Llyr Gruffydd: Iawn. Wel, mi allwn i ddarllen y dyfyniad i chi, ond ni wnaf hynny; fe ysgrifennaf atoch chi. Ond, i bob pwrpas, mae yn honiad bod yr arian PDG yn cael ei gyfeirio at bwrpasau eraill, sydd, i bob pwrpas, yn propio lan y lefelau staffio mewn ysgolion. Mae’r pwyllgor hefyd wedi clywed bod yna anghysondeb sylweddol yn yr arian y mae ysgolion yn ei dderbyn o un rhan o’r wlad i’r llall. Yn...
Llyr Gruffydd: Wel, rwy’n ofni dweud rhywbeth a dweud y gwir, ond, diolch, Lywydd. [Chwerthin.] Rwyf innau am fynd ar ôl thema eithaf tebyg, ond efallai mewn modd gwahanol iawn—fe ddywedwn i fel yna. Mae’r pwyllgor addysg dros y misoedd diwethaf wedi clywed cryn dystiolaeth ynglŷn â’r pwysau y mae’r ysgolion yn ei wynebu ar hyn o bryd o safbwynt trafferthion gyda chapasiti a phwysau gwaith i...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyfywedd y diwydiant amaeth yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae’n ddatganiad yr wyf yn ei groesawu ac mae yn rhoi mwy o hyder i mi fod Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb o safbwynt addysg Gymraeg a thwf addysg Gymraeg o ddifri, a hefyd bod y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw busnes fel arfer yn ddigon da ac na fyddai hynny yn cwrdd â’r nod sydd wedi cael ei adnabod. Byddwch yn gwybod fy...
Llyr Gruffydd: Wel, ar yr un thema, yn amlwg mae yna ymchwil gan YouGov y llynedd sydd wedi dangos mai dim ond 7 y cant o bobl rhwng 18 a 24 oed a oedd yn ystyried prentisiaeth fel yr opsiwn gorau iddyn nhw, i’w gymharu â 68 y cant a oedd yn gweld mai addysg uwch oedd yn cynnig yr opsiwn gorau iddyn nhw. Felly, mae’r canfyddiad yn dal i fod yna, onid yw e, rydw i’n meddwl, nad oes yna barch cydradd,...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ateb. Mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru, wrth gwrs, wedi galw am gofnod o’r niferoedd o bobl sydd ar y sbectrwm er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau yn fwy effeithiol ac yn fwy cynhwysfawr. Nawr, mi fydd disgwyl cofnod, wrth gwrs, o’r bobl awtistig sydd â chynllun gofal o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, ond mae nifer o bobl ag...
Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer pobl ar y sbectrwm awtistiaeth yng Nghymru? OAQ(5)0509(FM)[W]
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol Marchnadoedd Da Byw Cymru?
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. A gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi ei fynegi i’r prif arolygwr a’i dîm yn Estyn am y gwaith maen nhw’n ei wneud, a hefyd am y modd y maen nhw yn ymgysylltu â’r pwyllgor plant a phobl ifanc yma yn y Cynulliad drwy gynnig tystiolaeth a bod mor barod—yn y cyd-destun yma beth bynnag—i ddod â’u adroddiad blynyddol ger ein bron ni? Rydw innau hefyd am...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ddiffyg argaeledd adnoddau dysgu dwyieithog a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar addysg Gymraeg? Mae’n rhywbeth sydd wedi codi ei ben o dro i dro dros y misoedd diwethaf, ond mi wnes i ddeall heddiw na fydd TGAU seicoleg yn cael ei dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn un lle y flwyddyn nesaf, a hynny oherwydd yr...
Llyr Gruffydd: A gaf i gefnogi’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y ddau siaradwr hyd yma—yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Aelod dros Delyn? Yn amlwg, mae yna neges glir sydd angen ei rhoi i Ganghellor y Trysorlys gyda golwg ar y gyllideb yfory. Byddwn i yn gwerthfawrogi os byddech chi yn ymhelaethu ychydig ynglŷn â beth yn union byddech chi’n hoffi ei weld o safbwynt cefnogaeth i sicrhau dyfodol...
Llyr Gruffydd: Rwyf innau yn mynd i achub ar y cyfle hefyd, rwy’n meddwl, i ddathlu ein llwyddiannau ni gan ei bod hi’n ddydd cenedlaethol arnom ni heddiw, a chymryd ysbrydoliaeth, fel rydym wedi ei glywed, o’n hanes ni wrth fynd i’r afael â nifer o’n heriau ni heddiw. Mi oedd yr Aelod dros Gastell-nedd yn sôn am ein hasedau ni. Wel, un o’r asedau pennaf sydd gyda ni fel cenedl, wrth gwrs, yw...
Llyr Gruffydd: Rwyf wedi codi ar fy nhraed yn y Siambr yma nifer o weithiau yn y gorffennol yn beirniadu’r bwrdd iechyd ac yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet ac eraill at nifer o broblemau a rhwystredigaethau. Felly, mae hi ond yn deg fy mod i’n llongyfarch ar adegau pan fo yna le i wneud hynny i’r bwrdd iechyd, ac, yn y cyd-destun yma, i’w llongyfarch nhw ar y defnydd o’r ap ynglŷn ag amserau...
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth y llywodraeth i amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Mi ddechreuaf i drwy gyfeirio at yr hyn yr oedd Adam yn sôn amdano fe yn ei araith agoriadol, ynglŷn â’r ffaith fod y banciau mwyaf yn dueddol o gau banciau mewn niferoedd anghymesur yn yr ardaloedd tlotaf sydd gennym ni—yr ardaloedd â’r incwm isaf—tra, wrth gwrs, yn agor canghennau yn rhai o’r ardaloedd cyfoethocaf. Mae ymchwil gan Reuters yn dangos bod mwy na 90 y cant o’r...
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am leoliad Awdurdod Cyllid Cymru?
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei sylwadau agoriadol, llawer ohonyn nhw y byddwn i’n cytuno yn llwyr â nhw, yn enwedig o safbwynt y TEF? Rydw i’n croesawu’r neges glir ynglŷn â’r cyfeiriad yr ydych chi’n bwriadu symud iddo ar y mater yma. Yn wir, mae yna lawer yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma na fyddwn i, yn sicr, yn ei wrthwynebu. Ond mae yna gwestiwn...
Llyr Gruffydd: Ni fydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu’r rheoliadau hyn—[Torri ar draws.] Ni fyddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau hyn, er eglurder, heddiw. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig efallai ein bod yn ystyried rhai o'r pryderon a godwyd, yn bennaf gan undebau athrawon, ond hefyd gan eraill yn y sector hwn, ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Gweithlu Addysg. Nawr, yn amlwg, ar hyn o bryd mae’n cynnwys...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Yn amlwg, mae e’n rhywbeth rŷm ni yn barod iawn i’w gefnogi o safbwynt creu y gronfa neu’r gwaddol cenedlaethol yma. Fel rŷch chi’n ei ddweud, mae cerddoriaeth yn gallu rhoi profiadau mynegiadol i bobl ifanc. Mae’n gallu rhoi profiad o ymbweru iddyn nhw hefyd. Mae e yn sicr yn cryfhau hyder a hunan-barch unigolion, ac mae...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y diwydiant dŵr yng Nghymru?