Canlyniadau 1321–1340 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Technolegau Digidol mewn Ysgolion Cynradd
(10 Mai 2017)

Alun Davies: Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn ymuno â phawb i groesawu’r ffaith ein bod bellach wedi cyflawni’r cysylltedd y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn. Credaf iddo ofyn cwestiwn yn ei gylch rai misoedd yn ôl, ac rydym bellach wedi cyflawni ein huchelgais yn hyn o beth. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad ynglŷn â sut yr awn gam ymhellach, a buddsoddi hyd yn oed mwy o adnoddau er mwyn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Technolegau Digidol mewn Ysgolion Cynradd
(10 Mai 2017)

Alun Davies: Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ddelyn. Mae ysgol gynradd gymunedol Parc Cornist wedi gwneud cryn gynnydd ers cael ei henwi’n ysgol arloesi ddigidol, gan ddod yn fuddugol, wrth gwrs, yn y categori e-ddiogelwch yng ngwobrau dysgu digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn 2016. Mae hyn bellach, wrth gwrs, wedi’i droi yn astudiaeth achos er mwyn i eraill ddeall a...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Technolegau Digidol mewn Ysgolion Cynradd
(10 Mai 2017)

Alun Davies: Drwy raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o dechnolegau digidol a ariennir yn ganolog ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym yn darparu offer ac adnoddau digidol drwy Hwb ac yn buddsoddi’n sylweddol mewn cysylltedd band eang. Fodd bynnag, mae gan ysgolion reolaeth ddirprwyedig i sicrhau bod y technolegau digidol mwyaf priodol ar gael i’w dysgwyr.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Addysg Alwedigaethol
(10 Mai 2017)

Alun Davies: Gallaf. Rydym yn amlwg yn croesawu’r gwelliant, ond rydym hefyd yn teimlo’n rhwystredig gan ein bod yn awyddus i symud ymhellach ac yn gyflymach. Mae’r sgyrsiau rwyf wedi’u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn canolbwyntio ar sut rydym yn sicrhau bod y bwlch cyrhaeddiad yn cau, a sut rydym yn sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael y gefnogaeth briodol...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Addysg Alwedigaethol
(10 Mai 2017)

Alun Davies: Mae’r rhaglen brentisiaethau iau, a weithredir ar y cyd â Choleg Caerdydd a’r Fro, yn astudio llwybrau allweddol megis adeiladu, modurol, ac yn paratoi dysgwyr i gamu ymlaen yn uniongyrchol i raglenni prentisiaeth llawn pan fyddant yn eu cwblhau yn 16 oed.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Addysg Alwedigaethol
(10 Mai 2017)

Alun Davies: A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr â’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn? Mae’n bwysig fod gan bob dysgwr fynediad at gwricwlwm sy’n gweddu orau i’w llwybrau dysgu unigol ac sy’n bodloni eu hystod eang o ddiddordebau a galluoedd, a bod parch cydradd rhwng y dewisiadau hynny. Bydd yr Aelodau’n falch o glywed, yn y flwyddyn academaidd hon, fod pob ysgol a choleg...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Addysg Alwedigaethol
(10 Mai 2017)

Alun Davies: Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed yn bwysig iawn. Drwy Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, mae pob dysgwr yn cael cynnig o leiaf tri chymhwyster galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4 mewn cynigion cwricwlwm lleol.

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Rwy'n credu mai ehangu’r cwestiwn oedd y peth gorau i'w wneud, mewn gwirionedd, Hefin. [Chwerthin.] O ran canolfannau ieuenctid unigol, ni fyddai'r Aelod yn disgwyl i mi roi unrhyw ymrwymiadau na allaf eu rhoi ar gyfer ariannu sefydliadau. Ond gadewch i mi ddweud hyn: mae gennym dirwedd sy'n newid, fel y dywedodd yr Aelod, ac fe wnes i fwynhau’r ymweliad pan ymunais ag ef yn SYDIC yr...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Ydw, rwy’n ailadrodd yr ymrwymiadau a wnes o flaen y pwyllgor, a byddaf yn fwy na pharod i ddod i’r pwyllgor eto, ar ei gais, er mwyn parhau â’r sgwrs hon ac amlinellu ymhellach sut y byddem yn disgwyl ac yn rhagweld i’r maes polisi hwn ddatblygu dros y cyfnod nesaf. Rwy'n hynod bryderus—. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed gan Julie Morgan am waith ieuenctid yn hytrach na...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Fel y bydd yr Aelod yn sylweddoli, nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at fy ateb cynharach i Mike Hedges am y sgyrsiau a gynhaliwyd a'r datganiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, felly nid wyf am ychwanegu at hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rydw i ac Ysgrifennydd y Cabinet yn sgwrsio’n rheolaidd am hyn a materion eraill. Rydym yn cyfarfod yn...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Rydych yn gwybod mai 'diwedd y gân yw'r geiniog'. Mae cyllid yn amlwg yn bwysig. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi gwneud datganiadau ar ddyfodol Cymunedau yn Gyntaf, ac nid oes gennyf unrhyw beth i'w ychwanegu at hynny. O ran 'mentrau iaith', byddant yn rhan allweddol o strategaeth yr iaith Gymraeg yn gyffredinol, sy'n ceisio cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Mae’r Aelod yn disgrifio rhai o'r problemau sy'n wynebu gwaith ieuenctid a gwasanaethau gwaith ieuenctid o ran sefyllfa gyffredinol cyllid llywodraeth leol ac adnoddau llywodraeth leol. Mae hynny'n cael ei ddeall yn dda ac nid yw'r Llywodraeth yn arswydo nac yn anghytuno â chasgliadau'r pwyllgor ar hyn. Rydym yn deall bod awdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd iawn, yn wynebu rhai...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Rwy'n credu y byddai’r Aelodau ar draws y Siambr gyfan yn awyddus i longyfarch a diolch i Lynne am y ffordd y mae nid yn unig wedi arwain yr ymchwiliad i waith ieuenctid, ond hefyd nad yw wedi rhoi'r gorau i’w arwain ar ôl i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad. Yn sicr, fel Gweinidog, byddwn yn dweud ei bod yn heriol eistedd yn ymyl Cadeirydd pwyllgor sydd ag ymrwymiad mor gryf i'r...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar iawn am groeso cyffredinol llefarydd y Ceidwadwyr i benodiad Margaret Jervis a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddefnyddio. Gallaf yn sicr gadarnhau y bydd hi nid yn unig yn troi at bleidiau gwleidyddol, ond rhanddeiliaid ar draws wyneb y wlad ac ar draws gwahanol rannau o'r gymuned. Felly, byddwn yn sicr yn disgwyl ac yn rhagweld y bydd hi’n croesawu cyfraniadau gan bob...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Dirprwy Lywydd, rwy’n credu bod Llyr wedi dod i galon y drafodaeth yma yng nghalon ei gwestiynau a’i gyfraniad hynod o bwysig. ‘Pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid?’ oedd y cwestiwn y gofynnoch chi, wrth gwrs, a dyna’r cwestiwn rydw i’n trio ei ateb yng nghraidd y datganiad yma: pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid? Mae’n bwysig nad yw gwaith ieuenctid yn cael ei yrru yn uniongyrchol...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gan waith ieuenctid o ansawdd uchel swyddogaeth hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi llawer o bobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial. Mae gweithwyr ieuenctid yn addysgwyr, pa un a yw hyn yn digwydd mewn clwb ieuenctid cymunedol, ar y strydoedd, neu i gefnogi addysg ffurfiol mewn ysgolion. Mae arferion gwaith ieuenctid yn golygu bod pobl ifanc yn gallu cael...

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Alun Davies: Wrth symud ymlaen, byddwn yn disgwyl i'r bwrdd gynghori ar weithredu a monitro 'Ymestyn Hawliau' yn briodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w cael.  Rhan o swyddogaeth y bwrdd fydd rhoi sicrwydd bod y prosesau a'r arferion ar gyfer comisiynu gwasanaethau cymorth ieuenctid yn deg, yn dryloyw ac yn gyfiawn. Bydd hyn yn cynnwys...

9. 7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg (29 Maw 2017)

Alun Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Diolch am ddiogelu fy hawl i siarad—[Torri ar draws.]. Diolch am ddiogelu fy hawl i siarad yn ein Senedd genedlaethol ni. A gaf i ddweud hyn? Rydw i hefyd yn cytuno â’r ffordd mae rhai siaradwyr y prynhawn yma wedi dweud y buaswn i ddim wedi dewis trafod un cynnig i newid un ysgol mewn un gymuned ar draws Cymru. Mi fuasai’n well gen i gael trafodaeth amboutu...

9. 7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Ysgolion Cyfrwng Cymraeg (29 Maw 2017)

Alun Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i’n falch fy mod i’n gallu cytuno gydag o leiaf brawddeg olaf Dai. Ond a gaf i ddweud hyn? [Torri ar draws.] A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn? A gaf i ddweud hyn, wrth ymateb ar ran y Llywodraeth? Pan fyddem ni’n trafod yr iaith Gymraeg fel arfer yn y Siambr yma, rydym ni’n clywed y fath o areithiau glywom ni gan Darren Miller a Simon Thomas, ac...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.