Canlyniadau 1301–1320 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ariannu Ysgolion ym Mro Morgannwg ( 7 Maw 2018)

Jane Hutt: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu ysgolion ym Mro Morgannwg? OAQ51843

7. Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18 ( 6 Maw 2018)

Jane Hutt: Yn eich ail gyllideb atodol, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi'n gallu rhyddhau rhywfaint o arian o ganlyniad i'ch gwaith paratoi gofalus ar gyfer cyllideb mis Tachwedd 2017 y Canghellor a ffactorau cyllidol eraill. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn canlyniadau cadarnhaol i addysg a thai mewn perthynas â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. A wnewch chi egluro'r hyn yr oeddech yn gallu ei...

4. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ( 6 Maw 2018)

Jane Hutt: Sut mae dilyn hynna, arweinydd y tŷ? Hoffwn i ddiolch i bawb a oedd yn bresennol yn y seremoni plac porffor heddiw; mae hwn nawr yn goffa parhaol i gyn-Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe, Val Feld, hyrwyddwr cydraddoldeb. Nawr, roedd Cerys Furlong, prif weithredwr Chwarae Teg, yn y digwyddiad. Siaradodd hi am ei hymrwymiad i ddatblygu cydraddoldeb i fenywod, sy'n cyd-fynd yn llwyr â'ch...

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd (28 Chw 2018)

Jane Hutt: Ddoe, clywsom am argymhellion diweddaraf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ynglŷn â'r gweinyddiaethau datganoledig. Siomedig oedd clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet—er ei fod am fod yn adeiladol a chadarnhaol—pan ddywedodd eu bod wedi mynd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ac nad oedd papur wedi'i roi cyn yr argymhellion, sef argymhellion, wrth gwrs, sydd â bwriad...

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd (28 Chw 2018)

Jane Hutt: A gaf fi hefyd ddiolch i Mick Antoniw am ei adroddiad a'ch rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, a diolch hefyd i holl aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am yr adroddiad pwysig hwn? Credaf fod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn enghraifft o weithio trawsbleidiol cadarn iawn, ac rwyf wedi gweld hynny yn yr adroddiadau a gyflwynwyd ganddynt. Mae'n...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cefnogaeth i Gyn-filwyr (28 Chw 2018)

Jane Hutt: A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu cyfraniad gwirfoddolwyr yn y broses o gefnogi cyn-filwyr? Yn amlwg, mae gwirfoddolwyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac rwy'n falch iawn o fod yn aelod o gangen y Barri o'r lleng Brydeinig, sy'n gwneud cymaint o waith, nid yn unig o ran codi arian drwy apêl y pabi, ond hefyd drwy fentrau lleol fel Woody's Lodge—a gwn fod David Melding wedi sôn am...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), 22 Chwefror 2018 (27 Chw 2018)

Jane Hutt: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'ch trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Yr hyn sy'n drawiadol o'r datganiad hwn a'r ymatebion a'r cwestiynau yw eich bod yn ceisio bod yn gadarnhaol ond nad yw Llywodraeth y DU yn ymateb yn yr un modd. Ond rwyf yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gynnwys y gweinyddiaethau...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Chw 2018)

Jane Hutt: Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol ein bod ar ddechrau Pythefnos Masnach Deg, ac a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y rhai a enillodd wobrau yn seremoni Cymru o Blaid Affrica yn ddiweddar yn yr Amgueddfa Genedlaethol, gan gynnwys grŵp masnach deg Cyngor Tref y Barri a hefyd grŵp masnach deg Dinas Powys? Cawsant eu canmol, grŵp Dinas Powys, yn y categorïau cyfathrebu a chyllideb...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (27 Chw 2018)

Jane Hutt: A wnaiff y Prif Weinidog adlewyrchu anghenion ffermwyr mewn gwledydd sy'n datblygu mewn sylwadau a wneir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o drafodaethau Brexit?

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cronfa Pontio'r UE (14 Chw 2018)

Jane Hutt: Wel, rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf hefyd yn croesawu ymgysylltiad rhagweithiol Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol Cymru, nid yn unig gyda chyhoeddi cronfa bontio yr UE sy’n werth £50 miliwn, ond hefyd y buddsoddiad rhanbarthol a'r cynlluniau materion masnach. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod yn rhan o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, sy'n...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri (14 Chw 2018)

Jane Hutt: Wel, rwy’n croesawu hynny. Credaf fod hynny'n dangos rhywfaint o gynnydd, ond a ydych hefyd yn croesawu, fel finnau, y datganiad ddoe gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ei bod yn ystyried sut y caiff trwyddedau amgylcheddol eu rhoi yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae hi wedi ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddangos sut y mae Deddf Llesiant...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri (14 Chw 2018)

Jane Hutt: 5. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol yn dilyn y penderfyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i roi trwydded weithredu ar gyfer y datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri? OAQ51760

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cronfa Pontio'r UE (14 Chw 2018)

Jane Hutt: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro telerau ac amodau cronfa pontio'r UE o £50 miliwn? OAQ51762

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (14 Chw 2018)

Jane Hutt: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno achrediad cyflog byw go iawn i gyflogwyr o ganlyniad i'r cod ymarfer ar gaffael moesegol?

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018, gan gynnwys Trethi Newydd (13 Chw 2018)

Jane Hutt: A gaf i groesawu penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i roi prawf ar y pŵer newydd gyda'r dreth tir gwag? Mae'n ddefnyddiol gwybod bod ardoll safleoedd gwag Gweriniaeth Iwerddon yn cynnig man cychwyn defnyddiol ar gyfer treth o'r fath yng Nghymru. A fyddai'n cytuno y gallai treth o'r fath wneud rhywbeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cynyddol mewn cyfoeth, a'r ffordd y caiff ei...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil chwarae cynhwysol ( 7 Chw 2018)

Jane Hutt: Pleser o'r mwyaf yw cyfrannu at y ddadl ar y cynnig deddfwriaethol ar chwarae cynhwysol, a gyflwynwyd gerbron y Siambr gan Vikki Howells. Mae'n rhoi cyfle inni bwyso a mesur cynnydd ers y ddeddfwriaeth arloesol ar ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Cyfrannodd llawer o Aelodau—nad ydynt yma yn y Siambr ar hyn o bryd—at hynny. Mae'n werth nodi bod y...

5. Cynnig Comisiwn y Cynulliad: Ymgynghori ynghylch Diwygio'r Cynulliad ( 7 Chw 2018)

Jane Hutt: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn croesawu'r ymgynghoriad a fydd yn dilyn ar 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Rwy'n mynd i gyfeirio'n benodol at yr argymhellion, sy'n ceisio ehangu cyfranogiad menywod a phobl ifanc yn y Cynulliad hwn, Senedd Cymru. A chredaf ei bod yn briodol ein bod yn ystyried yr argymhellion hyn—nid wyf yn credu ei fod wedi'i gynllunio o...

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 7 Chw 2018)

Jane Hutt: Ddirprwy Lywydd, wrth i ni nodi canmlwyddiant y bleidlais rannol i fenywod yr wythnos hon gyda Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 ar 6 Chwefror 1918, gwn yr hoffem dalu teyrnged heddiw i fenywod o'r Barri a chwaraeodd eu rhan yn y mudiad, gan gynnwys Annie Gwen Vaughan-Jones, a oedd yn Ysgrifennydd Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch. Roedd Annie yn fyfyriwr yng ngholeg y...

6. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Canmlwyddiant y Bleidlais i Fenywod ( 6 Chw 2018)

Jane Hutt: A gaf i ddweud hefyd fy mod innau'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn gan arweinydd y tŷ ar ganmlwyddiant y bleidlais i fenywod? Rydym, fel y dywedwch, arweinydd y tŷ, yn dathlu heddiw Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl a basiwyd ar 6 Chwefror 1918. Rhoddodd i ferched yr hawl i bleidleisio gan nodi hefyd fod yn rhaid i fenywod fod dros 30, a bod yn rhaid iddyn nhw, neu eu gwŷr, fodloni'r...

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2016-17 ( 6 Chw 2018)

Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn croesawu adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a chroesawaf y pwyslais ar effaith niweidiol hapchwarae ar iechyd y cyhoedd. Mae'r Dr Atherton, ein prif swyddog meddygol yng Nghymru yn cyfeirio at y ffaith bod gan hapchwarae botensial mawr i achosi niwed i unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas ac mae'n galw am well ymchwil a monitro effaith hapchwarae ar...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.