nhw hefyd? Rydych chi yn cyfeirio yn y datganiad eich bod dros y pum mlynedd nesaf wedi ymrwymo i ddatblygu ‘approach’ cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Rwy’n gwybod eich bod wedi cyfeirio at hyn yn y gorffennol, ac mi fydd hyn yn newyddion da i’r...