Jane Hutt: Hoffwn dalu teyrnged i fenywod yn fy etholaeth, Bro Morgannwg, yr effeithir arnynt gan anghydraddoldeb pensiwn, ac ymrwymo eto heddiw i barhau i'w cefnogi, a'u croesawu yma heddiw yn yr oriel. Roeddwn yn falch iawn o gynnal cyfarfod yn y Barri y llynedd, yng Nghanolfan Gymunedol Highlight Park, a chefnogi ymgyrchwyr fel Kay Ann Clarke, a ddaeth â menywod at ei gilydd i ddysgu mwy am yr...
Jane Hutt: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ac o gofio natur anrhagweladwy'r canlyniadau yn y negodiadau Brexit, ceir meysydd, wrth gwrs, lle mae argymhellion a safbwyntiau'r pwyllgor eisoes wedi cael eu goddiweddyd. Roedd hi'n ddefnyddiol cael cadarnhad ynghylch cyfnod pontio ym mis Mawrth, gan fod hyn yn ansicr ar yr adeg y...
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, fel rydym wedi'i glywed heddiw, mae'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn faes hollbwysig yn eich portffolio, ac rwy'n croesawu'r ffordd rydych yn ymgysylltu mor llawn yn y maes polisi hanfodol hwn. Mae gan y Ddeddf hon dri diben: atal, diogelu a chefnogi, ac ym mis Tachwedd siaradais yn nigwyddiad aml-ffydd blynyddol Cynnau Cannwyll...
Jane Hutt: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar y ffaith mai un o'r prif resymau dros ddyledion cynyddol yn y DU yw effaith andwyol toriadau pellach Llywodraeth y DU i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill? Dyma’r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn y degawd diwethaf. Maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd, gyda thoriadau o £2.5 biliwn i fudd-daliadau...
Jane Hutt: 3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 dair blynedd ers ei chymeradwyo? OAQ51978
Jane Hutt: Rwy'n credu, arweinydd y tŷ, bod Cymru wedi'i hystyried fel arweinydd y byd o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae gennym gyfle bellach i wneud cynnydd eto trwy gychwyn dyletswydd economaidd-gymdeithasol Deddf Cydraddoldeb 2010, a fydd yn bŵer datganoledig ar 1 Ebrill. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Harriet Harman, cyn-Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, sydd wedi...
Jane Hutt: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r cynlluniau trafnidiaeth cymunedol gwirfoddol sy'n gwasanaethu fy etholaeth, Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys—DPVC—a Trafnidiaeth Gymunedol Dwyrain y Fro, sydd hefyd yn gwasanaethu etholaeth Vaughan Gething. Mae'r olaf yn elusen fach a sefydlwyd ym 1986 ym Mhenarth, ac mae'n gwasanaethu'r gymuned yn nwyrain y Fro rhwng...
Jane Hutt: Diolch, Weinidog, oherwydd roeddwn am ofyn i chi a allech gadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynglŷn ag effaith andwyol rhagor o doriadau i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill. Y rhain yw'r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn ystod y degawd diwethaf, ac maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd. A chyda gwerth...
Jane Hutt: Diolch, Weinidog. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn mynd ar drywydd hynny? Fe ddywedoch eich bod wedi cael ymateb gan y cwmni. Oherwydd, yn amlwg, mae pobl y Barri yn awyddus i wybod a fyddwch yn gofyn am asesiad o'r effaith amgylcheddol ar y cais cynllunio diweddaraf hwn i Gyngor Bro Morgannwg. Rwy'n deall hefyd fod asesiadau effaith amgylcheddol yn ofynnol yn awtomatig pan fydd...
Jane Hutt: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y broses asesiadau effaith amgylcheddol sy'n berthnasol i losgydd biomas Barri? OAQ51932
Jane Hutt: 3. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r newidiadau i fudd-daliadau oedran gweithio a chyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru o 1 Ebrill 2018 ymlaen? OAQ51933
Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu cynllun didyniad o'r gyflogres yr undeb credyd, a gefnogir gan Michael Sheen. Bûm yn siarad yn y digwyddiad lansio yr wythnos diwethaf yn Capital Law. A wnewch chi egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r fenter hon ledled Cymru, sydd o fudd i gyflogwyr a chyflogeion yn y farchnad lafur? A gawn ni hefyd ddatganiad ar yr alwad gan...
Jane Hutt: Gwnsler Cyffredinol, ddoe, croesewais y gyfraith sy'n deillio o Fil yr UE (Cymru), gan gyfeirio'n benodol at adran 7, sy'n caniatáu i gyfraith Cymru sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â siarter hawliau sylfaenol Ewrop, nad yw'n cael ei throsi i gyfraith y DU drwy Fil ymadael â'r UE. A ydych yn cytuno bod y siarter yn hanfodol i ddiogelu cydraddoldeb ac amddiffyniad hawliau...
Jane Hutt: Roedd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar negodiadau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ynglŷn ag Ewrop yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, yn ddefnyddiol iawn, ac rydym yn sylweddoli pa mor bwysig, mewn gwirionedd, fydd cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yfory. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddatganiad fod pawb ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd)...
Jane Hutt: Hoffwn hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a chroesawu’r canlyniad cadarnhaol iawn, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu. Yn wir, rwy’n cofio’r ymgyrchu’n dechrau pan oeddwn i'n Weinidog iechyd yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Rwyf wedi bod yn cefnogi fy etholwyr, fel y mae llawer ar draws y Siambr hon, ac rwyf eisiau sôn dim ond am Pat a Tony Summers—eu cefnogi dros...
Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, a gaf i groesawu unwaith eto y datganiad a wnaed gan Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yr wythnos diwethaf ar y polisi urddas a pharch? Ac a wnewch chi egluro pa un a oes dyddiad wedi'i neilltuo ar gyfer y ddadl ar y polisi, er i'r holl Aelodau ei chefnogi? Ac a fydd arweinydd y tŷ yn ystyried cyllido arolwg Cymru gyfan ar aflonyddu rhywiol, fel a...
Jane Hutt: A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor safonau am ei datganiad a diolch i'r Llywydd yn wir, a phob un o'r pedwar arweinydd am eu datganiad diweddaru ar urddas a pharch a gyhoeddwyd ar 16 Chwefror. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y ffaith bod hyn yn cael ei gyflwyno ar sail drawsbleidiol. Fel y dywedodd Paul Davies, mae'n hollbwysig ei fod yn cael ei wneud felly os ydym i wneud cynnydd. Rwy'n...
Jane Hutt: Ddoe, buom yn dathlu Wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy ddadorchuddio'r plac porffor cyntaf yng Nghymru er cof am yr Aelod Cynulliad Llafur dros Ddwyrain Abertawe, y diweddar Val Feld. Roedd Val Feld yn hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol cyn iddi ddod yn AC a chefnogai ddatganoli'n frwd fel trysorydd yr ymgyrch 'Ie dros Gymru' a arweiniodd at refferendwm 1997. Roedd Val yn gweld...
Jane Hutt: Ac yn olaf, deallaf fod adroddiad cabinet diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg yn dangos cyfraniad cyfalaf mwy gan Lywodraeth Cymru, a bod y cynlluniau ar gyfer 2017 ymlaen yn dangos gostyngiad gan gyngor y Fro o ran—[Torri ar draws.]
Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Cyngor Bro Morgannwg wedi ysgrifennu at bob rhiant yn y sir ynghylch ariannu ysgolion. Diolch am eich ymateb i mi mewn perthynas â'r mater hwn. Mae eich llythyr i mi yn egluro nifer o bwyntiau mewn gwirionedd, ac rydych wedi eu nodi unwaith eto wrth ymateb i mi, ac mae'n egluro'r sefyllfa parthed rôl Llywodraeth Cymru ym...