Canlyniadau 1301–1320 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

9. 8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (18 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Cadeirydd. Rhoesom adroddiad ni ar y Bil hwn ar 7 Gorffennaf, a gwnaethom bum argymhelliad i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyffredinol, roeddem ni’n fodlon ar y cydbwysedd a sicrhawyd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn sydd wedi’i adael i’r is-ddeddfwriaeth, a hefyd bod hawliau dynol yn cael eu cynnwys fel y nodir yn y memorandwm esboniadol a thystiolaeth Ysgrifennydd y...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Coleg Cymunedol y Dderwen
(18 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Rwyf wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi gweld yr adroddiad hwnnw, a bydd yn nodi mai sylwadau Nick Brain, pennaeth gweithredol yr ysgol, oedd eu bod nhw wedi hedfan allan o fesurau arbennig. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn ddigynsail hyd yn oed—mae’r newid wedi bod yn anhygoel. Rwy’n cofio yn fuan ar ôl y sefyllfa ‘bron iawn yn argyfwng’ yr aeth yr ysgol iddi, y pennaeth yn...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Coleg Cymunedol y Dderwen
(18 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad monitro diweddar Estyn ar Goleg Cymunedol y Dderwen? OAQ(5)0733(FM)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Grantiau Datblygu Disgyblion yn Etholaeth Ogwr
(12 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Yn wir, ac rwy’n llongyfarch pawb yn yr ysgolion sy’n gweithio gyda phlant, gyda manteision sylweddol, oherwydd yr anfantais y gallent ei hwynebu, ond hefyd y staff addysgu a’r staff cymorth sy’n gweithio gyda hwy i gynhyrchu’r canlyniadau ardderchog hyn. Ac nid oes unrhyw amheuaeth fod y grant datblygu disgyblion yn adnodd hynod werthfawr sy’n rhoi cymorth ariannol i ysgolion...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Grantiau Datblygu Disgyblion yn Etholaeth Ogwr
(12 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y grantiau datblygu disgyblion yn etholaeth Ogwr? OAQ(5)0160(EDU)

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
(11 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu'n fawr y newyddion heddiw yr ydym ni wedi ei gael y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, Greg Clark, yn cyfarfod â dirprwyaeth drawsbleidiol o Gadeiryddion pwyllgorau blaenllaw yma i hyrwyddo’r achos, unwaith eto, dros y morlyn llanw. Diolchaf iddo am y cwrteisi y mae wedi ei ymestyn i’r ddirprwyaeth drawsbleidiol honno. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod ein bod wedi cael dadl...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Prosiectau Adfywio ( 5 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i chi, David, am grybwyll coetir Ysbryd Llynfi. Roedd yn ymweliad gwych ac rwy’n falch eich bod yn hapus iawn gyda’r hyn a weloch yno. Rwy’n credu ei bod yn un ffordd bosibl ymlaen o ran adfywio. Byddaf yn cefnogi gwelliant 1, er gwaethaf protestiadau gan Russell, gan fy mod yn credu ei fod yn adlewyrchu teimladau Llafur ar adfywio yn well, ac yn...

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad:
Interniaethau â Thâl
( 5 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch i’r Llywydd. Diolch, Elin, am eich ymateb. Rwy’n falch o weld nad ydych wedi cau’r drws ar y syniad. Credaf ei fod yn werth ei archwilio. Eleni, mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi cyflwyno’r cynllun hwn, ac mae’n ymgais i oresgyn y problemau symudedd cymdeithasol gydag interniaethau a lleoliadau. Yn rhy aml o lawer, fel y gwyddom, mae lleoliadau yn tueddu i ffafrio’r...

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad:
Interniaethau â Thâl
( 5 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: 2. A wnaiff y Comisiwn archwilio rhinweddau sefydlu cynllun lleoli Llywydd er mwyn gwella argaeledd interniaethau â thâl gydag Aelodau’r Cynulliad? OAQ(5)009(AC)

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Na, na. Credydau treth arloesi’n cymryd drosodd o ble yr ydym â'r credydau treth ymchwil a datblygu, i wneud iawn am y diffyg sydd gennym yng Nghymru o ran arloesi ac ymchwil a datblygu; ardoll datblygu'r gweithlu, a fyddai, i bob pwrpas, yn cymryd lle’r ardoll prentisiaethau—a gwyddom am rai o'r anawsterau gyda hynny, a byddem yn cymryd rheolaeth; a'r rhai eraill a nodwyd, ond gadewch...

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Fel llawer o bobl eraill, rwy’n croesawu’r ddadl hon yn gynnes. Rwy’n croesawu’r ddadl, oherwydd mae wedi rhoi rhyddid inni, fel Cynulliad, i grwydro ychydig a dweud, ‘Wel, dydyn ni ddim yn ofni taflu rhai o'r pethau hyn allan i'r agored,’ mewn ffordd, rhaid imi ddweud, sydd wedi darogan hyn gyda'r dreth ar gyfer da. Dyna’r ateb, Mark, yr oeddech yn chwilio amdano. Nid dim ond...

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?

8. 7. Dadl: Ystyried yr Achos dros Drethi Newydd yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Huw Irranca-Davies: Tybed, wrth i’r Gweinidog amlinellu’r ystod honno o feini prawf sy’n gorfod mynd heibio i Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi—ac mae’n hollol iawn y byddent am graffu ar hyn, neu yn ei eiriau ef, y byddem yn dymuno profi'r system—y pryder yw ei bod yn swnio'n debyg i hen broses y Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol mewn rhai ffyrdd, gan ei bod yn hynod simsan, ac y gallai fod gan y...

6. 6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru (28 Meh 2017)

Huw Irranca-Davies: Mae’n ddrwg gennyf. Diolch i chi am ildio ar yr eitem honno. Yn wir, mae’n rhoi cyfle efallai inni wneud rhagor, ond i fynd ar ôl pwynt Simon, pan grybwyllodd hyn, rwy’n meddwl, yn ei gyfraniad, mewn gwirionedd, rydym eisoes wedi dangos bod yna wledydd eraill yn fframwaith cyfredol yr UE sy’n gallu gwneud hynny. Yn wir, arweiniodd Llywodraeth Cymru ar y gwaith ar hynny, gyda’r...

6. 6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru (28 Meh 2017)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Mike Hedges ar gymryd cadeiryddiaeth y pwyllgor hwn, a hefyd am araith gyntaf dda iawn yma yn y Senedd yn cyflwyno’r adroddiad hwn? A gaf fi ddiolch i’n cyn-Gadeirydd hefyd? Yn groes i unrhyw sibrydion, ni chafodd ei hel ymaith—roeddem yn gwneud gwaith da yno, a llywyddodd dros waith da yn yr adroddiad hwn, a thros waith blaenorol a wnaethom hefyd,...

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effeithlonrwydd Ynni (28 Meh 2017)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl hon, ac a gaf fi ddiolch i gyd-Aelodau—Jeremy Miles, Simon Thomas, Lee Waters—sydd wedi rhoi eu cefnogaeth i’r ddadl hon heddiw hefyd, ac i eraill a allai fod yn siarad? Ond a gaf fi ddiolch hefyd i weision cudd y tŷ yn yr uned ymchwil yn ogystal, oherwydd, wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, bydd unrhyw beth y byddaf yn ei ddweud...

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effeithlonrwydd Ynni (28 Meh 2017)

Huw Irranca-Davies: Y gyntaf yw’r nodweddion, fod seilwaith yn cael ei ddisgrifio’n gyffredinol fel ‘cyfalaf’ neu ‘yn ymwneud â strwythurau ffisegol’. Ond yn ail, y swyddogaethau, ac roeddent yn cyfeirio at y ddau ddiffiniad diweddaraf gan Drysorlys y DU a Chomisiwn Twf Ysgol Economeg Llundain, a ddisgrifiodd seilwaith fel mewnbwn i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau a’r gofyniad ar gyfer...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Diwydiant Pysgota
(28 Meh 2017)

Huw Irranca-Davies: Rwyf wedi gweld y gwaethaf o drafodaethau pysgodfeydd Ewropeaidd, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi ddweud mai nonsens llwyr yw dweud nad yw wedi bod yn llwyddiant. Oherwydd, yn ôl yng nghanol y 1970au, roedd cyfanswm y penfras a ddaliwyd ym môr y Gogledd yn 270,000 tunnell. Erbyn 2006, roedd wedi gostwng i 44,000 tunnell o ganlyniad i orgynhyrchu a gorbysgota am stoc...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (28 Meh 2017)

Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ceisiadau a gaiff eu hystyried ar gyfer y gronfa 'Adeiladu ar gyfer y Dyfodol'?

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.