Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Huw, am gyflwyno’r ddadl fer hon heddiw. Yn amlwg, rydym wedi bod yn cael trafodaethau cyfochrog â’r cyrff unigol a grybwyllwyd gennych, felly nid ailadroddaf unrhyw beth rydych wedi’i ddweud ar wahân i annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried rhai o’r awgrymiadau a gyflwynodd Huw Irranca-Davies. Un o’r pwyntiau a nodwyd wrthyf oedd y gellid...
Suzy Davies: Rwy’n brin o amser braidd, felly os gallwch fod yn gyflym. Diolch.
Suzy Davies: Yr hyn y mae’n ei ddangos i mi yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn hawdd i unrhyw un adeiladu tai cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae datblygwyr yn hoffi adeiladu ystadau tai mawr, heblaw pan fo dirywiad yn yr economi pan fyddant yn wynebu llawer o risg. Yr hyn y maent yn ei hoffi, yn enwedig y math o ddatblygwyr llai o faint sydd gennym yma yng Nghymru, yw’r gwaith...
Suzy Davies: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r ddadl hon yn ymwneud â chyflenwad—cyflenwad o dai fforddiadwy mawr eu hangen. Rwy’n cydnabod, ac wrth gwrs, yn derbyn bod yna safbwyntiau gwahanol ar hyn, gyda rhai ohonynt yn seiliedig ar ideoleg a rhai’n seiliedig ar brofiad, ond nid oes yr un o’r cyfraniadau a...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad. Ar eich pwynt olaf yn unig fod gostyngiad o 50 y cant yn golygu bod y tŷ ond yn werth hanner ei werth gwreiddiol. Yn anochel, mae gwerth tŷ sydd ar werth yn mynd i fod yn uwch na’i gostau adeiladu, felly, er bod gennych bwynt cyffredinol efallai nad oes angen i ddisgownt fod yn rhy hael, mae’n ddrwg gennyf ond mae cymharu cost adeiladu â chost...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, mae adolygiadau diweddar o’r llenyddiaeth wedi cadarnhau bod teleseiciatreg yr un mor effeithiol ag ymgynghoriadau seiciatrig wyneb yn wyneb ar gyfer gwneud asesiad diagnostig, a’i fod cystal, o leiaf, ar gyfer trin anhwylderau megis iselder ac anhwylder straen wedi trawma, a gall fod yn well na thriniaeth wyneb yn wyneb i rai grwpiau o gleifion, yn enwedig plant,...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Jest rhowch eiliad i fi ffeindio fe.
Suzy Davies: Diolch am yr ymateb yna, Weinidog y Cabinet, ac am eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf. Diolch i chi, Lywydd, hefyd, am ganiatáu’r cwestiwn brys fel y gellid craffu ar y datganiad yn gynnar. Fel Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddai gennym unrhyw wrthwynebiad i gyrff a noddir neu gyrff o fewn y Llywodraeth yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfleoedd i wella’r holl weithgareddau...
Suzy Davies: Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gwestiynau yr wythnos diwethaf fod Aelodau'r Cynulliad braidd yn anniddig nad oeddem ni’n clywed llawer gan fwrdd y cytundeb dinas, ond rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael briff cryno ganddo erbyn hyn. O hynny, mae'n ymddangos mai eu pryder mawr ar hyn o bryd yw’r mater o lywodraethu yn y tymor byr i’r tymor canolig, ac maen nhw wedi bod yn...
Suzy Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0180(FM)
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw? EAQ(5)0053(EI)
Suzy Davies: Diolch, Weinidog. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Suzy Davies: Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl.
Suzy Davies: Diolch. A hoffech chi gynnig munud o’ch amser i siaradwyr eraill heddiw?
Suzy Davies: Ocê. Galwaf ar Mike Hedges.
Suzy Davies: Symudaf yn awr i’r ddadl fer, a galwaf ar Eluned Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi.
Suzy Davies: Diolch, Lywydd, a diolch am hynny hefyd, Bethan. I hope, actually, that the Assembly is rather inspired by the way that this committee is attempting to engage more widely, and by that I mean engagement being a two-way process. It’s one of those jargon words we kind of take for granted, actually, but this isn’t just about this committee trying to seek information or ideas from outside this...
Suzy Davies: Diolch am yr ymateb hynny. Rwy’n falch o glywed hynny, ond rwyf wedi cysylltu’n ddiweddar â chwmni Ynni Cymru, sydd wedi derbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi busnesau newydd yng Nghymru, a byddai’r cymorth yn cynnwys cyngor ar gymwysterau galwedigaethol defnyddiol. Nid oes gan y cwmni bolisi iaith Gymraeg, na dealltwriaeth o uchelgeisiau eich...
Suzy Davies: Mae adroddiad yr Athro Davies yn argymell y dylai cymwysterau ôl-16 gael eu diwygio i ddatblygu sgiliau iaith lafar well sy’n addas ar gyfer y gweithle. Mewn ymateb i hyn, dywedodd Llywodraeth Cymru eich bod ‘yn gweithio gyda Sefydliadau Dyfarnu a rhanddeiliaid eraill’. Pwy yw’r rhanddeiliaid eraill hynny? A ydych chi, er enghraifft, wedi bod yn siarad â Tata Steel, Tidal Lagoon...