Huw Irranca-Davies: Rwy’n diolch i Andrew am ildio ar y pwynt hwn, oherwydd mae’n codi’r mater pwysig bod Llywodraethau olynol, fel rhan o'r broses heddwch, yn hanesyddol, yn wir wedi dangos eu cymwynasgarwch i Ogledd Iwerddon er mwyn caledu’r broses heddwch—rhan o'r difidend heddwch, fel y’i gelwir. Hollol gywir. Mae hwn yn fater hollol wahanol. Byddwn yn gofyn iddo ystyried yn ofalus iawn y...
Huw Irranca-Davies: Cyn i mi ymateb i'r rhaglen ddeddfwriaethol go iawn, a gaf i godi un pwynt a wnaeth Simon Thomas am y mater o blastig a phlastigau yn yr amgylchedd morol, hefyd? Er nad yw'n ymddangos yma, rwy’n amau bod hwn yn rhywbeth y bydd angen i ni ddychwelyd ato, ac efallai y gwnaf awgrymu ar ddiwedd fy nghwestiwn byr i'r Prif Weinidog ymhle y gellid gwneud hynny mewn gwirionedd hefyd. Ond ni...
Huw Irranca-Davies: Bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod strategaethau Llywodraeth Cymru yn dibynnu’n fawr iawn ar ddarpariaeth rheng flaen, yn aml iawn gan fudiadau trydydd sector. Felly, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Ogwr, sefydliadau fel Drive, fel Cartrefi Cymru, fel Mirus, a hefyd gwasanaeth byw â chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—mae pob un o'r rhain yn cyflawni swyddogaeth...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Os felly, fy nhrydydd o'r llawer sydd gennyf o fy mlaen fydd hwn: mae'r Prif Weinidog yn wir wedi nodi yma nid yn unig ffordd gadarnhaol, gydweithredol ar y cyd ymlaen—ac mae'n dod ar draws yn glir iawn—ond mae hefyd yn cario ffon fawr iawn. Mae wedi dweud yn ei ddatganiad heddiw, os na fyddwn yn gweld y ffordd gadarnhaol, gydweithredol ar y cyd hon ymlaen, bod...
Huw Irranca-Davies: Fy ymddiheuriadau.
Huw Irranca-Davies: Rwyf fi, fel eraill, yn croesawu'r datganiad heddiw, ond hefyd y ddogfen, 'Brexit a Datganoli', yn ogystal. Byddwn yn dweud, hefyd, ein bod yn canmol unwaith eto y ffaith bod yma yn y Cynulliad—o fewn Llywodraeth Cymru—barodrwydd i sefyll a dangos arweinyddiaeth ar bethau sydd, i lawer o bobl, byddent yn dweud 'Pam y mae hyn yn bwysig?' Ac eto pe baech yn darllen y ddogfen sy'n sail i’r...
Huw Irranca-Davies: A gaf i groesawu'r newid busnes i roi sylw i fater sydd heb ei ddatrys sef cadeiryddiaeth CCERA? Rydym ni wedi gwneud yn dda iawn, ac rwy’n canmol yr Aelodau sydd wedi cylchdroi drwy'r gadeiryddiaeth, ar ôl colli'r Cadeirydd am gyfnod byr, ond fel y mae unrhyw un yn gwybod pan fyddwch chi heb Gadeirydd am gyfnod hir, mae angen i chi orffwys eich coesau yn y pen draw. Bydd yn dda cael...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr i’r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb hwnnw ac mae’n ymddangos bod gwaith yn mynd rhagddo yn ei adran i edrych ar hyn. Ond a yw’n rhoi unrhyw sylw i’r pryderon a godwyd gan sylwebwyr sy’n awgrymu, er na ellid dadlau ar yr wyneb â’r cysyniad o gronfa gyd-ffyniant—mae’n swnio’n hynod o gynnes a meddal a theg a chyfiawn a bydd gan bawb gyfran ynddi—y dilema yma...
Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r cwestiwn, a’r ateb hefyd, oherwydd rhaid inni gydnabod bod Pen-y-bont ar Ogwr, fel eraill, yn dechrau o sylfaen gymharol isel o ran y ddarpariaeth yng Nghymru. Yn sicr, yn y cyfnod y bûm yn cynrychioli’r sedd mewn gwahanol sefydliadau, mae wedi darparu cyfleuster addysg uwchradd yn Llangynwyd bellach. Ceir galwadau gan rieni y dylai fod yn fwy canolog, ac rwy’n...
Huw Irranca-Davies: 2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch y goblygiadau cyfreithiol i Gymru o ran y bwriad i sefydlu cronfa cyd-ffyniant gan Lywodraeth y DU? OAQ(5)0040(CG)
Huw Irranca-Davies: Dim ond pwynt byr iawn ydi e: rwy'n credu mai un o'r pethau na ddylem ei golli—rwy’n deall bod llawer o'r pwyslais heddiw wedi bod ar ardaloedd dynodedig, ond nid wyf eisiau colli'r peth y mae’r adroddiad hwn yn mynd â ni ymlaen arno, lle mae'n dweud mai awydd Tirweddau Dyfodol Cymru yw datgloi potensial llawn pob tirwedd yng Nghymru, gan gynnwys tirweddau dynodedig. Ac mae hynny’n...
Huw Irranca-Davies: Wrth gyfrannu at y ddadl hon, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Dafydd a'i weithgor am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud? Nid yw hwn yn llwybr hawdd ei ddilyn, ac i gyflwyno gwahanol fuddiannau, diddordebau weithiau'n cystadlu, ond i'w cael ar yr un dudalen—ac rwy'n credu bod y Gweinidog wedi dweud yn ei sylwadau agoriadol fod hyn yn rhan o daith, wrth symud ymlaen. Bydd angen trafod ac...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Cadeirydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n clerc a’n tîm ymchwil a chymorth deddfwriaethol, a hefyd i aelodau diwyd ein pwyllgor am graffu ar y Bil hwn, y gwnaethom adrodd amdano ar 24 Mai, gan wneud 12 argymhelliad? Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn deall ei bod yn ddyletswydd arnom i fod yn daer am ddeddfwriaeth dryloyw ac eglur a chraffu trylwyr, felly rwy'n gwybod na fydd...
Huw Irranca-Davies: A gawn ni, yng ngoleuni cilio llwfr diweddar yr Arlywydd Trump oddi wrth un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu’r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol ar y newid yn yr hinsawdd, ddod o hyd i amser ar gyfer datganiad arall gan ein Hysgrifennydd y Cabinet ar y newid yn yr hinsawdd? Y llynedd, pan ddychwelodd Ysgrifennydd y Cabinet o'r trafodaethau a'r gynhadledd yn Marrakesh, fe eglurodd hi...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Y penwythnos hwn bydd Eisteddfod yr Urdd yn dod i gampws Pencoed Coleg Pen-y-bont. Bydd miloedd lawer yn teithio i’r ardal o bob cwr o Gymru i fwynhau’r ŵyl ar gyfer diwylliant Cymru, ieuenctid Cymru a’r iaith Gymraeg. Rydym yn falch iawn o groesawu Eisteddfod yr Urdd ac rwyf innau’n falch iawn o’r ffordd y mae fy nghymunedau lleol wedi cymryd at un o’r...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Ond gan siarad fel hyrwyddwr cornchwiglod y Cynulliad, nodaf fod y cyfarwyddebau cynefinoedd ac adar yn sicrhau y gellir amddiffyn a gwella nifer o rywogaethau a chynefinoedd pwysig ledled Cymru. Mae ein safleoedd arbennig yn cynnwys twyni tywod arfordirol, gorgorsydd, gwlyptiroedd, safleoedd morol, oll o dan y ddeddfwriaeth hon, ac mae...
Huw Irranca-Davies: 1. Pa sicrwydd y gwnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i sicrhau y caiff yr amddiffyniadau amgylcheddol sydd yn eu lle o dan ddeddfwriaeth yr UE, yn arbennig cyfarwyddebau natur, eu cadw yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0140(ERA)
Huw Irranca-Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Huw Irranca-Davies: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymweliadau diweddar ag ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond hefyd â'r rhagnodi cymdeithasol y mae wedi ei weld ar waith yn y clystyrau yng nghwm Llynfi isaf a phorth y Cymoedd. Ond hefyd, yng nghwm Llynfi, roedd yn gweld rhwydweithiau eraill yn y gymuned, ynghyd ag Ysbryd Coetir Llynfi, ynghyd ag ysgolion...
Huw Irranca-Davies: Rwyf i a’m teulu, fel mae llawer wedi gwneud heddiw, yn estyn ein cydymdeimlad llwyraf at Julie a'i theulu i gyd yn ystod yr amser anodd hwn, ond rwy’n gobeithio bod rhai o'r teyrngedau heddiw o gysur mawr iddi hi a'i theulu. Daeth cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, i roi tystiolaeth yn bersonol i'n pwyllgor dim ond pythefnos yn ôl, ar gyfer yr ymchwiliad 'Llais cryfach i Gymru',...