Llyr Gruffydd: Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y diswyddiadau posibl ym Mhrifysgol Aberystwyth? TAQ(5)0130(EDU)[W]
Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am eich ateb. Mae’r brifysgol, wrth gwrs, wedi cyfeirio at y gystadleuaeth am fyfyrwyr—gostyngiad o 8 y cant yng ngheisiadau i astudio yng Nghymru, a Brexit, ymhlith ffactorau eraill, sydd yn dylanwadu ar y sefyllfa maen nhw’n ffeindio eu hunain ynddi hi. Ond y pwynt pwysig i fi fan hyn, wrth gwrs, yw nad un achos sydd gyda ni, ond rydym ni wedi clywed yn yr wythnosau...
Llyr Gruffydd: Yn eich geiriau eich hun, rydych yn edrych ar nifer o faterion, ond yn y cyfamser rydych yn rhuthro tuag at y diwygiadau i’r cwricwlwm y mae llawer ohonom wedi rhybuddio eu bod yn cronni problemau, gan nad oes capasiti yn y system fel y mae ar hyn o bryd i’r athrawon ymdopi â’r diwygiadau enfawr sydd ar y gweill. A gelwais arnoch eisoes i ymatal rhag cyflwyno’r cwricwlwm yn ôl yr...
Llyr Gruffydd: Ie, ac os ydych yn mynd ar drywydd profion, yn amlwg, fel y dywedais mewn ymateb i’ch cyhoeddiad, byddai unrhyw beth sy’n helpu i leihau llwyth gwaith athrawon—er enghraifft, drwy brofion ar-lein—yn rhywbeth i’w groesawu, cyhyd â’n bod yn gwylio rhag datblygu diwylliant ‘cyfrifiadur yn dweud ie neu gyfrifiadur yn dweud na’. Mewn perthynas â phwysau llwyth gwaith ar y...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae disgyblion ledled Cymru, wrth gwrs, dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn sefyll eu profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, ac mae tystiolaeth yn dangos i ni fod profion safonedig arbenigol yn culhau’r cwricwlwm ac yn effeithio’n negyddol ar greadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at y perygl o addysgu plant ar gyfer y prawf, ac...
Llyr Gruffydd: Bydd fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw yn canolbwyntio’n bennaf ar yr angen am fwy o gynllunio sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru yn y sector adeiladu os ydym am sicrhau’r budd gorau posibl ar gyfer pobl Cymru o ran creu swyddi, defnyddio’r gadwyn gyflenwi leol a buddsoddi mewn sgiliau, fel y gallwn ateb gofynion ein prosiectau seilwaith sydd ar y ffordd. Mae pwysigrwydd cynllunio...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich sylwadau. Rwy’n mwynhau eich cyfraniad yn fawr, ond onid ydych, felly, yn difaru eich bod mewn gwirionedd wedi cefnogi targedau cymedrol iawn o ran newid rheoliadau o dan y Llywodraeth ddiwethaf, pan oedd eraill o’n plith yn dadlau dros gryfhau’r rheoliadau hynny?
Llyr Gruffydd: Wrth gwrs, mae ansawdd yr un mor bwysig â maint, ac rydym yn gwybod bod llithro ar ôl yn gynnar, yn arbennig o ran datblygiad gwybyddol, yn gallu effeithio ar blant am amser hir, yn enwedig yn ddiweddarach yn eu plentyndod, ac yn wir yn ddiweddarach mewn bywyd. Rwyf wedi pwyso arnoch o’r blaen ynglŷn â’r cynllun ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, ac fe...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, oherwydd yn flaenorol, wrth gwrs, roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gwrthod ymateb, oherwydd ei bod hi’n gofidio, efallai, y byddai’n gorfod bod yn ymwneud â rhyw benderfyniadau ynglŷn â dyfodol y diwydiant dŵr. Mi gyfeirioch chi at swyddi—a gaf i ofyn pa sicrwydd mae hi, felly, wedi’i dderbyn yn ei thrafodaethau y bydd lefel y swyddi a oedd yn...
Llyr Gruffydd: 5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal â Severn Trent ynghylch gwasanaethau dŵr yng Nghymru? OAQ(5)0125(ERA)[W]
Llyr Gruffydd: [Yn parhau.]—rŷch chi wedi ei ddweud yw’ch gweledigaeth. Diolch.
Llyr Gruffydd: [Yn parhau.]—yw, os ydych chi eisiau codi’r bar o safbwynt ansawdd, yna mae’n rhaid i’r adnoddau a’r arian fod ar gael i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid dosbarthu’r adnoddau’n deg yn ddaearyddol a rhwng y sectorau gwahanol. Mae’r ystadegau y mae’r pwyllgor wedi’u gweld ynglŷn â’r dirywiad yn lefel y buddsoddiad, ynglŷn â dirywiad yn lefel y staffio, ac yn y...
Llyr Gruffydd: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddatgan diddordeb fel un o lywyddion anrhydeddus CWVYS, wrth gwrs, os caf i? A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Roedd rhan ohonof i wedi disgwyl bach mwy o gig ar yr asgwrn heddiw, mae’n rhaid i mi fod yn onest. Roeddwn i wedi disgwyl efallai ymateb bach yn fwy clir o safbwynt y cyfeiriad a’r strategaeth genedlaethol ar gyfer gwaith...
Llyr Gruffydd: A gaf innau hefyd gyfeirio at adroddiad Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru? Mae yna 39 o argymhellion yn fan hyn, a mi fyddai’r Prif Weinidog yn gwneud yn dda i ystyried yr adroddiad ac i fyfyrio ar yr argymhellion mewn rhyw fath o agenda i fynd â’r afael ag iechyd plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ymhlith yr argymhellion, wrth gwrs—ac un maes allweddol yn y...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith ardrethi busnes ar farchnadoedd da byw yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol, wrth gwrs, i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i grwpiau penodol o blant. Fel y clywom ni gan y Cadeirydd, nid ‘optional extra’ yw hynny, ond, yn anffodus, nid yw lleisiau’r plant hynny ddim wedi cael eu clywed fel y dylen nhw pan fo nhw wedi bod ar eu mwyaf agored i niwed. Mi glywom ni gyfeiriad at y gyfres o adroddiadau, a’r gyfres...
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu rhanbarth Merswy Dyfrdwy?
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Well, you make a valid point. ‘Some inconsistency’ was the term you used, but we’re talking here of almost double the spend in some areas as compared with others. So, what I was trying to ask was: what can we do to try and bring some consistency to that picture? There’s no doubting that the financial pressure is very grave and it’s going to lead to significant problems in the...